Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cael mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant yn fater pwysig iawn i'r Llywodraeth hon. Rwy'n parhau i weithio i sicrhau bod y system iechyd a gofal yn gweithio mor effeithiol â phosibl a'i bod yn esblygu i ddiwallu anghenion pobl. Yn Symud Cymru Ymlaen, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wella mynediad at feddygfeydd ac mae hyn wedi bod yn elfen sylfaenol o'r rhaglen diwygio contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Roedd canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn dangos cwymp mewn boddhad â gwasanaethau Meddygon Teulu o 90% yn fodlon yn 2016-17 i 86% yn 2017-18. Roedd 42% o'r rheini a gymerodd ran hefyd yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad yn eu practis, cynnydd o 38% yn y flwyddyn flaenorol. Rwy'n cydnabod nad oes un ateb syml i wella mynediad ac mae amryw o fentrau ar y gweill. Fodd bynnag, mae cael eglurder ynghylch yr hyn y dylid ei ddisgwyl yn gam hanfodol ymlaen – ar gyfer cleifion a gweithwyr proffesiynol y maes.

Rwy'n gwybod bod meddygon teulu a'u timau practis o dan bwysau i fodloni'r galw. Ar yr un pryd, rwy'n sylweddoli nad yw disgwyliadau pobl ynglŷn â mynediad yn cael eu bodloni.

Dylai ein hagwedd tuag at ofal iechyd lleol i Gymru helpu pobl i ddeall sut i gadw mor iach â phosibl ac mae'n cefnogi'r weledigaeth a amlinellir yn ein cynllun Cymru Iachach. Rydym am ragweld anghenion iechyd a llesiant pobl ac ymyrryd cyn iddynt ddatblygu'n rhai dwys. Rwy'n disgwyl i feddygon teulu weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu amrywiaeth o opsiynau i unigolion gael mynediad at y gofal a'r cymorth cywir. Mae cael mynediad priodol a phrydlon yn elfen allweddol o ofal iechyd lleol. Rydym am sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad uniongyrchol at amrywiaeth o wasanaethau heb iddynt orfod cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.

Pan fydd Gofal Sylfaenol wedi cael ei gynllunio'n well drwy gydweithredu ar lefel clystyrau Gofal Sylfaenol rhwng Byrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol a darparwyr gwasanaethau, mae'n bosib gwella'r mynediad at y gofal a'r cymorth cywir. Er enghraifft, bydd unigolion sy'n gofyn am help a chyngor yn cael eu harwain yn well at y ffynhonnell gywir o help a phan fydd arnynt angen gofal clinigol, bydd eu ceisiadau yn cael eu brysbennu felly bydd anghenion brys yn cael blaenoriaeth.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gwasanaeth di-dor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Yn ddiweddar, cymerwyd camau i wella cadernid y gwasanaethau tu allan i oriau, gan gynnwys diweddaru’r safonau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau hyn. Rwyf wedi ymrwymo hefyd i sicrhau bod mynediad yn gwella ar draws pob practis meddyg teulu yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau yn ystod oriau o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo set o safonau cenedlaethol yr wyf yn disgwyl i bob meddyg teulu gydymffurfio â nhw. Rwyf am i bobl wybod beth i'w ddisgwyl pan fydd angen cyngor arnynt ynghylch eu hiechyd a llesiant, pryd y dylent drafod â meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall a pha opsiynau eraill sydd ar gael iddynt. Ar yr un pryd, rwyf am i bractisau meddygon teulu, gyda chefnogaeth Byrddau Iechyd, ddatblygu'r safonau hyn ac rwyf am i bractisau dorri tir newydd wrth ddatblygu atebion a dysgu gwersi o bractisau eraill yn eu clystyrau i ysgogi gwelliannau o ran mynediad. Dyma'r Safonau:

  • Mae unigolion yn derbyn ymateb prydlon pan fyddant wedi cysylltu â phractis meddyg teulu dros y ffôn. 
  • Mae gan bractisau y systemau ffôn priodol ar waith i gefnogi anghenion unigolion sy'n golygu nad oes angen ffonio nôl sawl gwaith a byddant yn sicrhau eu bod yn ymateb i alwadau fel hyn.
  • Mae unigolion yn cael gwybodaeth ddwyieithog am wasanaethau lleol a brys pan fyddant yn cysylltu â phractis.
  • Mae unigolion yn gallu cael gwybodaeth am sut i gael help a chyngor.
  • Mae unigolion yn cael y gofal cywir ar yr amser priodol mewn ffordd gydgysylltiedig ar sail eu hanghenion.
  • Mae unigolion yn gallu elwa ar amrywiol opsiynau i gysylltu â'u practis meddyg teulu.
  • Mae unigolion yn gallu anfon e-bost at bractis yn gofyn am ymgynghoriad nad yw'n frys neu'n gofyn iddynt eu ffonio nôl.
  • Mae practisau'n deall anghenion unigolion yn eu practis ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld y galw fydd am eu gwasanaethau. 

Rwy'n cydnabod y bydd rhai practisau eisoes yn gwneud hyn fel rhan o'u harferion cyffredin ond bydd yn daith tuag at wella i eraill. Byddaf yn pennu cerrig milltir cyflawni cenedlaethol ar gyfer y daith hon er mwyn sicrhau bod pethau'n symud yn eu blaenau, a hynny mewn ffordd gyson, ym mhob cwr o Gymru. Ymhen amser hoffwn weld y safonau hyn yn cael eu datblygu ymhellach er mwyn i wasanaethau wella'n barhaus i ddinasyddion Cymru.