Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd
O edrych ar sefyllfa’r ffliw adar, mae’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd risg y clefyd yng Nghymru yn cynyddu dros fisoedd y gaeaf. Felly, mae mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dofednod ac adar caeth yng Nghymru. Mae’r camau hyn yn cael eu cymryd i’w diogelu rhag cynnydd tebygol yn feirws ffliw adar yn yr amgylchedd ac i gryfhau’r mesurau pwysig a gyflwynwyd ym mis Hydref trwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru. Bydd y mesurau newydd yn dod i rym ledled Cymru ddydd Gwener, 2 Rhagfyr.
O’r dyddiad hwnnw, bydd yn ofyn cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt. Rhaid i bob ceidwad adolygu hefyd y mesurau bioddiogelwch ar y safle lle cedwir yr adar a gweithredu ar hynny. Diben hyn yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn farwol i lawer o adar. Mae’r mesurau hyn yn ychwanegol at y rheini ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau’n hynod bwysig.
Rydym yn annog ceidwaid adar i baratoi ar gyfer y mesurau newydd, trwy wneud yn siŵr bod eu siediau adar yn addas, a’u bod yn cael eu gwella i amddiffyn lles yr adar. Cynghorir ceidwaid i ofyn barn eu milfeddyg os oes angen cyngor arnynt.
Er mwyn i’r mesurau cadw adar dan do fod yn effeithiol, rhaid hefyd wrth fesurau bioddiogelwch llym i gadw’r feirws allan. Mae rhestr wirio wedi’i chreu, a rhaid i bob ceidwad ei chwblhau er mwyn sicrhau bod y mesurau bioddiogelwch yn effeithiol. Bydd y mesurau rydym yn eu cyflwyno yng Nghymru yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i’r adar ac yn cryfhau’r sector dofednod. Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.