Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi, addewais y byddwn yn cyhoeddi datganiad o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Uwchgynhadledd NATO Cymru, ynghyd ag amcan o’r buddion i’r economi. Ers cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddiad y DU NATO Cymru 2014, mae bellach yn bosibl i ni gyhoeddi datganiad o’r gost i Lywodraeth Cymru yn sgil cynnal Uwchgynhadledd NATO a gweithgareddau cysylltiedig yng Nghymru.  

Llywodraeth y DU, fel y wladwriaeth oedd yn cynnal yr Uwchgynhadledd, dalodd y rhan fwyaf o’r costau. Gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU i helpu i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad da o Gymru a manteisio ar y buddion ehangach i’r wlad.

Cyfanswm y gwariant gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru oedd tua £3m, mewn dau gategori bras:

Cynnal Uwchgynhadledd ddiogel a llwyddiannus

Roedd hyn ar gyfer prynu offer a gwasanaethau yn gysylltiedig â gwella’r seilwaith diogelwch a chadernid, rheoli a chynnal y rhwydwaith trafnidiaeth lleol, gwella diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd, rhoi trefniadau iechyd brys ar waith a chydgysylltu gwasanaethau brys. Bydd Llywodraeth Cymru a/neu bartneriaid sector cyhoeddus yn cadw’r offer a brynwyd a’r gwelliannau i seilwaith er mwyn eu defnyddio ar ôl yr Uwchgynhadledd. Bydd hyn yn helpu gyda pharhad busnes a rhoi cynlluniau sifil wrth gefn ar waith.

£2m

Rhoi Cymru ar lwyfan byd-eang

Roedd hyn yn ymwneud â gweithgarwch hyrwyddo a marchnata, gan gynnwys digwyddiadau yn Llundain, Brwsel a Washington, digwyddiadau milwrol cyhoeddus yng Nghasnewydd a Chaerdydd, derbyniad i gyfryngau’r byd yng Nghasnewydd, brandio mewn mannau allweddol o amgylch Casnewydd a Chaerdydd, cardiau post gan blant i arweinwyr NATO, a gweithgareddau hyrwyddo eraill. 

£1m

£3,000,000

Uwchgynhadledd NATO Cymru oedd y digwyddiad mwyaf o’i fath i’w gynnal erioed yn y Deyrnas Unedig, ac roedd yn gyfle digyffelyb i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang. Gweithiodd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y GIG ac ystod o asiantaethau eraill gyda Llywodraeth y DU a NATO i sicrhau uwchgynhadledd ddiogel a chofiadwy.  

Llywodraeth y DU a arweiniodd proses gaffael yr Uwchgynhadledd a deellir yr enillodd nifer o gyflenwyr o Gymru gontractau ar gyfer y digwyddiad. Er enghraifft, cafodd y seilwaith ffibr yn Celtic Manor ei wella gan Advanced Satellite Solutions, a Power Electrics o Ben-y-bont ar Ogwr a ddarparodd y mwyafrif o’r generaduron diesel ar y safle. Darparodd nifer o gyflenwyr bwyd o Gymru y cynnyrch a’r gwasanaethau i’r digwyddiadau oedd yn gysylltiedig â’r Uwchgynhadledd. Hefyd, deellir y cadwyd 24,000 o nosweithiau ystafelloedd gwely ar gyfer yr uwchgynhadledd yn ninasoedd Casnewydd, Caerdydd a Bryste, gan roi hwb mawr i’r sector twristiaeth yng Nghymru.  

Daeth 66 o gynrychiolaethau i’r Uwchgynhadledd, ynghyd â 1,500 o’r cyfryngau ledled y byd. Rhoddodd holl brif orsafoedd newyddion teledu yr Unol Daleithiau sylw i’r digwyddiad deuddydd yn eu rhaglenni newyddion yr hwyr, gan gynnwys sylw i’r cinio agoriadol yng Nghastell Caerdydd. Ac wrth gwrs, soniodd yr Arlywydd Obama ar gamera am harddwch eithriadol, pobl wych a lletygarwch arbennig Cymru, gan annog pawb o’r Unol Daleithiau i ddod ar ymweliad â Chymru. Nid oes modd cyfrifo gwerth cyfun cyhoeddusrwydd o’r fath.    

Cafodd datganiadau i’r wasg gan Lywodraeth Cymru cyn ac ar ôl y digwyddiad eu codi gan 550 o ffynonellau newyddion, gyda swm cyfwerth â gwerth hysbysebu o oddeutu £900,000. O ran y cyfryngau cymdeithasol, roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys datblygu ffilm “Croeso i Gymru”, gyda thalent o Gymru, sydd wedi cael ei wylio rhyw 13,000 gwaith hyd yn hyn. Roedd datblygu stamp a hashnod ‘O Gymru’ yn cyfle i hyrwyddo busnesau, twristiaeth, bwyd a diwylliant Cymru o dan thema gyffredin ar gyfer yr Uwchgynhadledd. Defnyddiwyd hyn ar Twitter yng Nghymru a thrwy’r rhwydwaith o Lysgenadaethau Prydeinig tramor.

Cafodd proffil Cymru ei godi gan Uwchgynhadledd NATO a manteisiwyd ar hyn drwy Uwchgynhadledd Buddsoddi’r DU Cymru yn y Celtic Manor ar 21 Tachwedd. Roedd hyn yn tynnu ynghyd fuddsoddwyr, arweinwyr busnes, y Prif Weinidog a Gweinidogion o bedwar ban byd.  

Yn yr Uwchgynhadledd hon, cyhoeddais becyn o brosiectau buddsoddi sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Y prosiect mwyaf yw Deloitte, a fydd yn creu tua 700 o swyddi yng Nghymru. Mae prosiectau eraill ar y gweill gan Griffin Place Communications yng Nghwmbrân, Raytheon ar Lannau Dyfrdwy, Smartpipe Solutions yng Nghwmbrân, SPTS Technologies yng Nghasnewydd, ac Essentra sydd hefyd yng Nghasnewydd. Gyda’i gilydd, mae’r pecyn hwn yn creu mwy na 1,100 o swyddi. Cyhoeddais hefyd fwy o gymorth ar gyfer Airbus ym Mrychdyn, gyda phecyn cyllid o £8.1 miliwn ar gyfer hyfforddiant. Mae hyn yn dangos hyder mawr yng Nghymru a’r hyn sydd gennym i’w gynnig fel gwlad. Fel rwyf wedi dweud droeon, yr hysbyseb orau i Gymru yw’r buddsoddwyr sy’n dewis dod yma oherwydd bod gennym y bobl, y sgiliau, y seilwaith a’r arbenigedd i gystadlu yn y farchnad fyd-eang.

Roedd Uwchgynhadledd NATO yn gyfle gwych i Gymru. Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu ac asiantaethau eraill i drefnu uwchgynhadledd wych, ynghyd â digwyddiadau cysylltiedig. Dylai Cymru fod yn falch o’i llwyddiant, a’r hwb a fydd i enw da ein gwlad am flynyddoedd i ddod.

Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau, byddaf yn fodlon gwneud hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd.