Alun Ffred Jones, Y Gweinidog Dros Dreftadaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Rwyf yn cyhoeddi heddiw, yn sgil adolygiad o'r trefniadau presennol o fynediad am ddim i safleoedd treftadaeth mewn gofal Cadw, fy mod i wedi derbyn yr argymhelliad i newid ffocws polisi y Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn benodol, byddwn yn dirwyn i ben y cynllun sy'n caniatáu i drigolion Cymru dros 60 oed neu o dan 16 oed wneud cais am docyn am ddim. Nid yw'r polisi wedi llwyr fodloni ei amcanion arfaethedig ac er mwyn cyflawni hynny mae gan Cadw y dasg o adeiladu ar eu rhaglen o fynediad am ddim sy'n gysylltiedig â mentrau wedi'u targedu a digwyddiadau arbennig. Y nod fydd i gynyddu nifer ac ehangu proffil yr ymwelwyr sy’n cael eu denu i’r safleoedd hyn, gan roi sylw yn arbennig i anghenion pobl sydd ag anableddau a grwpiau eraill sydd heb gael eu cynrychioli’n ddigonol. Bydd tocynnau sydd eisoes wedi'u rhoi o dan y cynllun presennol yn cael eu hanrhydeddu nes iddyn nhw ddod i ben. Mae'r cynllun mynediad am ddim ar waith ers dwy flynedd a hanner ac mae fy swyddogion i yn Cadw wedi adolygu, wedi dadansoddi ac wedi gwerthuso ei effeithiolrwydd.

 

Ers i'r cynllun gael ei lansio ym mis Medi 2008, mae rhyw 30,000 o docynnau mynediad am ddim wedi’u rhoi. Aeth 84% o'r rhain i bobl 60 oed a throsodd ac aeth 16% i blant 16 oed neu lai. Er bod mwy na 39,000 ymweliadau wedi’u gwneud drwy ddefnyddio’r tocynnau hyn, dim ond rhyw 1.5% ydy hynny o'r 1.2 miliwn o bobl y flwyddyn sy’n ymweld â’r safleoedd hynny lle mae Cadw yn codi tâl mynediad.

 

At hynny, mae dadansoddiad Cadw yn dangos nad yw’r cynllun wedi llwyddo i ddenu’r grwpiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ym mhroffil ymwelwyr Cadw. Ychydig iawn o arwyddion sydd yno fod y fenter wedi denu llawer o deuluoedd cyflog isel – sef un mater allweddol y cafodd y polisi ei gyflwyno i fynd i'r afael ag ef.

Mae gwaith ymchwil a phrosiectau peilot dros y ddwy flynedd diwethaf yn dangos bod dyddiau agored mewn henebion lle nad oes tâl mynediad yn cael ei godi a rhaglenni o ddigwyddiadau arbennig yn apelio’n fwy at gynulleidfa ehangach, hyd yn oed pan fydd tâl mynediad yn cael ei godi. Mae digwyddiadau wedi'u targedu fel hyn yn cynnig gwell cyfle i ddenu’r grwpiau hynny yn ein cymunedau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ym mhroffil ymwelwyr Cadw. Rwyf yn sicr eu bod yn ddull mwy effeithiol i gyflawni’n hymrwymiad i sicrhau bod safleoedd treftadaeth yng Nghymru yn fwy hygyrch i bawb.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig felly adeiladu ac ehangu ar y mentrau wedi'u targedu sydd gan Cadw eisoes i hybu sbectrwm ehangach o ymwelwyr. Y nod fydd taro cydbwysedd rhwng polisïau mynediad am ddim a mynediad gostyngol a buddsoddi mewn camau sy'n datblygu gwell mwynhad a gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o'r safleoedd treftadaeth sydd mewn gofal. Fe ofynnir i Cadw ganolbwyntio ar weithgareddau i deuluoedd a datblygu digwyddiadau sy'n cydblethu â dyheadau cymunedol ehangach a dathliadau lleol. Rwy’n disgwyl i hyn gynnwys digwyddiadau arbennig i ymwelwyr gyda'r nos a allai gael budd cymdeithasol ac economaidd y tu hwnt i'r heneb ac i mewn i'r economi leol.

 

Dyma flaenoriaethau allweddol yr ymagwedd newydd:

  • parhau â pholisi Cadw o fynediad am ddim ar gyfer ymweliadau addysgol a dysgu, ymwelwyr sydd ag anableddau (a’u cwmnïwr) a chymhellion eraill sydd wedi'u targedu
  • datblygu ac ehangu'r rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol a gwyliau dysgu, gan gydweithio â chymunedau ac asiantaethau lleol, gan dargedu’n arbennig feysydd allweddol o amddifadedd yn agos i safleoedd Cadw
  • ymestyn prosiectau ymgysylltu cymunedol mewn henebion lle ceir diffyg cyfranogiad cymunedol neu ymddygiad problemus
  • cyflwyno a hyrwyddo “Dyddiau Agored” di-dâl i bawb, a’u hategu â digwyddiadau arbennig mewn henebion allweddol
  • cynnal y rhaglenni presennol o ddehongli a dysgu gydol oes, gan adeiladu arnyn nhw lle bynnag y bo modd.

Yr henebion sydd o dan ofal Cadw yw rhai o'r gemau pwysicaf yng nghasgliad amhrisiadwy Cymru o drysorau treftadaeth. Rwyf wedi bod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu mwynhau’r trysorau hynny, a chredaf bydd newid y polisi pwysig hwn yn mynd â ni gam ymhellach i'r cyfeiriad hwnnw.