Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, comisiynwyd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus gennyf i ystyried sut y dylid cryfhau y dull o gynllunio trafnidiaeth yng Nghymru.  Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Dulliau Strategol o Gynllunio Trafnidiaeth' ym mis Tachwedd, a gwnaeth yr achos dros fuddsoddi mewn modelau galw ar drafnidiaeth i lywio'r broses o gynllunio trafnidiaeth a phenderfyniadau buddsoddi.    

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw'r unig gytref fawr (sy'n cael ei ddiffinio fel dros 500,000 o bobl) yn y DU ar hyn o bryd sydd heb fodel trafnidiaeth amlfoddol i gefnogi'r dull o gynllunio ei system drafnidiaeth.  Mae hyn yn rhwystro ein gallu ar y cyd i ddatblygu a darparu cynlluniau sy'n mynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ac yn cefnogi amcanion ehangach.    

Wedi ystyried y materion hyn, rwyf wedi cytuno i gomisiynu model trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Bydd hwn yn ddull hollbwysig o lywio'r dull o gynllunio a darparu'r Metro ac ymyriadau ehangach o ran trafnidiaeth yr ardal, a bydd yn sicrhau bod gwaith y cwmni di-ddifidend newydd yn cael ei gyflawni ar fyrder a'i fod yn seiliedig ar dystiolaeth.  

Bydd y model yn cael ei gynllunio i:

  • Ddeall y patrymau teithio presennol mewn ardal a pherfformiad y system drafnidiaeth; mae hyn yn helpu i nodi ac egluro problemau 
  • Monitro newidiadau i batrymau teithio dros amser
  • Rhagweld patrymau teithio ac amodau yn y dyfodol ar y rhwydwaith trafnidiaeth 
  • Asesu effaith ymyriadau posibl i'r system drafnidiaeth yn gyson 
  • Asesu effaith newidiadau yn y defnydd o dir megis datblygiadau tai newydd a lleoliadau gwaith mewn dull cyson; mae hyn yn golygu bod modd profi effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd mesurau arfaethedig i fodloni gofynion o ran trafnidiaeth.  
  • Rhoi y mewnbwn sydd ei angen i werthuso trafnidiaeth a datblygu achos busnes 
  • Darparu data sydd ei angen ar gyfer datblygu gwaith rheoli  

Bydd y model yn darparu tystiolaeth ar gyfer penderfyniadau ar faterion penodol megis:  

  • Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: llwybrau, gorsafoedd newydd, parcio a theithio, paru'r dull o deithio (rheilffordd drom, tram neu deithio ar fws gyflym)â'r galw, cynlluniau blaenoriaeth i fysiau 
  • Elfennau penodol yr amserlen reilffordd nesaf yng Nghymru a phatrymau gwasanaeth 
  • Newidiadau i'r seilwaith priffyrdd 
  • Polisïau parcio
  • Gwelliannau i'r rheilffyrdd
  • Effaith y datblygiadau newydd
  • Mesurau teithio llesol

Bydd y gwaith ar y model trafnidiaeth rhanbarthol newydd a'r broses angenrheidiol o gasglu data yn dechrau nawr, a bydd y model wedi'i sefydlu a'i ddilysu'n llawn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.