Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Mae’n bleser gennyf fod yn lansio’r ymgynghoriad ar ‘Fynd i’r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd ar 11 Gorffennaf 2013.
Nod y fframwaith hwn yw mynd i’r afael â’r elyniaeth a’r rhagfarn sy’n wynebu amryw o bobl yn ein cymunedau. Mae’n ymdrin â’r holl nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae hefyd yn edrych ar droseddau a digwyddiadau casineb yn erbyn pobl hŷn ac isddiwylliannau amgen (gan gynnwys pobl sy’n gwisgo mewn ffordd wahanol, fel goths, pyncs ac EMOs).
Mae’r Fframwaith yn rhan o’r gwaith o gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Llywodraeth ac mae’n cyflawni ymrwymiad o fewn y Rhaglen Lywodraethu. Mae’n canolbwyntio ar dri amcan strategol sef cefnogi darpariaeth er mwyn atal a mynd i’r afael â rhagfarn a stereoteipiau cynhenid; darparu cyngor a chefnogi dioddefwyr fel bod mwy ohonynt yn adrodd am achosion; a gwella’r ymateb gweithredol fel bod asiantaethau yn gallu ymateb a mynd i’r afael â’r rheini sy’n cyflawni troseddau o’r fath.
Mae perthynas sylfaenol rhwng mynd i’r afael â throseddau casineb a meysydd eraill o’m portffolio. Mae’n rhan bwysig o greu a meithrin cymunedau cadarn. Er bod camau sylweddol wedi’u cymryd i wneud Cymru yn lle diogel, amrywiol a bywiog i fyw, mae rhagfarn, gwahaniaethu a throseddau casineb yn dal i fodoli, ac mae’r rhain yn cael effaith andwyol ar gymunedau cyfan, yn ogystal ag ar unigolion.
Mae’r Fframwaith yn berthnasol i feysydd portffolio sawl Gweinidog ac mae’n cynnwys camau i ddechrau’n gynnar a thaclo bwlio ymysg plant a phobl ifanc yn ein hysgolion a’n cymunedau. Ar ôl cysylltu ag eraill wrth ddatblygu’r Fframwaith drafft, rydym wedi cynnwys meysydd ble mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg o droseddau casineb, gan gynnwys casineb seiber a seiberfwlio, troseddau cyfeillio (pan fydd person yn dod yn gyfaill i rywun er mwyn camfanteisio arno, sy’n aml yn cael ei dargedu at bobl ag anableddau dysgu ac yn gysylltiedig â budd ariannol) a throseddau casineb yr adain dde eithafol.
Datblygwyd y Fframwaith ar y cyd â phartneriaid ledled Cymru drwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen oedd yn cynnwys partneriaid o’r trydydd sector, sefydliadau statudol a thimau polisi allweddol Llywodraeth Cymru. Ategwyd hyn gan dystiolaeth saith grŵp ffocws a rhanddeiliaid oedd yn cynrychioli’r holl nodweddion gwarchodedig, ac arolwg ar-lein a dderbyniodd 167 ymateb o bob cwr o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu gwaith ymchwil gan Brifysgolion Caerdydd a Manceinion i’r hyn sy’n cymell y rheini sy’n cyflawni troseddau casineb. Caiff canlyniadau’r gwaith hwn eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r Fframwaith. Daeth tystiolaeth i’r amlwg hefyd gan Brosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan trwy Race Equality First a Phrifysgol Caerdydd, ac mae eu canfyddiadau cynnar yn ffurfio rhan o sail dystiolaeth y Fframwaith.
18 Hydref 2013 yw dyddiad cau’r ymgynghoriad, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal amryw o grwpiau ffocws gyda chynrychiolwyr yr holl nodweddion gwarchodedig ac yn cydweithio â grwpiau amlasiantaeth i gasglu eu barn. Gellir dod o hyd i’r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru a chaiff y Fframwaith terfynol, ynghyd â chynllun cyflawni, ei lansio yn fuan yn 2014.