Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Er na allwn ddarogan y tywydd dros y misoedd nesaf, gwyddom fod y bobl sy’n cysgu yn y stryd yn wynebu mwy byth o galedi ac anawsterau yn ystod y gaeaf. Rwyf wedi ymrwymo i wneud mwy i’w helpu nhw, ac felly rwy’n gofyn am £100,000 i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n cysgu allan yn y tywydd oer.

Gall awdurdodau lleol wneud cais am gyfran o’r cyllid a fydd yn eu galluogi nhw i dargedu gwasanaethau a chymorth ar sail yr anghenion lleol. Byddwn yn disgwyl i’r awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r sector gwirfoddol i ddarparu cymorth priodol i’r rhai sy’n cysgu allan a’u helpu i setlo mewn cartrefi parhaol pryd bynnag y bo modd.

Rwy’n falch iawn fy modd yn gallu rhoi’r arian hwn ar gael. Dyma ddangos y pwysigrwydd a roddwn i helpu’r rhai sy’n cysgu ar y stryd, yn unol â’n Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd.

Mae’r cyllid hwn yn enghraifft arall o ymrwymiad y Llywodraeth i helpu’r bobl fwyaf anghenus ac agored i niwed yn ein cymunedau.