Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwella mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon, fel y nodir yn yr ymrwymiad a wnaed yn Symud Cymru Ymlaen i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Rhoddwyd pwyslais sylweddol ar hyn drwy gydol y rhaglen i ddiwygio'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac mae'r contract newydd yn 2019-20 yn pwysleisio pwysigrwydd mynediad at y gwasanaethau hyn.   

Mae canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol 2018-19 yn dangos cynnydd yn lefel y boddhad â gwasanaethau meddygon teulu, ond mae canran uchel o bobl (40%) yn parhau i'w chael yn anodd gwneud apwyntiad, er y bu rhywfaint o wella yn y maes hwn o'i gymharu â 2017-18.   

Er mwyn inni wella ein dealltwriaeth o anghenion pobl Cymru a'r hyn sydd y tu ôl i'r ystadegau, yn yr hydref 2018 comisiynais ymchwil i edrych ar ganfyddiadau a phrofiadau pobl wrth iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau; y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at ofal ym mhractis eu meddyg teulu; a'r hyn y mae mynediad da yn ei olygu iddynt. 

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn dangos yn glir bod pobl ym mhob rhan o'r wlad yn awyddus i weld gwelliant yn y mynediad at wasanaethau ym mhractis eu meddyg teulu, ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau’r newidiadau angenrheidiol drwy ein contractau Gofal Sylfaenol. Mae'r adroddiad llawn ar gael yn https://gov.wales/accessing-primary-care-services-qualitative-research.

 Bu casgliadau'r ymchwil hon yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu'r safonau ar gyfer mynediad at wasanaethau meddygon teulu y tu mewn i oriau arferol, a gyhoeddais fis Mawrth diwethaf, ac sy'n fecanwaith ar gyfer sicrhau gwelliant a darparu eglurder ynghylch yr hyn a ddisgwylir - i weithwyr proffesiynol a chleifion fel ei gilydd. Mae cysylltiad clir rhwng argymhellion yr adroddiad a'r gwelliannau yr ydym yn awyddus i'w gweld drwy fod y safonau mynediad yn cael eu cyflawni. Mae hyn, ochr yn ochr â'r buddsoddiad sylweddol o oddeutu £13 miliwn a wneir drwy'r Contract newydd ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn 2019-20, sy'n ymwneud yn benodol â mynediad, er mwyn helpu i sicrhau'r gwelliant y mae pobl am ei weld, gan ei wneud yn haws i bobl gael y gofal y mae ei angen arnynt. 

Serch hynny, rwy'n cydnabod mai taith barhaus fydd y gwaith gwella hwn, ac y bydd angen rhoi ystyriaeth bellach i rai meysydd yn yr adroddiad, gan gynnwys edrych ar yr enghreifftiau rhagorol o arferion da sydd eisoes ar waith ar draws Cymru. Byddaf yn parhau i weithio gyda'm swyddogion, gweithwyr proffesiynol, a rhanddeiliaid ehangach i weld y newidiadau'n cael eu rhoi ar waith ac i ystyried y datblygiadau y bydd eu hangen yn y dyfodol er mwyn sicrhau'r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer ein dinasyddion.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.