Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Mae Deddf y Coronafeirws 2020 (y Ddeddf) yn rhoi pwerau brys i Weinidogion Cymru fel y gallant reoli pandemig COVID-19. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Ddeddf ar 25 Mawrth 2020.
Cyflwynodd adran 82 o'r Ddeddf ddarpariaethau sy’n gwahardd gorfodi hawl i ailfynediad neu fforffediad, o dan denantiaeth fusnes berthnasol, am beidio â thalu rhent, drwy weithredu neu fel arall, yn ystod y "cyfnod perthnasol”. Y dyddiad gwreiddiol ar gyfer diwedd "cyfnod perthnasol" y ddarpariaeth hon oedd 30 Mehefin 2020. Ers hynny mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i estyn y moratoriwm sawl gwaith. Y tro diwethaf cafodd y "cyfnod perthnasol" mewn perthynas â Chymru ei estyn tan 30 Medi 2021 gan Reoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif. 2) 2021.
Un o’r rhesymau dros gyflwyno’r moratoriwm oedd cyfyngu ar yr effaith sylweddol ar fusnesau o ganlyniad i’r gyfres o ymyriadau a chyfyngiadau a osodwyd ar economi Cymru yn ystod y pandemig.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ymdrin ar wahân â dyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig. Rhagwelir y bydd hyn yn cynnwys egwyddorion y dylai landlordiaid a deiliaid tenantiaethau busnes eu defnyddio i negodi ynghylch y dyledion hyn, a chyflwyno system o gyflafareddu rhwymol lle nad yw tenantiaid a landlordiaid yn gallu cytuno.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd ei bod:
- Wedi estyn y "cyfnod perthnasol" yn Lloegr i 25 Mawrth 2022. Disgwylir i hyn hefyd ganiatáu amser i Senedd y DU basio'r ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ei hangen.
- O 24 Mehefin, wedi estyn y cyfyngiadau ar adennill ôl-ddyledion rhent masnachol (CRAR), fel na ellir gweithredu i adennill ôl-ddyledion rhent masnachol nes bod o leiaf 554 diwrnod heb dderbyn rhent wedi mynd heibio.
- Wedi estyn y cyfyngiadau sy’n atal cyflwyno deiseb dirwyn i ben ar sail cais statudol wedi’i weithredu drwy Ddeddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020 tan 30 Medi 2021.
Rwyf wedi penderfynu estyn y "cyfnod perthnasol" at ddibenion adran 82 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru tan 25 Mawrth 2022, drwy wneud Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif. 3) 2021. Bydd y rhain yn rhoi'r un lefelau o warchodaeth yn hyn o beth i fusnesau Cymru â busnesau Lloegr, a bydd yn helpu busnesau Cymru i adfer wrth i'r economi wella. Bydd hefyd yn rhoi'r hyn y credir ei fod yn ddigon o amser i Lywodraeth Cymru barhau i weithio i ystyried ac wedyn, lle bo angen, gweithredu mesurau mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig yng Nghymru. Disgwylir y bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried ac i ddatblygu eu cynigion ymhellach
Nid yw'r warchodaeth a ddarperir gan adran 82 o'r Ddeddf yn ystod y "cyfnod perthnasol" yn dileu'r gofyniad i dalu rhent, a hoffwn i fod yn glir y dylai tenantiaid, wrth gwrs, dalu rhent os ydynt yn gallu.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â’r mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.