Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers 1 Ionawr 2021, nid yw’r DU wedi bod yn rhan o gytundebau masnach yr UE. Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio atgynhyrchu effeithiau cytundebau masnach yr oedd yn rhan ohonynt yn y gorffennol er mwyn sicrhau parhad ar gyfer busnesau'r DU. Yn y lle cyntaf, nod Llywodraeth y DU oedd ceisio atgynhyrchu'r holl gytundebau masnach a negodwyd gan yr UE – tua 40 o gytundebau a oedd yn cynnwys dros 70 o wledydd  – erbyn diwedd y Cyfnod Pontio. Roedd masnach gyda'r gwledydd hyn yn cyfrif am ryw 12.5% o gyfanswm masnach nwyddau Cymru yn 2019.

Hyd yma, mae 32 o gytundebau wedi cael eu llofnodi'n ffurfiol gyda thua 61 o wledydd; mae rhestr lawn ohonynt i’w gweld yn atodiad A. Rydym yn croesawu’r cytundebau gan y byddant yn lleihau’r effeithiau ar fusnesau o Gymru sy'n masnachu gyda'r marchnadoedd hynny. Fodd bynnag, nid yw'r holl gytundebau wedi cael eu hatgynhyrchu. Nid oes cytundebau parhad ar waith gydag Algeria,

Bosnia-Herzegovina, Serbia, Albania, Gwlad yr Iorddonen, Ghana na Montenegro. 

O’r 12.5% o fasnach nwyddau Cymru a oedd yn cael termau mwy ffafriol ar gyfer masnach nad oedd yn rhan o’r UE pan oedd y DU yn aelod o’r UE, bellach mae tua 11% o fasnach nwyddau Cymru yn dod o dan y cytundebau a lofnodwyd erbyn 1 Ionawr 2021. Mae hynny'n gadael tua 1.5% o fasnach nwyddau Cymru – yn bennaf yn sgil masnach gydag Algeria sydd i gyfrif am 1.2% o’r cyfanswm. 

Mae'n bwysig nodi hefyd nad yw'r holl gytundebau hyn yn cwmpasu'r un ystod yn union o faterion ag yr ymdriniwyd â nhw yng nghytundebau'r UE sy’n cael eu disodli. Er enghraifft, dim ond nwyddau y mae'r cytundeb gyda gwledydd sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)/ Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yn ymdrin â nhw, felly bydd angen negodi cytundeb ar wasanaethau yn y dyfodol er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd sector gwasanaethau'r DU yn colli mynediad i'r farchnad. Ar ben hynny, nid yw rhai o'r cytundebau mewn llawn rym eto, felly mae trefniadau pontio ar waith er mwyn sicrhau bod modd parhau i fasnachu, a bod cyn lleied o effaith â phosibl arno. Y trefniant pwysicaf yw'r Cytundeb Masnach gyda Canada, lle mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y partïon a fydd yn cadw masnach yn ddi-dariff nes y bydd Seneddau Canada a'r DU yn gallu cymeradwyo'r cytundeb masnach llawn. Mae cymalau adolygu mewn nifer o’r cytundebau hefyd, sy'n golygu y bydd trafodaethau'n cael eu hailagor eto yn y dyfodol.

Mae'r cytundebau hyn, wrth gwrs, yn bodoli ochr yn ochr â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a’r DU, sy'n rhoi mynediad heb dariffau a chwotâu i allforion o’r DU i'r UE, ond a fydd hefyd yn arwain at gyfres o rwystrau newydd sylweddol heblaw tariffau a fydd yn effeithio ar fasnach. Ar hyn o bryd, nwyddau a allforir i'r UE sydd i gyfrif am 58.5% o’r holl nwyddau sy’n cael eu hallforio o Gymru.

Atodiad A

Statws Cytundebau Parhad

Trefniadau ffafraethol na fyddant ar waith ar 1 Ionawr

• Albania

• Gwlad yr Iorddonen

• Ghana

• Algeria

• Bosnia a Herzegovina

• Montenegro

• Serbia

Trefniadau ffafraethol a fydd mewn grym neu mewn effaith ar 1 Ionawr

• Andeaidd

o Columbia

o Ecwador

o Periw

• Cameroon

• Canada

• Cariforum

o Antigwa a Barbuda

o Barbados

o Santt Christopher a Nevis

o Belize

o Bahamas

o Sant Lucia

o Dominica

o Y Weriniaeth Ddominicaidd

o Grenada

o Jamaica

o Sant Vincent a'r Grenadines

o Trinidad a Tobago

o Gaiana

• Canolbarth America

o Costa Rica

o El Salvador

o Guatemala

o Hondwras

o Nicaragwa

o Panama

• Chile

• Côte d'Ivoire

• ESA

o Mawrisiws

o Seychelles

o Simbabwe

• Yr Aifft

• Ynysoedd Faroe

• Georgia

• Gwlad yr Iâ

• Norwy

• Israel

• Japan

• Cenia

• Kosovo

• Libanus

• Liechtenstein

• Mecsico

• Moldofa

• Moroco

• Gogledd Macedonia

• Y Môr Tawel

o Fiji

o Papua Gini Newydd

o Samoa

o Ynysoedd Solomon

• Awdurdod Palesteina

• Singapôr

• De Korea

• Undeb Tollau Deheudir Affrica + Mozambique

o Botswana

o Eswatini

o Lesotho

o Mozambique

o Namibia

o De Affrica

• Y Swistir

• Tiwnisia

• Twrci

• Wcráin

• Fietnam

Cytundebau parhad ac ynddynt gymalau ailnegodi

- Y Swistir

- Canada

- Mecsico

- De Korea

- Singapôr

- Twrci