Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth yn ystod pandemig Covid-19. Fel rhan o becyn o fesurau i atal trosglwyddo Covid-19 mewn cartrefi gofal a diogelu preswylwyr a staff, mae rhaglen brofi asymptomatig ar gyfer staff wedi bod ar waith yng Nghymru ers mis Mehefin 2020. Ar hyn o bryd, mewn ymateb i gyfraddau heintio uchel yn y gymuned, mae staff cartrefi gofal yng Nghymru yn cael eu profi’n wythnosol yn unol â’r ddogfen lefelau rhybudd ar gyfer gofal cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr; https://llyw.cymru/cynllun-rheolir-coronafeirws-lefelau-rhybudd-yng-nghymru-ar-gyfer-gwasanaethau-gofal-cymdeithasol-i-oedolion-a-phlant

Mae staff cartrefi gofal, awdurdodau lleol a thimau diogelu iechyd yn parhau i weithio’n ddiflino i atal cyflwyno a throsglwyddo Covid-19 yn ein cartrefi gofal. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion glew, rydym yn dal i weld canlyniadau profion positif mewn cartrefi gofal ymysg staff a phreswylwyr ac mae nifer cynyddol o gartrefi gofal yn delio ag achosion lluosog a brigiadau o’r feirws ar hyn o bryd. Er ein bod yn gwneud cynnydd da o ran cyflwyno ein rhaglen frechu, mae hi’n ddyddiau cynnar o hyd. Mae’r sefyllfa’n cael ei dwysáu gan y ffaith bod amrywiolynnau sydd wedi’u canfod yn ddiweddar yn trosglwyddo’n gyflymach fyth, ac mae hyn yn ffactor allweddol y tu ôl i frigiadau o achosion lleol. Mae profion felly’n parhau i fod yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r pandemig ac mae’n glir bod angen ymyrryd ymhellach i helpu i ganfod unigolion heintus mewn cartrefi gofal yn gynharach a rheoli achosion yn fwy effeithiol.

Ar ôl i brofion sy’n defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd (LFD) gael dilysiad gwyddonol, gwnaethom gyflwyno profion LFD ar gyfer ymwelwyr â phob cartref gofal yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020 i hwyluso ymweliadau gan deulu a ffrindiau â phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal. Oherwydd y newidiadau i gyfyngiadau lefel 4 a gyflwynwyd ar 19 Rhagfyr, ychydig iawn o ymweliadau a phrofion cysylltiedig sydd wedi’u cynnal. Fodd bynnag, yn unol â chanllawiau cynllun rheoli’r coronafeirws ynghylch lefel rhybudd 4 ar gyfer gofal cymdeithasol, mae profion ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld â chartrefi gofal hefyd wedi’u cyflwyno. Mae gofyn i weithwyr proffesiynol nad ydynt yn cael profion asymptomatig rheolaidd gael prawf LFD yn y cartref gofal y maent yn ymweld ag ef. Dim ond ddwywaith yr wythnos y bydd angen profi gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld, felly ar ôl prawf cyntaf yr wythnos ni fydd angen prawf arall ar y gweithiwr proffesiynol am y tri diwrnod nesaf.

Ar ôl ystyried y cyngor gwyddonol diweddaraf, rydym hefyd yn cyflwyno rhaglen profion asymptomatig rheolaidd, ddwywaith yr wythnos, ar gyfer staff cartrefi gofal yng Nghymru, gan ddefnyddio profion llif unffordd yn ychwanegol i’r prawf PCR wythnosol a gynhelir ar hyn o bryd.

Yn ogystal, rydym yn rhoi’r hyblygrwydd i dimau diogelu iechyd lleol ystyried cyflwyno mwy o ddarpariaeth brofi ar gyfer staff drwy gyfrwng profion dyddiol am gyfnod o 10 diwrnod mewn cartrefi gofal sydd â brigiad o achosion. Mae’r ddarpariaeth brofi uwch hon yn cyd-fynd â’r flaenoriaeth ‘profi i ddiogelu’ a nodir yn Strategaeth Brofi ddiwygiedig Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/strategaeth-profi-covid-19 a’r Fframwaith Profi yn y Gymuned https://llyw.cymru/fframwaith-profi-am-covid-19-yn-y-gymuned

Mae’n bwysig nad yw’r ddarpariaeth brofi uwch hon yn cael ei defnyddio fel dull ‘profi i gynnal’ i alluogi staff sy’n ynysu i ddychwelyd i’r gwaith yn gynnar. Bydd dal angen i unrhyw aelod o staff sydd wedi dod i gysylltiad ag achos positif ynysu fel yr arfer. Ni fydd darpariaeth brofi uwch yn cael ei chyflwyno’n awtomatig ym mhob cartref gofal sydd ag achos positif. Fodd bynnag, bydd yn cael ei hystyried fel rhan o’r cynllun asesu a rheoli risg ar gyfer brigiad o achosion a dylid ei hystyried gyda rheolwyr cartrefi gofal.

Mae profion llif unffordd yn canfod presenoldeb antigen feirysol Covid-19 o sampl swab a gall roi’r canlyniad mewn 20-30 munud gan ei gwneud yn bosibl canfod ac ynysu unigolion positif yn llawer cyflymach na thrwy’r broses brofi PCR bresennol.

Mewn adroddiad gan Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain ynglŷn â phrofion rheolaidd gan ddefnyddio profion antigenau, nodwyd bod defnydd aml o brofion llif unffordd yn canfod nifer cymharol o heintiau â phrofion PCR aml, ac y gall osgoi mwy o drosglwyddiadau na PCR os oes modd eu defnyddio’n fwy aml.

Nodwyd hefyd fod canlyniadau yn awgrymu bod profion aml, hynny yw bob 1 neu 3 diwrnod, yn debygol o ganfod cyfran sylweddol o heintiau asymptomatig a chyn-symptomatig ac osgoi’r mwyafrif o drosglwyddiadau pellach, boed hynny gan ddefnyddio profion LFA[D] neu PCR. Gan fod modd cael canlyniadau profion LFA[D] mewn llawer llai o amser na chanlyniadau profion PCR, mae’n bosibl canfod ac ynysu unigolion heintus yn llawer cyflymach, gan wrthbwyso sensitifedd is profion LFA[D] ac osgoi nifer tebyg o drosglwyddiadau.

Felly, drwy gyfuno profion PCR a phrofion LFD mewn cartrefi gofal, bydd mwy o unigolion heintus asymptomatig yn cael eu canfod a gallant ynysu yn gyflymach er mwyn osgoi trosglwyddiadau pellach. Rydym yn deall bod hyn yn rhoi baich ychwanegol ar y sector yn y cyfnod heriol hwn, ond mae’n cyd-fynd â’r pwysigrwydd a roddir ar geisio canfod unigolion positif asymptomatig. Mae hefyd yn cydnabod y buddion mwy hirdymor a geir wrth helpu i reoli brigiadau o achosion yn gyflymach ac atal trosglwyddiadau pellach.

Bydd swyddogion yn ysgrifennu i gartrefi gofal i roi arweiniad manylach ynglŷn â chyflwyno profion LFD ychwanegol ar gyfer staff cartrefi gofal. Fodd bynnag, fel rhan o’r rhaglen brofi LFD ar gyfer cartrefi gofal;

  • Bydd staff yn cael un prawf LFD ‘ar y safle’ yn y cartref gofal ar yr un diwrnod â’u prawf PCR wythnosol.
  • Bydd staff hefyd yn cael un prawf LFD ganol yr wythnos rhwng profion PCR. Gallant wneud y prawf hwn gartref cyn mynd i’r gwaith.
  • Yn ddelfrydol, bydd staff yn cael prawf LFD ar ddechrau eu sifft.
  • Os bydd unrhyw staff yn cael prawf positif, bydd angen iddynt archebu prawf PCR cadarnhau, ac yna hunanynysu gartref ar unwaith hyd nes y byddant yn cael y canlyniad.
  • Mewn ardaloedd lefel 4, gallai cartrefi gofal sydd ag achos positif ystyried a/neu gael eu cynghori gan weithwyr diogelu iechyd proffesiynol i gynnal profion LFD dyddiol ar gyfer staff ar ddyletswydd am 10 diwrnod fel rhan o broses rheoli brigiad o achosion. (Bydd angen cyfiawnhad clir dros estyn profion dyddiol ymhellach na hyn, gan gofnodi’r cyfiawnhad hwnnw’n ffurfiol ac ystyried yn ofalus allu cartrefi gofal i gynnal y profion a chydymffurfio â’r gofynion profi.)
  • Bydd dal angen i staff sydd wedi dod i gysylltiad ag achos positif ynysu fel yr arfer.

I alluogi’r rhaglen brofi ychwanegol hon, mae £3,045,000 o gyllid ar gael hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol i gefnogi’r beichiau ychwanegol yn sgil cynnal mwy o brofion ar gyfer staff ac ymwelwyr, gan gynnwys y gost a’r amser ychwanegol i greu mannau profi priodol a diogel, hyfforddi staff, goruchwylio profion ar gyfer ymwelwyr a hwyluso ymweliadau diogel. Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gael drwy’r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol ynghyd â’r cymorth sydd eisoes ar gael i’r sector gofal cymdeithasol. Bydd cyngor manwl pellach yn cael ei ddarparu cyn bo hir.