Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r ddogfen ymgynghori Mwy nag Ailgylchu – Strategaeth i wneud yr Economi Gylchol yng Nghymru yn Realiti. Bydd yn cael ei gynnal tan 3 Ebrill 2020.
Ein nod yw ychwanegu at ein llwyddiannau ym maes ailgylchu sydd wedi’u cydnabod yn fyd-eang. Mae’r llwyddiant hwn wedi cynnwys Cymru gyfan. Wrth gynnal yr ymgynghoriad, rydym am adeiladu ar y diddordeb a’r momentwm o fewn cymunedau ledled Cymru, gan gydweithio gyda dinasyddion a rhanddeiliaid i benderfynu sut i gymryd y camau tuag at economi gylchol. Cyflawni ar ein taith tuag at Gymru ddi-wastraff erbyn 2050, lleihau allyriadau a chymryd cyfleoedd economaidd newydd i greu Cymru ble yr ydym yn defnyddio adnoddau am gyfnod sydd mor hir â phosibl.
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynllunio i fod yn hygyrch ac rydym yn bwriadu cysylltu gyda chynifer â phosibl ledled Cymru yn y drafodaeth gyffrous hon. Rydym yn gwahodd ymatebwyr nid yn unig i gynnig sylwadau ond hefyd i awgrymu, herio a chynnnig camau eraill. Bydd amrywiol ddigwyddiadau, gyda cymunedau, rhanddeiliaid, ac ar-lein, a hoffwn eich annog i godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad.
Mae’r ddogfen ymgynghori a gwybodaeth atodol arall i’w gweld yma: Strategaeth economi gylchol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.