Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi’n cynlluniau ar gyfer Rheoliadau Adeiladu a fydd yn gwneud newid mawr i berfformiad tai newydd o ran ynni. Mae’r cynlluniau hyn yn arwydd o newid i ffyrdd glanach o wresogi’n cartrefi, gan helpu i wneud sector tai Cymru yn fwy gwyrdd.

Os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau mewn perthynas â’r hinsawdd, rhaid inni fod mewn sefyllfa lle bydd ein stoc adeiladau’n creu bron dim allyriadau o gwbl erbyn 2050. Bydd angen newid mawr i’r ffordd y bydd adeiladau’n cael eu gwresogi a'u pweru yn y dyfodol. Bydd yn rhaid i'r galw am ynni a ddefnyddir mewn adeiladau fod yn is o lawer, a bydd yn rhaid i’r ynni hwnnw ddod o ffynonellau carbon isel ac adnewyddadwy.

Bydd cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu heddiw dal yma yn 2050. Felly, mae'r safonau yr ydym yn eu pennu yn awr ar gyfer cartrefi yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau.

Y llynedd, amlinellais gynigion i gyflwyno safonau uwch o lawer ar gyfer effeithlonrwydd ynni ym mhob cartref newydd, ac roedd y cynigion hynny’n rhan o gynlluniau ehangach i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei hymateb heddiw, ac mae’n nodi’n penderfyniad i gyflwyno gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon (o gymharu â'r safonau presennol) ar gyfer anheddau newydd. Bydd y safonau newydd hyn yn cael eu gweithredu o 2022 ymlaen, a gallent arbed £180 y flwyddyn i berchnogion tai ar eu biliau ynni (yn seiliedig ar dŷ pâr). 

Bydd angen paratoi pob cartref newydd at y dyfodol hefyd, er mwyn ei gwneud yn haws i ôl-osod systemau gwresogi carbon isel.

Mae'r gostyngiad o 37% yn gam tuag at y newidiadau nesaf o ran effeithlonrwydd ynni a fydd yn cael eu cyflwyno mewn Rheoliadau Adeiladu yn 2025, lle bydd angen i gartrefi newydd greu o leiaf 75% yn llai o allyriadau CO2 na chartrefi sy’n cael eu hadeiladu yn unol â’r gofynion presennol.

Bydd gweithredu'r cynigion hyn yn hanfodol er mwyn ein helpu i gyrraedd ein targedau hinsawdd, a helpu i ddiogelu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.