Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cael mynediad at wasanaethau iechyd a lles yn parhau i fod yn fater o bwys sylweddol i'r Llywodraeth hon. Drwy gydol y pandemig, mae gallu cael mynediad at wasanaethau Gofal Sylfaenol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol hyd yn oed pan fo'r gwasanaethau eu hunain, a sut mae pobl yn cael mynediad atynt, wedi newid.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pob gwasanaeth Gofal Sylfaenol wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd o ymateb i ofynion unigryw'r pandemig gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, mwy o fesurau rheoli heintiau a lleihau cyswllt corfforol lle y bo'n briodol. Mae angen gwneud hyn gan sicrhau cydbwysedd â chynnal gwasanaethau hanfodol ac ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd. Mae defnyddio technoleg ddigidol yn rhan allweddol o'r ymateb, gyda mwy na 130,000 o apwyntiadau ers dechrau'r pandemig, a dros 5000 o apwyntiadau ymgynghori fideo bob wythnos ar hyn o bryd, sy'n ein helpu i gynyddu'r gwasanaethau y gellir eu cynnig. Mae ymgynghoriadau o bell, boed dros y ffôn neu drwy alwad fideo, wedi dod yn rhan greiddiol o'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu'n ddiogel erbyn hyn ond nid ydynt wedi disodli apwyntiadau wyneb yn wyneb pan fo’u hangen. 

Mae gweithgarwch wedi newid wrth i’r gwasanaeth addasu i'r angen i gadw cleifion a gweithwyr proffesiynol yn ddiogel ac i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws, ond mae gofal sylfaenol wedi parhau i fod ar agor ac ar gael i'r rhai sydd ei angen. Mae'r ffocws ar gyfer y gwasanaethau meddygon teulu wedi newid gyda phwyslais ar fwy o ddefnydd o farn glinigol wrth asesu anghenion cleifion a darparu gofal. Mae hyn wedi galluogi practisau meddygon teulu i ddelio â’r gwaith ychwanegol sy’n codi yn sgil y pandemig, ateb ymholiadau, darparu cyngor a chefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau pan ofynnwyd iddynt warchod eu hunain. 

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddais safonau mynediad i wasanaethau meddygon teulu y tu mewn i oriau, ac roeddwn yn disgwyl i bob practis meddyg teulu fodloni’r safonau hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Er bod y buddsoddiad cysylltiedig mewn seilwaith digidol wedi bod yn amhrisiadwy o ran galluogi practisau i ddarparu gwasanaethau a diwallu anghenion cleifion, nid oedd y Safonau eu hunain wedi'u cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau yn ystod pandemig. Nid yw'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi darparu llwyfan go iawn i ddangos effaith gwirioneddol y safonau presennol. Rwyf felly wedi cytuno i gario'r safonau hyn ymlaen tan fis Mawrth 2022. Bydd eu hymestyn am flwyddyn arall yn caniatáu i'r mesurau gael eu hymgorffori, ac i wneud dadansoddiad gwirioneddol o ba mor effeithiol fu'r safonau o ran gwella mynediad i bawb.  

Mae deintyddiaeth yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth gofal iechyd ac rydym yn parhau i gefnogi practisau deintyddol yn ystod y pandemig. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran adfer gwasanaethau deintyddol y GIG, gyda niferoedd cynyddol o gleifion yn cael eu trin, a bydd hynny'n parhau dros y misoedd nesaf. Deintyddiaeth yw un o'r meysydd gofal sylfaenol mwyaf cymhleth, ac mae angen mwy o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) a mwy o amser rhwng triniaethau er mwyn lleihau'r risg o’r coronafeirws. Gofynnwyd i bractisau deintyddol drin pobl yn ôl eu hanghenion, a'r rhai sydd wedi cael problemau yn ystod y cyfyngiadau symud, yn gyntaf. Er nad yw practisau eto’n gweld yr un nifer o bobl ag yr oeddent cyn y pandemig, hyd yn oed gyda mesurau llymach ar waith i ddiogelu pobl, mae 22,000 o bobl bellach yn cael eu gweld wyneb yn wyneb bob wythnos ledled Cymru, a 6,000 o bobl eraill yn cael cyngor ac ymgynghoriadau neu apwyntiadau dilynol o'u practis deintyddol yn rhithiol. 

Drwy gydol y pandemig, mae cleifion wedi gallu cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol optometreg, ac mae hyn cael ei gefnogi gan y defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer ymgynghoriadau o bell drwy alwadau ffôn a fideo. Bydd hyn bellach yn dod yn rhan greiddiol o ddarparu’r gwasanaeth, pan fo'n briodol. Mae optometreg yn gwneud cynnydd da o ran adfer gwasanaethau. Rydym eisoes yn gweld niferoedd cynyddol o gleifion a disgwylir i hyn gyrraedd yr un lefelau â chyn y pandemig yn ystod y misoedd nesaf.

Mae gwasanaeth optometreg gofal sylfaenol GIG Cymru yn parhau i ymateb yn gyflym ac yn arloesol i'r galw gan gleifion yn ystod y pandemig, gan gefnogi darpariaeth gofal iechyd sylfaenol ehangach. Roedd y gweithlu optometreg yn cefnogi'r Cynllun Cenedlaethol Danfon Presgripsiynau gan Wirfoddolwyr a sefydlwyd mewn ymateb i'r pandemig i sicrhau bod meddyginiaethau presgripsiwn yn parhau i gael eu darparu i gleifion sydd heb unrhyw ffordd arall o gael gafael ar feddyginiaethau. Yn ogystal, mae optometryddion yn chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu brechlynnau ledled Cymru gan gefnogi'r nod o ddarparu'r brechlyn mor agos i’r cartref â phosibl. Bydd optometreg yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i hyrwyddo ymgysylltu gweithredol i gefnogi rhaglenni brechu yn y dyfodol.  

Yn ystod y cyfnod adfer, mae’r gwasanaeth optometreg yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddiwygio contractau, gan symud i fodel gwasanaeth clinigol. Mae’n newid sylweddol ond yn un a fydd yn gwella'r modd y darperir gwasanaethau o fewn y proffesiwn, a gwella canlyniadau i gleifion yn ystod y degawd nesaf.

Sefydlwyd y Cynllun Cenedlaethol Danfon Presgripsiynau gan Wirfoddolwyr a Gwasanaeth y Post Brenhinol mewn ymateb i COVID-19 er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau presgripsiwn yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n gwarchod eu hunain, a'r rhai sy'n hunanynysu heb unrhyw gefnogaeth arall, yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyflwynwyd y ddau wasanaeth i ychwanegu at gapasiti trefniadau darparu meddyginiaethau sy'n bodoli eisoes gan fferyllfeydd cymunedol a meddygon fferyllol yng Nghymru, yn dilyn galw cynyddol yn sgil camau a gymerwyd i leihau lledaeniad y coronafeirws. Cafodd ei sefydlu o fewn pum wythnos yn unig i pan ofynnwyd i bobl warchod eu hunain i ddechrau yng Nghymru, a chafodd cyfanswm o 7,984 o feddyginiaethau eu darparu mewn dim ond 5 mis.

O ran adfer gofal, rydym yn dechrau gweithredu'r cytundeb tair blynedd a wnaed gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru i symud i fodel gwasanaeth clinigol gan gynnwys moderneiddio'r sector yn sylweddol drwy gynyddu’r presgripsiynu annibynnol sydd ar gael, datblygu'r gweithlu a gweithredu ffyrdd wedi'u moderneiddio o weithio megis ymgynghori o bell ac awtomatiaeth.  

Rydym hefyd wedi gweld Gofal Sylfaenol, a Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn arbennig, yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o frechu pobl yn erbyn COVID-19. Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol wedi gwneud 454,000 o frechiadau, sy’n cyfrif am 38% o'r holl frechiadau a wnaed yng Nghymru hyd yma.  Rwy’n ddiolchgar am y ffordd y mae gwasanaethau wedi ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i gefnogi'r ymdrechion i frechu cynifer o bobl, mor gyflym a diogel â phosibl. Mae hyn wrth gwrs yn effeithio ar gapasiti’r system i ddarparu gwasanaethau eraill ac i ddechrau ailgyflwyno gofal mwy rheolaidd. Rwyf i a’m swyddogion yn parhau i fonitro'n ofalus iawn er mwyn sicrhau bod gennym y cydbwysedd cywir wrth symud ymlaen, ac i sicrhau bod unrhyw effaith ar fynediad at ofal sylfaenol yn cael ei lleihau. 

Rwy'n hynod ddiolchgar i’r gweithlu Gofal Sylfaenol cyfan am barhau i gefnogi a rhoi cyngor hanfodol yn ystod y pandemig ac wedi hynny. O ganlyniad i gadw eu drysau ar agor, mae'r cyhoedd wedi gallu cael mynediad at wasanaethau clinigol o ansawdd uchel pan fo angen.