Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys ein lleoliadau Dechrau’n Deg, wedi bod yn rhan allweddol o’n hymateb i COVID-19 ers i’r pandemig ddechrau. Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw rôl y lleoliadau hyn o ran cynnig amgylcheddau sy’n meithrin ein plant. Maent hefyd yn darparu cymorth hollbwysig i rieni, yn enwedig i’r rhai sy’n dibynnu ar ofal plant i allu gweithio. Nid yw hyn wedi bod yn hawdd bob amser, ac rydym yn gwybod bod ein lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae wedi gorfod gwneud llawer o newidiadau i’r ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.

I gefnogi ein lleoliadau, rydym wedi darparu canllawiau ar y Mesurau Diogelu mewn Lleoliadau Gofal Plant. Rydym hefyd wedi darparu canllawiau ychwanegol ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg, ac ar gyfer darpariaeth chwarae mynediad agored. Caiff y sector hefyd ei gefnogi drwy gynnig prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos i staff, sy’n helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws ac i gadw staff a phlant yn ddiogel. Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn ac ymrwymiad ein lleoliadau wedi golygu bod nifer yr achosion COVID-19 mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, ar y cyfan, wedi aros yn gymharol isel.

Mae ein canllawiau sydd wedi'u diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu ein dealltwriaeth o'r feirws, dealltwriaeth sy’n parhau i ddatblygu, ac maent bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth ac ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd. Er bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i achosi pryder, rwy’n falch ein bod mewn sefyllfa lle y gallwn yn awr lacio un o'r gofynion sydd wedi achosi'r pryder mwyaf i'r sector.  

Hyd yma, bu'n ofynnol i leoliadau gofal plant sicrhau bod plant yn cael eu cadw mewn grwpiau cyswllt cyson. Lle bynnag y bo modd, gofynnwyd iddynt hefyd adlewyrchu'r grwpiau cyswllt y mae plant ynddynt yn yr ysgol, a sicrhau nad oes cymysgu rhwng grwpiau. Profodd y dull hwn i fod yn fesur hanfodol yn ystod anterth y pandemig  chyn cyflwyno profion a brechlynnau yn y gymuned. Fodd bynnag, rydym yn gwybod eu bod wedi cyfyngu ar nifer y plant a all elwa ar y gwasanaethau y gall ein darparwyr gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg, eu cynnig. Maent hefyd yn achosi heriau logistaidd a gweithredol sylweddol i leoliadau, yn enwedig pan fo plant yn mynychu mwy nag un lleoliad, neu'n defnyddio darpariaeth gofal plant neu waith chwarae ynghyd â'r ysgol. 

Er nad yw'r pandemig wedi diflannu, a rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus, rydym yn awr mewn sefyllfa lle'r ydym wedi gallu ymlacio nifer o'r cyfyngiadau ehangach a gyflwynwyd i reoli'r feirws. I blant a phobl ifanc, mae hyn wedi arwain at ailgyflwyno gweithgareddau a drefnir, gan eu galluogi i gymysgu ag eraill yn ehangach. Mae hyn wedi golygu bod llawer o blant bellach yn cael eu hunain mewn sawl grŵp cyswllt, ar draws yr ysgol, gofal plant ac unrhyw weithgareddau ychwanegol y maent yn eu cyflawni. O ganlyniad, a’r haf ar ei ffordd, mae bellach yn briodol inni adolygu'r defnydd o grwpiau cyswllt mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ac addasu'r dull  o ystyried y sefyllfa iechyd cyhoeddus.

Mewn trafodaeth â swyddogion iechyd cyhoeddus ac yn unol â'r dull cymunedol ehangach o liniaru'r risg o drosglwyddo mae’r penderfyniad wedi’i wneud i symud oddi wrth y gofyniad i gynnal grwpiau cyswllt cyson ar draws ein lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys lleoliadau Dechrau’n Deg.  Ni fydd angen defnyddio grwpiau cyswllt cyson mwyach o ddydd Llun 19 Gorffennaf ymlaen.

Bydd y ddibyniaeth ar grwpiau cyswllt cyson yn cael ei disodli gan ffocws cryfach ar olrhain cyswllt. Bydd angen i leoliadau sicrhau eu bod yn cadw cofnodion manwl o bresenoldeb a gweithgareddau er mwyn galluogi adnabod cysylltiadau agos ag achos cadarnhaol yn glir. Gyda'r mesurau hyn ar waith, byddai'r risgiau trosglwyddo mewn lleoliadau gofal plant yn parhau i gael eu lliniaru.

Mae’r newid hwn yn ymateb i effaith gynyddol brechu oedolion yng Nghymru, cynnig profion ddwywaith yr wythnos i staff mewn lleoliadau gofal plant, a'n system olrhain cysylltiadau effeithiol. Nid yw'n arwydd o lacio'r holl fesurau rheoli, nac yn golygu y gallwn fod yn llai gofalus yn awr. Mae parhau i ddilyn camau rheoli eraill, fel arferion awyru da, golchi dwylo’n drylwyr a glanhau’n well yn hollbwysig er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo’r feirws. Rhaid i leoliadau hefyd sicrhau nad ydyn nhw'n caniatáu i staff neu blant sydd wedi profi'n bositif neu a ddylai fod yn hunan-ynysu fynychu'r lleoliad.

Bydd y canllawiau ar y Mesurau Diogelu mewn Lleoliadau Gofal Plant a’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newid hwn ac i ddarparu cyngor ychwanegol ar gyfer lleoliadau ynghylch sut mae aros yn ddiogel o ran covid.