Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Menywod, Gwaith a'r Dirwasgiad yng Nghymru: Adroddiad i Lywodraeth Cymru gan Sefydliad Bevan

Yr wythnos hon, lansiwyd adroddiad ymchwil gan Sefydliad Bevan, sef Menywod, Gwaith a'r Dirwasgiad yng Nghymru (Women, Work and the Recession in Wales)..

Y llynedd, comisiynwyd Sefydliad Bevan gan Lywodraeth Cymru i edrych ar dueddiadau diweddar o ran sefyllfa menywod yn y farchnad lafur yng Nghymru, gan gynnwys newidiadau yn natur cyflogaeth a diweithdra ymysg menywod a materion sy'n gysylltiedig â chyflog menywod. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y pedair blynedd ers dechrau'r Diwygiad (Mehefin 2008 i Fehefin 2012). Yn anochel nid yw'n defnyddio'r data diweddaraf, felly mae rhai manylion o bosibl wedi newid. Ond erys y negeseuon cyffredinol yr un fath.

Mae llawer o bwyntiau pwysig yn yr adroddiad hwn ac mae'r canfyddiadau'n cadarnhau bod y dirwasgiad ymhell o fod drosodd i fenywod yng Nghymru:

  • Yn ystod y pedair blynedd diwethaf gwelwyd newidiadau cymhleth yng nghyflogaeth menywod yng Nghymru, gyda menywod yn parhau i golli swyddi yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Mae hunangyflogaeth wedi cynyddu, tra bod cyflogaeth ran-amser yn crebachu.
  • Menywod mewn swyddi ar reng isaf y farchnad lafur sydd wedi dioddef waethaf o golledion swyddi.
  • Effeithiwyd yn sylweddol ar gyflogaeth menywod gan y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod.
  • Gyda'r newidiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol gwelwyd llawer o fenywod yn symud i mewn i'r farchnad lafur ac mae hyn wedi cyfrannu at gynnydd mewn diweithdra ymysg menywod.
  • Mae menywod yn parhau i ennill llai na dynion ar draws y dosbarthiad incwm.
  • Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn llai yn y sector cyhoeddus nag yn y sector preifat.
  • Mae heriau arbennig i fenywod ifanc a menywod sy'n dod oddi ar fudd-daliadau (yn enwedig menywod sydd â phlant).

Daw'r adroddiad i'r casgliad bod y dirwasgiad wedi dilyn trywydd gwahanol i fenywod. Er bod swyddi dynion wedi cael ergyd fawr yn ystod blynyddoedd cyntaf y dirwasgiad, mae menywod wedi colli swyddi'n fwy diweddar ac mae hynny'n parhau.

Ond er bod menywod ar y cyfan wedi profi llai o golli swyddi yn ystod y pedair blynedd hyn na dynion, nid yw'r prif ffigurau'n adlewyrchu'r darlun cyfan. Yn benodol, maent yn cynnwys cynnydd nodedig yn nifer y menywod hŷn sy'n aros mewn gwaith wrth i oedran pensiwn y wladwriaeth gynyddu. Erbyn hyn mae bron i 15,000 yn fwy o fenywod 50-64 oed mewn gwaith nag yn 2008. Dros y pedair blynedd hyn, mae menywod dan 50 oed wedi colli'r un gyfran o'u cyflogaeth â dynion o'r un oedran.

Mae'r gostyngiad yn nifer y rhai mewn gwaith yn arbennig o wir yn achos menywod iau, gyda nifer y rhai 16-24 oed mewn gwaith yn syrthio mwy na 20% mewn pedair blynedd yn unig (2008-2012).

Mae ein Rhaglen Lywodraethu a'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cynnwys camau allweddol i alluogi gwell mynediad i gyflogaeth i fenywod.  Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'n Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi hefyd yn cynnwys camau sy'n cefnogi'r ddarpariaeth o ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel yn ogystal â gwella'r gofal plant sydd ar gael. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ymdrin â'r rhesymau dros y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a'r gwahaniaethau o ran cyflogaeth.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidog ar  Ddiwygio Lles yn cwblhau asesiad cynhwysfawr o effaith gronnol y newidiadau i'r budd-daliadau y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad Sefydliad Bevan. Defnyddir canlyniadau'r asesiad hwn i dargedu ein hymdrechion ymhellach, ac i helpu i leddfu goblygiadau negyddol Diwygio Lles.

Mae Sefydliad Bevan yn tanlinellu'r heriau sy'n wynebu menywod yn y farchnad lafur. Bydd yn helpu i lywio polisi ar draws Llywodraeth Cymru wrth inni fynd ati i ymdrin ag achosion hirdymor gwahaniaethau mewn cyflogaeth a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a hefyd leddfu effaith y camau cynilo.

Amgaeaf gopïau a hyperddolen o adroddiad Sefydliad Bevan gyda'r Datganiad Ysgrifenedig hwn:

http://www.bevanfoundation.org/publications/women-work-and-the-recession-in-wales/