Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau
Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diwygio Addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Drwy gydweithio byddwn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf, boed drwy lwybr academaidd neu alwedigaethol. Mae’n hanfodol bod y gwaith hwn yn seiliedig ar ddata cadarn, a’n bod yn mesur y deilliannau cywir ar gyfer ein dysgwyr.

Rydym eisoes yn gwybod bod yna le i wella safonau dysgu ôl-16. Yn dilyn y canlyniadau Safon Uwch haf diwethaf, fe wnaethom ni ddweud y byddem yn edrych yn ofalus ar holl fanylion y canlyniadau, er mwyn gweld pa wersi y gallwn eu dysgu a beth allwn ei wneud yn wahanol.  

Rydym eisoes wedi gofyn i’r consortia addysg rhanbarthol i roi mwy o bwyslais ar berfformiad y chweched dosbarth yn eu rôl ‘cefnogi a herio’ ar gyfer ysgolion ac i ddefnyddio dull ar draws y consortia i lywio gwelliannau er mwyn sicrhau cysondeb yn Genedlaethol. Yn ychwanegol, yr wythnos nesaf cynhelir uwch-gynhadledd ar wella Safon Uwch lle byddwn yn dwyn ynghyd ein partneriaid allweddol er mwyn cytuno ar rolau a chyfrifoldebau pawb, a phennu’r trywydd ar gyfer gwneud gwelliannau i ddarpariaeth ôl-16 yn gyffredinol.

Darperir Safon Uwch gan ysgolion a cholegau Addysg Bellach. Ar hyn o bryd, mae ein mesurau perfformiad unigol yn ei gwneud hi’n anodd i ni gael darlun llawn o’r deilliannau a gyflawnwyd gan ddysgwyr ledled Cymru, felly rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cyfres newydd o fesurau perfformiad cyson a fydd yn helpu i gefnogi ymdrechion i godi safonau dysgu ôl-16.  

Yn ddiweddar, cwblhawyd ymgynghoriad ar y mesurau perfformiad newydd ar gyfer y chweched dosbarth a cholegau Addysg Bellach. Heddiw rydym yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’n hymgynghoriad.

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi cadarnhau'r dyhead am newid ac i sicrhau chwarae teg yn y ffordd rydym yn mesur deilliannau dysgwyr ôl-16. Rydym nawr yn cadarnhau ein bwriad felly i fabwysiadu tri o fesurau newydd: cyflawniad dysgwyr, gwerth ychwanegol ôl-16, a chyrchfannau. Mae’r ymgynghoriad wedi rhoi adborth gwerthfawr iawn i ni hefyd ar y ffordd y gellir datblygu a defnyddio’r mesurau ymhellach er mwyn helpu i wneud gwelliannau dros y blynyddoedd nesaf.  

Cyn bo hir byddwn yn cyflwyno data llinell sylfaen i ysgolion a cholegau ar y mesur cyflawniad newydd, gan ddefnyddio data 2014/15 a 2015/16. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y ffordd rydym yn mesur deilliannau dysgu ôl-16, gan ystyried y darlun ehangach mewn perthynas â chadw dysgwyr a’r graddau y maen nhw’n eu cyflawni, yn hytrach na mesurau syml sy’n seiliedig yn unig ar y rhai sy’n sefyll arholiadau.  

Gwyddom fod gennym rywfaint o waith i’w wneud gydag ysgolion a cholegau er mwyn sefydlu’r dull newydd, nid yn unig er mwyn sicrhau bod y data yr ydym yn ei ddefnyddio’n gywir. Byddwn yn cyflwyno’r mesurau newydd cam wrth gam gan fod y gwaith o’u datblygu ar wahanol gamau. Fodd bynnag, bydd y tri mesur ar waith yn unol â’r amserlen, a hynny erbyn dechrau 2019.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi’r mesurau presennol ar gyfer ysgolion a cholegau Addysg Bellach ochr yn ochr â’r datblygiadau newydd, tan 2019 o leiaf (gan gynnwys deilliannau blwyddyn academaidd 2017/18).  

Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r broses ehangach o ddiwygio addysg yr ydym wedi cychwyn arno a byddwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo er mwyn datblygu cwricwlwm newydd ac uchelgeisiol. Bydd yn llywio rhan o’n hadolygiad sylfaenol o systemau atebolrwydd cyn-16 ac ôl-16 ac yn cael ei ystyried yn rhan ohono; a bydd yn gweithio tuag at ein hymgynghoriad cyfredol ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol: “Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – Datblygu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ddiwygiedig”.