Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o'r gweithlu ac, ar y cyd â'n partneriaid, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a'i wobrwyo'n well. Mae'n rhaid i ysgolion a chyrff llywodraethu ddod o hyd i staff fel y gwelant yn dda i wneud hynny. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n datblygu model cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi, sydd â gwaith teg wrth wraidd iddo. Rydym yn ddiolchgar i bartneriaid y Cytundeb Cydweithio am eu rhan nhw yn y gwaith hwn yn ystod cyfnod y Cytundeb Cydweithio.

Mae'r rhan fwyaf o athrawon cyflenwi yng Nghymru yn cael eu cyflogi drwy asiantaethau, felly rydym wedi cryfhau'r Fframwaith ar gyfer Darparu Athrawon Cyflenwi, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau gofrestru â'r rhwydwaith 'Swyddi Diogelach'; cryfhau'r angen i asiantaethau gydymffurfio â gofynion cyflogaeth statudol; a rhoi sicrwydd bod asiantaethau'n gweithio i gefnogi'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Mae'r Fframwaith yn cael ei ddefnyddio'n dda – mae 98% o'r arian sy'n cael ei wario ar ddarparu athrawon cyflenwi ledled Cymru yn mynd i'r asiantaethau hynny a benodwyd i'r Fframwaith.

Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod athrawon cyflenwi am ddefnyddio'r modelau cyflogi eraill y maent yn cael eu cyflogi drwyddynt yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru), a gallu manteisio ar Gynllun Pensiwn Athrawon. Dyna pam, yn 2023, fe wnaethom ddechrau cyflwyno Pwll Cyflenwi Cenedlaethol ar Ynys Môn. O dan y model hwnnw, mae Ynys Môn wedi parhau i fod yn gyflogwr, gan reoli cyflogres a sicrhau mynediad i Gynllun Pensiwn Athrawon. Er i'r model gael ei gyflwyno yn y lle cyntaf gan awdurdod lleol sy'n cyflogi athrawon cyflenwi yn uniongyrchol, mae gwaith wedi cael ei gynnal â phartneriaid i ystyried sut y gellid gweithredu model o'r fath ledled Cymru. 

Cynhaliodd swyddogion uwchgynhadledd yn 2024 gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau ac awdurdodau lleol, i drafod y cynnydd a'r camau nesaf i gefnogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Wrth archwilio'r opsiynau i ddarparu'r pwll cyflenwi yn genedlaethol, canfuwyd bod pob opsiwn yn cyflwyno heriau sylweddol – gan adlewyrchu'r dulliau amrywiol o ddod o hyd i staff cyflenwi ar draws gwahanol awdurdodau lleol sydd hefyd yn ceisio bodloni'r awydd i athrawon cyflenwi gael y telerau ac amodau o dan Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru), a gallu manteisio ar Gynllun Pensiwn Athrawon. Mae'n amlwg erbyn hyn, er bod y model wedi sicrhau manteision ar Ynys Môn, ni fydd y Pwll Cyflenwi yn cynnig y manteision y bwriedir iddo eu cael ar sail genedlaethol.

Ym mis Ionawr, cyhoeddais y byddwn yn datblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg i sicrhau ein bod yn rhoi sylw pendant i gyflawni ein hamcanion a sicrhau model gwell ar gyfer ein gweithlu addysg. Bydd gwaith pellach yn mynd rhagddo i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi fel rhan o'r cynllun hwnnw. Mae Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi gwneud nifer o argymhellion perthnasol a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith hwn. 

Byddaf yn parhau i roi diweddariadau i'r Senedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.