Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers mis Rhagfyr y llynedd, mae Kalydeco®, Orkambi® a Symkevi®  wedi bod ar gael i gleifion sydd â ffeibrosis systig yng Nghymru, ar ôl i GIG Cymru a Vertex Pharmaceuticals ddod i gytundeb mynediad masnachol. Heddiw (30th Mehefin), yn sgil y cyhoeddiad gan GIG Lloegr bod cytundeb wedi ei gyrraedd i sicrhau bod therapi triphlyg Vertex (elexacaftor, tezacaftor, ivacaftor) ar gael yn nes ymlaen eleni, rwy’n awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Nghymru.

Er i’r therapi triphlyg gael ei argymell gan y Pwyllgor Cynhyrchion Meddyginiaethol at Ddefnydd Dynol (CHMP), mae’n bwysig bod yn glir na fydd ar gael fel mater o arfer yn y DU nes iddo gael caniatâd marchnata gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Bellach rydym yn gwybod bod caniatâd marchnata’n debygol o gael ei roi yn nes ymlaen yn yr haf eleni.

Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r GIG yn Lloegr yn ystod ei negodiadau, ac o ganlyniad i hynny, mae’r cytundeb cyfreithiol a gafwyd yn cynnwys gofyniad y bydd yn rhaid i Vertex sicrhau bod telerau cyfatebol yn bodoli i’r GIG yng Nghymru. 

Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Vertex, ac mae trafodaethau adeiladol yn mynd rhagddynt i gyrraedd cytundeb masnachol a fydd yn sicrhau bod therapi triphlyg ar gael i gleifion ffeibrosis systig cymwys yng Nghymru, o dan delerau sy’n dderbyniol i GIG Cymru ac am bris sy’n adlewyrchu gwerth y therapi triphlyg.

Rwy’n ymwybodol iawn y bydd cleifion a’u teuluoedd yn disgwyl i’r meddyginiaethau hyn fod ar gael yn brydlon unwaith eu bod wedi cael eu trwyddedu. Felly, rwyf wedi gofyn bod y gwaith o gyrraedd cytundeb yn cael ei symud yn ei flaen ar frys, cyn i’r therapi triphlyg gan ganiatâd marchnata a’i fod ar gael fel mater o arfer yn y DU.