Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y llynedd, fe gyhoeddais ymgynghoriad, sef 'Modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus: cynllun gweithredu ar gyfer ymgynghori'.  Roedd y ddogfen ymgynghori'n pennu fframwaith cenedlaethol arfaethedig ar gyfer gwneud penderfyniadau yn lleol ynghylch priodoldeb modelau darparu amgen mewn meysydd gwasanaeth penodol.  Roedd hefyd yn egluro pa gymorth ymarferol sydd ar gael i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus, eu gweithlu, dinasyddion a chymunedau wrth iddynt wneud penderfyniadau ynghylch y modd y dylai gwasanaethau gael eu dylunio a'u darparu.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 13 Hydref 2015 ac 13 Ionawr 2016 a chafwyd 38 o ymatebion.  Yn ystod y broses ymgynghori, cynhaliwyd nifer o weithdai gyda phartneriaid allweddol. Mynychais rai o'r gweithdai hyn yn ogystal â chyfarfod gyda TUC Cymru.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu terfynol. Wrth ei lunio, rhoddwyd ystyriaeth i'r ymatebion i'r ymgynghoriad a thrafodaethau ehangach ynghylch yr ymgynghoriad.
Lluniwyd y Cynllun Gweithredu ar sail nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o weithio tuag at amcanion cenedlaethol cyffredin, integreiddio amcanion yn effeithiol, cydweithio a chynnwys pobl.

Mae'r Cynllun yn adlewyrchu pedwar rhag-amod pwysig i'w diwallu wrth ystyried modelau darparu amgen:

  • Atebolrwydd i lywodraeth leol neu gorff cyhoeddus perthnasol arall 
  • Amddiffyn telerau ac amodau cyflogeion
  • Parhau i gydnabod undebau llafur
  • Rhoi ystyriaeth i ofynion Safonau'r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae hefyd yn darparu egwyddorion manylach y dylid eu dilyn wrth ddatblygu modelau darparu amgen.  

Mae'r cynllun gweithredu'n cynnwys ystod o gamau gweithredu, sy'n amrywio o ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer cyngor a chymorth arbenigol i adolygu'r ffactorau sy'n cyfyngu ar ddatblygu modelau darparu amgen.

Mae'r cynllun gweithredu'n adlewyrchu camau gweithredu a geir yn y Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae'n cynnwys ymrwymiadau sy'n berthnasol i bortffolios nifer o Weinidogion.

Gyda'i gilydd, bydd yr egwyddorion sy'n sail i'r Cynllun Gweithredu a'r camau gweithredu penodol a gynigir yn darparu fframwaith cenedlaethol cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cytbwys ynghylch priodoldeb defnyddio model darparu amgen mewn maes gwasanaeth penodol.