Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd Cymru, a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2013, yn nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran rheoli ein pysgodfeydd. Yn eu plith roedd cyflwyno dull gweithredu sy’n seiliedig ar yr ecosystem o reoli ein moroedd, diogelu a gwarchod adnoddau naturiol a defnyddio poblogaethau iach fel sail i hybu twf economaidd cynaliadwy.
Yn dilyn rhaglen ymchwil helaeth gan Brifysgol Bangor, mae fy swyddogion yn ystyried creu pysgodfa cregyn bylchog hyfyw a chynaliadwy mewn ardal sydd wedi’i chau ar hyn o bryd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.
Caewyd y bysgodfa hon yn 2009 yn sgil pryderon fod llusgrwydo yn cael effaith negyddol ar nodweddion y safle. Mae’r dystiolaeth newydd sydd ar gael erbyn hyn yn cynnig cyfle unigryw i gyflwyno dull rheoli sy’n seiliedig ar ecosystemau, yng ngwir ystyr y gair, ym Mae Ceredigion. Yr hyn sy’n cael ei ystyried yw cynllun trwyddedu ar gyfer Cregyn Bylchog a fydd yn berthnasol rhwng 3 a 12 môr-filltir o’r lan.
Mae gan gregyn bylchog botensial economaidd cynaliadwy sylweddol ac amcangyfrifir y gallai cynllun rheoli newydd ychwanegu £6-10 miliwn at economi Cymru bob blwyddyn.
Mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid cychwynnol wedi’i wneud gyda Chymdeithasau Pysgotwyr, Prifysgol Bangor, Cyfoeth Naturiol Cymru, Seafish Cymru, Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Môr Cymru a Grwpiau Pysgodfeydd y Glannau.
Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar y cynigion, gyda’r bwriad o ddechrau’r broses gyfreithiol ar gyfer llunio deddfwriaeth newydd i gyflwyno cynllun trwyddedu newydd ddechrau 2016. Byddai unrhyw drefniadau newydd yn dod i rym o 1 Tachwedd 2016; ni fydd unrhyw newid i’r trefniadau ar gyfer y bysgodfa y gaeaf hwn, sy’n dechrau ymhen ychydig wythnosau.