Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economy, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, Dydd Mawrth 8 Mawrth, roeddwn yn falch o gael lansio’r adroddiad annibynnol, y bu mawr ddisgwyl amdano, ar fenywod mewn gwyddoniaeth ‒ Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus. Mae’n amlinellu casgliadau ac argymhellion gweithgor hynod ddawnus a brwdfrydig, a fu’n gweithio o dan arweiniad medrus dwy o’r academyddion uchaf eu statws sydd gennym yma yng Nghymru ‒ yr Athro Karen Holford, sy’n Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r Athro Hilary Lappin-Scott, sy’n Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe.

Hoffwn gymeradwyo’r adroddiad hwn a diolch unwaith eto i holl aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fenywod mewn Gwyddoniaeth. Mawr yw fy niolch hefyd i’r bobl eraill a gyfrannodd drwy wneud gwaith ymchwil, drwy ddarparu tystiolaeth a thrwy ddrafftio. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi golwg gwerthfawr inni ar sefyllfa menywod mewn gwyddoniaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei gwmpas yn uchelgeisiol ac yn eang. Mae’n ymdrin â sefyllfa merched a menywod o ran addysg yn y pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ac yn mynd i’r afael wedyn â’r problemau sy’n wynebu menywod o ran cael eu recriwtio, cael eu cadw yn y gweithlu, a chael dyrchafiad mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r pynciau STEM, naill ai ym myd busnes a diwydiant neu yn y byd academaidd a byd addysg. Rydym yn dysgu pam mae menywod dawnus sy’n mynd i mewn i feysydd sy’n gysylltiedig â’r pynciau STEM yn cael eu colli yn ystod pob cam.

Yn bwysicaf oll, mae’r adroddiad yn gwneud set gynhwysfawr o argymhellion ar gamau a fydd yn gwella sefyllfa menywod sydd wedi dechrau ar yrfaoedd ym maes STEM; sydd wedi gweithio mewn meysydd sy’n gysylltiedig â STEM ond sy’n wynebu anawsterau wrth geisio ailafael yn eu gyrfaoedd, neu sy’n ceisio symud yn eu blaen i swyddi arweinyddiaeth. Mae’r argymhellion yn amrywio o ran eu cwmpas. Mae rhai ohonynt, yn eu hanfod, yn fater o sicrhau bod yr arferion gorau sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn cael eu rhoi ar waith yn fwy eang. Mae eraill yn bellgyrhaeddol a bydd angen i’r Llywodraeth ddarparu cyllid ar eu cyfer, a hynny ar adeg pan fo adnoddau dan bwysau ym mhob un o Lywodraethau’r DU. Mater i Lywodraeth newydd Cymru fydd ystyried yr adroddiad yn fanwl ac ymateb iddo. Fodd bynnag, oherwydd nad dim ond at Lywodraeth Cymru y cyfeirir yr argymhellion, ond at bob corff a sefydliad posibl sy’n gweithredu yn y maes, gall rhanddeiliaid ym myd busnes, yn y byd academaidd ac ym myd addysg ddechrau gweithredu ar yr argymhellion sy’n berthnasol iddyn nhw cyn gynted ag y maent yn dymuno gwneud hynny.

Comisiynwyd yr adroddiad gan yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, a oedd yn awyddus inni gael gwybodaeth ddiweddar a chadarn am natur a maint y problemau sy’n wynebu menywod mewn gyrfaoedd STEM. Roedd hefyd am gael awgrymiadau ymarferol am yr hyn y gellir ei wneud i wella’r sefyllfa. Ni allwn, mewn difrif calon, dderbyn sefyllfa lle nad ydym yn manteisio ar ddoniau oddeutu hanner ein poblogaeth a’u defnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’r gweithgareddau hynny’n sail i’r economi wybodaeth ac yn cyfrannu at ffyniant cynaliadwy yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o’r broblem hon, sy’n bod ers tro byd. Nid dim ond yng Nghymru y mae i’w gweld. Gallwn gyfeirio at amryw o gamau cadarnhaol a gymerwyd eisoes er mwyn dechrau gwella’r sefyllfa ‒ yn enwedig o ran addysg yn y pynciau STEM.

Rydym am fynd ati ar draws y Llywodraeth i sicrhau gwelliant yn y niferoedd o bobl sydd â sgiliau STEM ac rydym yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gwneud hynny yn y ddogfen Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn addysg a hyfforddiant: cynllun cyflawni i Gymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi'r mis hwn. Nid yw’n fawr o syndod bod merched ym maes STEM yn thema allweddol yn y cynllun hwnnw drwyddo draw. Mae’n nodi’r hyn yr ydym wedi’i wneud a beth mwy y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol. Rydym wedi cefnogi mentrau sy’n anelu at wella’r niferoedd sy’n dewis pynciau gwyddonol penodol, yn enwedig Ffiseg a TGCh, lle mae nifer y merched sy’n astudio’r pynciau hynny wedi bod ar ei hôl hi ers blynyddoedd lawer o’u cymharu â nifer y bechgyn. Rydym hefyd wedi cefnogi mentrau sydd â’r nod o dynnu sylw merched a menywod ifanc at yr amrywiaeth eang o yrfaoedd cyffrous, sy’n talu’n dda, y gallant anelu atynt mewn meysydd sy’n gysylltiedig â STEM. Un fenter o’r fath yw’r ymgyrch Cymwys am Oes: Ffocws ar Wyddoniaeth. Cafodd yr ymgyrch honno ei lansio gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn 2014, a’i thema allweddol oedd hyrwyddo gwyddoniaeth a’r pynciau STEM yn fwy eang i ferched, a hynny o’u blynyddoedd cynnar. Thema arall oedd mynd ati i hyrwyddo gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â STEM. Rydym hefyd yn rhoi cyllid i Techniquest gynnig darpariaeth allgymorth er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb mewn Ffiseg ymhlith merched yn y blynyddoedd sy’n arwain at arholiadau TGAU. O dan gynllun peilot, a gafodd ei estyn y llynedd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, mae 48 o ysgolion uwchradd yn elwa ar gynllun mentora ar gyfer athrawon drwy raglen lwyddiannus y Sefydliad Ffiseg i ennyn diddordeb mewn Ffiseg, sef y Stimulating Physics Network. Rydym yn gwybod bod cynlluniau o’r fath yn cael effaith gadarnhaol ar y cynnydd a wneir gan ferched yn y pwnc allweddol hwn. Yn draddodiadol, mae Ffiseg yn bwnc lle nad yw merched ond yn rhyw 20 y cant o’r holl ymgeiswyr; mae’n bryd i hynny newid.

Mae rhaglen addysg Techniquest a Techniquest Glyndŵr, sy’n cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn cael ei goruchwylio gan Gydgysylltwyr Prosiectau Cydraddoldeb Rhywiol, sy’n bwrw golwg dros bob un o elfennau’r rhaglen i sicrhau eu bod yn annog ac yn ysbrydoli merched i ddewis pynciau STEM. Maent hefyd yn cynnal digwyddiadau gyrfaoedd ar gyfer merched yn unig. Maent yn mynd ati’n ofalus bob amser i fonitro nifer y bechgyn a nifer y merched sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau y maent yn eu rhedeg, a hoffwn eu canmol am roi sylw i’r mater hwnnw.

Ers peth amser, mae busnesau wedi bod wrthi, gyda chymorth ein Tîm Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, yn rhedeg cynlluniau llwyddiannus i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i ferched ym maes peirianneg. Mae Clwb Sadwrn Ford ym mynd ati i annog merched i fanteisio ar y cynlluniau hyn, ac o dan Gynllun Cadetiaid Diwydiannol Airbus, rydym wedi gweld cohortau o ferched yn unig o ysgolion yn y Gogledd. Maent yn magu profiad drwy fynd i’r afael â phrosiect diwydiannol go iawn ac yn cael rhyw 20 awr o gymorth mentora dros raglen 10 wythnos.

Yr haf diwethaf, cyhoeddodd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol strategaeth ar gyfer ennyn diddordeb yn y pynciau STEM, gan amlinellu’r egwyddorion y byddai’n eu defnyddio ar gyfer ei chylch nesaf o arian grant. Un o’r egwyddorion hynny yw croesawu ceisiadau oddi wrth brosiectau sy’n mynd ati i annog merched i barhau i astudio’r pynciau STEM, lle nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd, ac i ddangos y gyrfaoedd diddorol a phroffidiol y gallant eu dilyn ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae nifer o’r rhaglenni sy’n cael eu hariannu yn gwireddu’r dyhead hwnnw, ac un enghraifft yw’r rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Raglen Addysg Beirianneg Cymru. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnal gweithgareddau i ddatblygu sgiliau STEM ac i annog dysgwyr i ystyried gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â pheirianneg a gweithgynhyrchu. Ymhlith y gweithgareddau hynny y mae’r cynllun pwrpasol ‘Denu Merched i Faes Peirianneg’, sy’n annog merched i ystyried dilyn gyrfa yn y maes.

Mae Cymrodoriaethau Sêr Cymru II, a lansiwyd yn ddiweddar fel rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i wella capasiti ym maes ymchwil yng Nghymru, yn cynnwys maes ‘Adennill Talent’. Y nod yw denu hyd at 12 o Gymrodorion yn ôl i yrfaoedd ymchwil mewn prifysgolion, ar ôl iddynt gael seibiant. Menywod fydd y rhain, yn ôl pob tebyg, o gofio, yn ôl yr ystadegau, bod nifer da o fenywod sy’n ymchwilwyr yn gadael eu gyrfaoedd ym maes ymchwil i fagu teulu. Mae llawer ohonynt yn ei chael yn anodd wedyn ailafael mewn gwaith ymchwil mewn meysydd academaidd sy’n symud yn eu blaen yn gyflym ac mewn adrannau lle nad yw arferion gwaith a disgwyliadau bob amser yn ystyriol o deuluoedd.

Tynnodd yr Athro Julie Williams sylw yn ddiweddar at ganfyddiad gan y Sefydliad Peirianneg Brenhinol y bydd angen miliwn o wyddonwyr, peirianwyr, technegwyr a mathemategwyr newydd erbyn 2020. Yn achos peirianneg yn unig, mae hynny’n golygu y bydd angen dyblu’r nifer presennol o raddedigion a phrentisiaid a geir yn y maes bob blwyddyn. O gofio hefyd mai’r DU, o blith gwledydd Ewrop, sydd â’r gyfran isaf o fenywod ym maes peirianneg (yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan y grŵp ymgyrchu WISE), mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n awyddus i weld llawer mwy o ferched a menywod y cael swyddi diddorol o ansawdd mor uchel sydd â chyflogau uwch na’r cyfartaledd, er mwyn helpu Cymru i ffynnu ac i fod yn esiampl i eraill o ran cydraddoldeb ym maes STEM, er budd pob un ohonom.