Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 30 Mehefin, rhoddais ddiweddariad ar fynediad at therapi triphlyg Vertex, Kaftrio (ivacaftor/tezacaftor/elexacaftor), yn sgil cyhoeddiad GIG Lloegr ei fod wedi dod i gytundeb i sicrhau bod y therapi ar gael yn nes ymlaen eleni.

Dywedais yn fy natganiad fy mod yn disgwyl i'r cytundeb manwl rhwng GIG Cymru a Vertex Pharmaceuticals gael ei gwblhau ar fyrder, ac rwy'n falch o gadarnhau ein bod heddiw wedi dod i gytundeb â Vertex ar brif elfennau'r cytundeb ar ôl cyfnod o drafodaethau adeiladol.

Yn bwysig, bydd y cytundeb pedair blynedd hwn yn golygu y bydd dros 400 o bobl sydd â ffeibrosis systig yng Nghymru yn gallu cael y feddyginiaeth fwyaf priodol i'w hanghenion. O ganlyniad, bydd y therapi triphlyg hirddisgwyliedig, Kaftrio, sy'n torri tir newydd, ar gael ar y cyfle cyntaf posibl. Ein nod o'r dechrau oedd sicrhau y bydd pob claf y mae Kaftrio yn briodol ar ei gyfer yn gallu cael ei ystyried ar gyfer y driniaeth unwaith y bydd yn cael caniatâd marchnata Ewropeaidd yn nes ymlaen yn yr haf. 

Gallaf gadarnhau hefyd y bydd cleifion o dan 12 mlwydd oed yn parhau i gael budd o'r cytundeb a luniwyd y llynedd sy'n sicrhau bod Orkambi, Symkevi a Kalydeco yn parhau i fod ar gael iddynt pan fo hynny'n briodol o safbwynt clinigol. Bydd mynediad at Kaftrio yn dilyn os caiff ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd (EMA). Mae'r cytundeb hefyd yn golygu y bydd cleifion sydd â mwtaniadau prin, sydd y tu allan i gwmpas cymeradwyaeth EMA, yn gallu cael budd o'r ystod o driniaethau pan fo eu clinigwyr a hwythau'n cytuno bod y driniaeth yn briodol.

Er bod telerau masnachol y cytundeb yn gyfrinachol, rwy'n fodlon bod y cytundeb yn gyfatebol i delerau'r cytundeb rhwng Vertex a GIG Lloegr ac, yn bwysig, ei fod yn adlewyrchu gwerth y meddyginiaethau arloesol hyn i'r GIG ar gyfer trin ffeibrosis systig.

Rwy'n gwybod y bydd hwn yn ddiwrnod arwyddocaol, ac emosiynol, i gleifion a'u teuluoedd. Rwy'n falch iawn y bydd y cyhoeddiad hwn, ynghyd â'n buddsoddiad ehangach mewn gwasanaethau ffeibrosis systig, yn cyfrannu at ddyfodol iachach a chadarnhaol i bobl â'r cyflwr yng Nghymru.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.