Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr aelodau'n ymwybodol o'r cyhoeddiad a wnaed y llynedd gan bum gweithredwr gamblo mawr eu bod am roi £100m arall o gyfraniadau gwirfoddol tuag at ymchwil, addysg a thriniaeth dros y pum mlynedd nesaf. Sefydlwyd Pwyllgor, wedi'i gadeirio gan yr Arglwydd Chadlington, i argymell sut y dylid defnyddio’r arian ychwanegol hwn. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, a oedd yn cynnwys yr argymhelliad allweddol y dylid sefydlu elusen rhoi grantiau annibynnol newydd o’r enw ‘Action Against Gambling Harms’ ym mis Rhagfyr. Rydym yn disgwyl i'r elusen hon fod yn gwbl weithredol erbyn diwedd y flwyddyn ac rydym yn awyddus i sicrhau bod ymrwymiad y diwydiant i weithio gyda'r Llywodraeth, gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig a phartïon perthnasol eraill, ar gyfeirio’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei fodloni. 

Yn y cyfamser, yng Nghymru, rydym yn parhau i ddefnyddio dull integredig a chydweithredol wrth ddatblygu polisi gamblo cymhellol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac fel yr argymhellir yn yr adroddiad 'Gamblo fel mater iechyd cyhoeddus yng Nghymru' [troednodyn 1] a luniwyd ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Rydym yn parhau i gefnogi partneriaid cyflawni i godi ymwybyddiaeth o'u gwasanaethau triniaeth a'u rhaglenni ymwybyddiaeth wrth iddynt ehangu’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yng Nghymru. Rydym yn treialu dull mewn dau fwrdd iechyd sy'n ymchwilio i’r modd y gallai pobl â phroblemau gamblo gael cymorth drwy wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rydym hefyd yn edrych i weld sut y gallwn gynyddu ymwybyddiaeth o'r niwed sy'n gysylltiedig â gamblo a’r gwasanaethau cymorth perthnasol drwy glybiau chwaraeon yng Nghymru a thrwy ddarparu cyrsiau hyfforddi ar ymwybyddiaeth o broblemau gamblo i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi hefyd fy mod wedi cymeradwyo gwerth £25,000 o gyllid yn ddiweddar, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, er mwyn i Brifysgol Abertawe sefydlu rhwydwaith i helpu i ddatblygu rhaglen ymchwil i gamblo yng Nghymru.

Mae'r dull cydweithredol hwn yn cael ei gefnogi ymhellach gan gamau gweithredu penodol i fynd i’r afael â gamblo cymhellol sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022 [troednodyn 2]. Nod y camau gweithredu hyn yw gwella'r cysylltiadau rhwng timau camddefnyddio sylweddau a’r gwasanaethau trin gamblo sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng ymddygiadau penodol sy'n peri risg drwy adolygu'r llenyddiaeth. Bydd hyn yn helpu i lywio unrhyw gamau gweithredu pellach ar draws meysydd polisi wrth inni fwrw ymlaen i wireddu’r uchelgais yn y ddogfen Cymru Iachach [troednodyn 3] o ddod â’r gwasanaethau iechyd ynghyd mewn un system gyfan ddi-dor.

[1] Gamblo fel mater iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Robert D. Rogers, Heather Wardle, Catherine A. Sharp, Sara Wood, Karen Hughes, Timothy J. Davies, Simon Dymond a Mark A. Bellis. 2019 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor.

[2] Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019-2022. 2019 Llywodraeth Cymru.

[3] Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol.  2018 Llywodraeth Cymru.