Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Rwy'n falch o'ch hysbysu bod canlyniadau yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agweddau technegol sy'n ymwneud â chyflwyno microsglodynnu gorfodol i gŵn yng Nghymru wedi'i gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yn 2012, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ar yr egwyddor o bolisi cyffredinol ar gyfer microsglodynnu cŵn yng Nghymru. Bryd hynny, roedd 84% o'r ymatebwyr yn cefnogi microsglodynnu gorfodol ar gyfer cŵn. Mae canlyniadau yr ymgynghoriad diweddaraf hwn yn dilyn patrwm tebyg. Roedd canran yr ymatebion gan ymgyngoreion i'r cwestiynau yn amrywio yn bositif o 58% i 84%.
O ystyried bod yr ymgynghoriad wedi adlewyrchu safbwynt bositif i fynd ymlaen â'r broses, mae rheoliadau'n cael eu drafftio ar hyn o bryd, gan ystyried y materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Fel a benwyd yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 16 Chwefror 2015, rydym yn gweithio i sicrhau microsglodynnu gorfodol ar gyfer pob ci yng Nghymru yn ystod gwanwyn 2016. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dyddiad a gyhoeddwyd ar gyfer microsglodynnu gorfodol yn Lloegr, ac, yn ddiweddarach, yn yr Alban.