Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Cafodd Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr Nad ydynt yn Berchenogion) 2014 eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2014, o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol. Byddant yn cychwyn ar 1 Ionawr 2015 ac yn cynorthwyo’r diwydiant dŵr a charthffosiaeth i ostwng lefel dyled er mwyn helpu i leihau biliau.
Yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012, tynnwyd sylw at ymrwymiad i leihau nifer y bobl sy’n mynd i ddyled gyda’u cyflenwr dŵr, a fydd hefyd yn golygu bod biliau yn dod yn fwy fforddiadwy i bawb. Credir bod y gost o geisio adennill ffioedd sydd heb eu talu yn ychwanegu rhwng £15 ac £20 at fil y cwsmer cyffredin.
Mae’r rheoliadau yn gosod dyletswydd ar bob perchennog eiddo preswyl sy’n cael ei wasanaethu gan Dŵr Cymru Welsh Water neu Dee Valley Water (boed yng Nghymru neu’n Lloegr), sy’n gosod yr eiddo i rywun arall (ee tenant) roi gwybodaeth sylfaenol am y meddiannydd i’r cwmni dŵr perthnasol. Dim ond os nad yw’r perchennog yn byw yn yr eiddo y mae’r rheoliadau hyn yn gymwys ac ni fyddent yn gymwys, felly, i bobl sy’n gosod ystafelloedd yn eu cartrefi eu hunain, er enghraifft. Os na fydd y perchennog yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol cyn pen 21 niwrnod o’r dyddiad y daw y rheoliadau i rym ac, wedi hynny, cyn pen 21 niwrnod o newid meddiannydd, bydd y perchennog a’r meddiannydd yn atebol, ar y cyd ac yn unigol, am ffioedd dŵr a charthffosiaeth a ysgwyddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw pan fethwyd â chydymffurfio â’r rheoliadau.
O dan y dull presennol, nad yw’n ddull rheoleiddiol, gall fod oedi sylweddol cyn y bydd yr ymgymerwr dŵr yn ymwybodol o bwy sy’n meddiannu eiddo. Yn ei dro, gallai hyn arwain at gronni ffioedd dŵr a charthffosiaeth sylweddol y bydd y meddiannydd wedyn yn ei chael hi’n anodd eu talu.
Bydd meddianwyr ar eu hennill yn sgil cyflwyno’r dull newydd hwn, gan y byddant yn cael gwybod am y ffioedd yn gynharach. Bydd hyn o gymorth iddynt gyllidebu ar gyfer eu talu a byddant yn cael gwybodaeth am y cymorth fydd ar gael iddynt ar gyfer talu eu biliau, megis tariffau cymdeithasol, cronfeydd cymorth neu gynlluniau talu. Drwy feddu ar wybodaeth gywir am feddianwyr, bydd y cwmnïau dŵr yn gallu dod yn ymwybodol yn gynharach o gwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed a byddant yn gallu cynnig help a chyngor wedi’u targedu iddynt. Rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr gymryd y cyfle hwn i wella’r gwasanaethau maent yn eu cynnig i gwsmeriaid agored i niwed a thrafodwyd hynny â hwy eisoes.
Er mwyn sefydlu proses syml ac effeithlon i berchenogion eiddo ddarparu gwybodaeth am feddianwyr, mae’r Diwydiant Dŵr wedi datblygu gwefan hawdd i’w defnyddio o’r enw Landlord TAP (dolen allanol). Caiff manylion meddianwyr a fewngofnodir i’r porthol eu trosglwyddo’n awtomatig i’r cwmni dŵr perthnasol a bydd perchenogion eiddo yn cael cyfeirnod derbynneb trafodiad unigryw i’w gadw at eu cofnodion eu hunain. Gellir gweld y wefan yn www.landlordtap.co.uk neu www.landlordtap.com a bydd yn fyw o 15 Rhagfyr 2014.