Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru, drwy'r Gweithgor Asedau Cenedlaethol, wedi  bod yn nodi ac yn hyrwyddo'r arbedion a'r manteision y gellid eu cael o ystad y sector cyhoeddus drwy fynd ati i reoli asedau strategol mewn modd rhagweithiol a chydweithredol.

Mae'r hinsawdd ariannol heriol parhaus sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i bolisi cyni Llywodraeth y DU, yn golygu bod yn rhaid inni arloesi a chydweithio mewn modd mwy darbodus er mwyn inni allu darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i bobl Cymru. Mae'n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i oresgyn y pwysau, gan sicrhau gwerth am arian o'r holl adnoddau sydd ar gael. 
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido rhaglen beilot gydweithredol ar gyfer ystad y sector cyhoeddus yn ardal Cwm Taf. Cafodd yr adroddiad terfynol ar y rhaglen ei gyhoeddi heddiw.

Mae'r adroddiad yn cadarnhau y bydd cyfleoedd sylweddol os bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd gan weithio mewn modd mwy strategol mewn perthynas ag eiddo a rheoli eiddo ar draws ffiniau daearyddol a sefydliadol. Mae'n amlygu cyfleoedd i integreiddio gwasanaethau; gwella profiadau cwsmeriaid; creu arbedion effeithlonrwydd; ac ad-drefnu'r ystad a gwella ansawdd asedau gwasanaethau cyhoeddus drwy fuddsoddi mewn llai o asedau ffisegol a rennir.

Yn ôl yr adroddiad, mae gan raglen beilot ranbarthol Cwm Taf y potensial i sicrhau'r manteision canlynol:
• Cartrefi newydd yn sgil rhyddhau tir dros ben yn y sector cyhoeddus;
• Gwasanaethau sy'n sylweddol well ac sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, drwy gynllunio gwasanaethau integredig a gwella'r ystad mewn modd sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau;
• Lleihau'r costau blynyddol o redeg gwasanaethau drwy ad-drefnu ystad y sector cyhoeddus a phrynu gwasanaethau eiddo mewn modd darbodus;  
• Cynhyrchu cyfalaf o ryddhau tir dros ben a thir llwyd y sector cyhoeddus, er mwyn creu cronfa ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol; 
• Swyddi newydd sy'n gysylltiedig â datblygu tir sydd dros ben a gwella gwasanaethau.

Mae'r astudiaeth wedi sicrhau gwell ddealltwriaeth o'u hystad gydweithredol ymysg gwasanaethau cyhoeddus yn ardal Cwm Taf, yn ogystal â gwella eu dealltwriaeth o ddarparu gwasanaethau ar y cyd, a sut y gallai dull gweithredu cydweithredol greu cyfleoedd i sicrhau canlyniadau gwell. Byddaf yn cyfarfod â'r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus er mwyn clywed sut y bydd yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys y rhaglen waith arfaethedig.

Fel rhan o'r Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol, cyhoeddais fod Cyllideb 2017-18 Llywodraeth Cymru yn cynnwys £2m i gefnogi'r agenda hon ar gyfer gweithio ar y cyd. Bydd y Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn bwrw ymlaen ag argymhellion cenedlaethol yr adroddiad fel rhan o Raglen Gydweithredu Cymru ar Asedau.

Bydd yna gyfleoedd amlwg i'r sector cyhoeddus ledled Cymru o ddefnyddio ei asedau'n fwy effeithiol. Yr allwedd i wireddu hyn fydd cryfhau'r dulliau cydweithredu sydd ar waith rhwng sefydliadau, a defnyddio dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar leoliadau er mwyn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ar y cyd.

Llywodraeth Cymru | Cydweithredu Rhanbarthol

 

 

 

<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />