Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Mesur Hawliau yn Nhŷ'r Cyffredin.   

Ni chafodd Llywodraeth Cymru weld cynnwys y Mesur ymlaen llaw, ac eithrio pum cymal, a ddarparwyd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.  Ychydig iawn o ymgysylltu a fu â Llywodraeth Cymru ers i Lywodraeth y DU ddod â’i hymgynghoriad i ben ddiwedd mis Mawrth.  

Aethom ati i nodi ein pryderon sylweddol am y Mesur hwn yn ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad. Fel y dywedwyd bryd hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig i ddisodli'r Ddeddf Hawliau Dynol. Ein barn ni yw bod y cam gweithredu hwn yn rhan o ymgais bendant i leihau hawliau pobl Cymru a'r DU.

Rydym ar ddeall bod ymateb mawr iawn wedi bod i'r ymgynghoriad hwn, a gwyddom fod llawer wedi mynegi eu pryderon y byddai cynigion Llywodraeth y DU yn gam difrifol yn ôl o ran hawliau dynol yn y DU, ar adeg pan na fu erioed yn bwysicach cynnal cyfraith ryngwladol.  Newydd gael ei gyhoeddi y mae’r adroddiad ar yr ymgynghoriad, ac felly nid ydym eto wedi cael amser i’w ystyried.

Er bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud y bydd y DU yn parhau i arddel y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae'n ymddangos yn glir mai'r bwriad yw tanseilio'r Confensiwn drwy gynyddu hawliau Gweinidogion y DU a lleihau pŵer llysoedd y DU, yn ogystal â Llys Hawliau Dynol Ewrop, i orfodi rheolaeth y gyfraith a dwyn Gweinidogion i gyfrif.

Wrth gwrs, byddwn yn astudio'r Mesur yn ofalus iawn, ac rydym wedi dweud wrth y Dirprwy Brif Weinidog o'r blaen ein bod yn barod i barhau i drafod wrth iddo fynd drwy Senedd San Steffan. Serch hynny, mae'r broses a ddilynwyd gan Lywodraeth y DU wedi bod yn gwbl anfoddhaol, yn enwedig o ran ymgysylltu â'r Llywodraethau Datganoledig.