Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n siwr bod yr holl aelodau wedi cael eu hysgogi gan y sefyllfa mae rai o’n ffermwyr mynydd wedi gorfod wynebu dros y bythefnos ddiwethaf yn sgil y tywydd garw. Rwyf wedi gwneud dau ddatganiad ysgrifenedig yn barod yn amlinellu parhad y gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn darparu i’r ffermwyr rheini a’u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd garw. Rwyf wedi parhau i ymweld â ffermydd a chwrdd â ffermwyr, eu teuluoedd a’u cynrychiolwyr er mwyn trafod y sefyllfa mewn rai rhannau o Gymru.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae’r tywydd wedi parhau i wella gyda gwahaniaeth amlwg yn y maint o eira sy’n weddill yn yr ardaloedd a effeithiwyd. Er nad yw eto’n bosib gwerthuso’r niwed i’r diwydiant, nid wyf o dan unrhyw gam argraff bod yr effaith ar fusnesau mewn rhai ardaloedd yn dal i fod yn arwyddocaol iawn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio’n galed er mwyn cael deallusrwydd llawn o gwir faint yr anhawsterau sydd wedi eu creu gan y tywydd garw. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gadarnhau nifer y ffermydd a effeithiwyd; cyfanswm y stoc a gollwyd a’r niwed potensial i isadeiledd y diwydiant. Yn ychwanegol at hyn rwyf wedi gofyn i Hybu Cig Cymru (HCC) barhau i asesu yr effaith potensial lletach ar y diwydiant cig coch yn ei gyfanrwydd yn ogystal â’m adolygiad fy hun ar yr effaith ar fusnesau fferm unigol.

Yn y cyfamser rwyf wedi ymestyn y caniatad presennol i ffermwyr gladdu eu hanifeiliaid ar y fferm am saith niwrnod arall hyd ganol nos ar 23 Ebrill 2013. Rwyf hefyd yn gwneud newidiadau i’r ardaloedd lle bydd y caniatad hwn yn gymwys. Bydd fy swyddogion yn cyhoeddi canllawiau pellach ar y llaciad o’r rheolau claddu i adlewyrchu’r gwellhad yn y tywydd ac i gyd-redeg gyda hyn rwyf wedi gofyn am adolygiad o’r siroedd a’r plwyfi penodol a gafodd eu heffeithio waethaf ac sy’n parhau i gael eu heffeithio. Os ydych am yr arweiniad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a manylion am y llacio rheolau ar gladdu anifeiliaid ar y fferm yna ewch ar-lein.

Mae’r newidiadau i’r ardaloedd sy’n gymwys o dan llaciad y rheolau claddu wedi digwydd o ganlyniad i wybodaeth a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol ac yn golygu bydd yr ardaloedd hynny a gafodd eu heffeithio waethaf gan y tywydd garw diweddar yn cael eu targedu. Mae awdurdodau lleol yn cywreinio eu data i adlewyrchu’r wybodaeth yma ar lefel sirol plwyf a daliad ac awgryma arwyddion cynnar na fydd hyn yn cynnwys mwy na 100 plwyf allan o gyfanswm o 1046 ar draws Cymru. Rwyf  wedi gofyn i’m swyddogion i edrych ymhellach ar y nifer o fusnesau fferm unigol sydd wedi eu heffeithio.

Rwyf yn ddiolchgar iawn i bersonel yr awdurdodau lleol yn yr ardaloedd a effeithiwyd am reoli’r broses yma gyda ffocws ac mewn modd ystyriol. Rwyf yn ymwybodol mai dim ond nawr mae rhai o’r rhain yn dechrau asesu lefel y sefyllfa wrth i’r eira feirioli ac felly rwy’n barod i wneud newidiadau i’r ddarpariaeth os bydd angen.

Mae nifer o gwestiynnau wedi codi ynglyn â ffermwyr yn profi oedi mewn casgliadau stoc marw. Yn wreiddiol roedd hyn o ganlyniad i’r eira ond yn sgil y cynnydd yn y galw am y gwasanaeth, mae oedi yn dal i fod yn broblem.

Rwyf wedi gofyn i’r Brif Swyddog Milfeddygaeth adrodd yn ol ataf ar y sefyllfa yn ymwneud ag adroddiadau o oedi wrth gasglu stoc marw mewn rhai ardaloedd ac mae hi wedi gofyn i Gadeirydd y Cwmni Cenedlaethol Stoc Marw i’w diweddaru ar y sefyllfa. Mae cyngor ar ddefnyddio casglwyr amgen i’w gael yn y canllawiau ac mae gan yr awdurdodau lleol yn yr ardaloedd a effeithiwyd rifau cyswllt priodol.

Mae fy swyddogion wedi bod mewn cyswllt gyda holl adrannau’r sector gyhoeddus er mwyn sicrhau bod agwedd gyfunol a chyson mewn lle i fynd i’r afael â phryderon Iechyd a Lles Anifieiliaid yn y diwydiant ffermio yng Nghymru. Mae awdurdodau  fel yr awdurdodau lleol perthnasol, yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol Iechyd Anifeiliaid a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd agwedd bragmatig at orfodaeth ac mae ymchwiliadau lles anifeiliaid yn cael eu trin yn ôl y sefyllfa unigol. Mae fy swyddogion yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid ac yn parhau i gasglu gwybodaeth am y materion sy’n effeithio ar y diwydiant fel y gallaf ymateb yn effithiol i’r sefyllfa. Yn benodol, mae cynrychiolwyr o felinau blawd  a chludwyr wedi gadael i ni wybod am yr anhawsterau mewn cwrdd â’r gofyn am ddwysfwydydd i anifeiliaid. Mae hefyd materion logistaidd ynghylch casgliadau stoc marw. Rwyf yn gofyn am lacio pellach ar y rheolau am oriau gyrrwyr a byddaf yn monitor’r sefyllfa yma yn agos.

Rwyf wedi ysgrifennu’n bersonol o bob ffermwr yn yr ardaloedd a effeithiwyd i’w hysbysu o’r arweiniad a chyngor sydd ar gael drwy’r Gwasanaeth Cyswllt Fferm ac anogaf ffermwyr i gymryd mantais o’r gwasanaeth hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig cefnogaeth ymarferol i’r diwydiant. Mae Cyswllt Ffermio yn parhau i gynnig cymorth uniongyrchol i ffermwyr ac bydd ceisiadau am gymorth un-i-un drwy’r Cynllun Fferm Gyfan yn dal i gael  blaenoriaeth. Anogaf ffermwyr sydd â diddordeb yn y gwasanaeth i gysylltu’n uniongyrchol â chanolfan gwasanaethau Cyswllt Ffermio. Mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd ar gyfer ffermwyr ar wefan Llywodraeth Cymru yn ogystal â gwefan Cyswllt Ffermio. Mae gan Gyswllt Ffermio Ganolfan Gwasanaethau yn ogystal (rhif cyswllt 08456 000 813) a hoffwn annog ffermwyr i fanteisio ar y gwasanaeth hyn er mwyn sicrhau eu bod  yn derbyn y cyngor gorau posib o dan yr amgylchiadau anodd hyn.

Wythnos diwethaf gofynais i’m swyddogion graffu ar sut y gallem gynnig cefnogaeth bellach i fusnesau ffermio oedd yn profi anhawsterau gyda llif arian. Rwyf nawr wedi cytuno i ofyn caniatad y Comisiwn Ewropeaidd  i symud Taliadau Fferm Sengl PAC 2013 i’r rheini a effeithiwyd ymlaen i ganol mis Hydref – y cynharaf y gellid gwneud y math yma o daliadau. Fel nodwyd uchod, bydd y mesur yma yn gymwysadwy ar gyfer yr holl fusnesau ffermio yn yr ardal benodol newydd sydd wedi eu heffeithio waethaf gan y tywydd. Rwyf hefyd yn bwriadu cwrdd â rheolwyr amaethyddol y prif fanciau yng Nghymru i drafod pa gymorth pellach gallai’r banciau gynnig i’w cwsmeriaid amaethyddol ar hyn o bryd.

Yn ogystal â mynd i’r afael â gofynion busnesau fferm unigol rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o’r effaith ddynol ar deuluoedd ffermio. Mae hyn yn achos o gryn bryder i mi ac i Lywodraeth Cymru. Rwyf felly wedi gofyn i’m swyddogion weithio yn agos iawn gyda’r Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol (RABI), y Rhwydwaith Cymunedau Fferm (FCN) ac Ymddiriedolaeth Addington  er mwyn penderfynnu sut  gall y Llywodraeth gefnogi eu gwaith yn y modd mwyaf effeithiol.

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe, rwyf yn bwriadu darparu swm o £500,000 ar gyfer yr elusennau hynny i’w cynorthwyo gyda’u gwaith yn y byr dymor  Bydd y cymorth yma yn cael ei dargedu yn yr ardaloedd sydd wedi diodde’r gwaethaf o’r tywydd garw. Byddaf yn cynnig £100,000 i’r FCN a £150,000 i RABI i’w cynorthwyo gyda’u gwaith bugeiliol a chynghorol, a chymorth uniongyrchol i’r teuluoedd mwyaf trychinebus eu sefyllfa. Gan fod prinder cyffredinol a chynydd mewn costau dwysfwyd anifeiliaid ar draws Cymru yn sgil y tywydd anffafriol ac er mwyn mynd i’r afael â’r anhawsterau ariannol a lles anifeiliaid  ar draws Cymru gyfan, rwyf yn darparu £250,000 i Ymddiriedolaeth Addington i’w galluogi nhw i roi cefnogaeth yn y tymor byr i’r teuluoedd hynny yng Nghymru sydd lleiaf cymwys i gwrdd â’r costau ychwanegol hyn.

Gan edrych i’r dyfodol, rwy’n cyfarfod Kevin Roberts prynhawn ‘ma, i drafod y modd y bydd yn ymgymryd â’i adolygiad i hydwythedd canol a hir dymor y diwydiant cyhoeddais yr wythnos diwethaf. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar yr adolygiad o fewn y bythefnos nesaf.

At ei gilydd cynrychiola hyn atgyfnerthiad pellach o becyn cymorth cytbwys i fusnesau a theuluoedd ffermio. Mae’r pecyn wedi cael ei ddatblygu i gynnig ymateb cymesur i’r sefyllfa wrth iddo ddatblygu ac yn targedu’r rhai mwyaf anghenus o gymorth gan y Llywodraeth a’r sector elusenol. Rwyf wedi gwneud yn eglur iawn nad cymhorthdal pellach yw’r ffordd ymlaen i’r diwydiant naill ai yn y tymor byr neu’r hir dymor. Bwriad y pecyn yma felly yw mynd i’r afael ag effeithiau’r tywydd garw yn nhermau dynol ac ar fusnesau. Er mwyn sicrhau hyfywedd y diwydiant yn yr hir dymor, rhaid i’r diwydiant symud i ffwrdd oddiwrth or-ddibyniaeth ar gefnogaeth cyhoeddus drwy wynebu’r farchnad a bod yn fwy cyfeiriedig tuag at y farchnad honno.

Rwyf yn ddiolchgar i’r holl deuluoedd sydd wedi fy ngwahodd i fewn i’w cartrtefi ar yr adeg anodd yma ac sydd wedi cynorthwyo gyda datblygu’r pecyn o gefnogaeth yma. Byddaf yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn yr ardaloedd y mae’r tywydd garw yn parhau i effeithio arnynt ac rwy’n parhau’n llwyr ymrwymiedig i gydweithio â’r sector amaethyddol yng Nhymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.