Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor Gweinidogion (Llawn) ar 8 Mehefin 2011, cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhyng-Lywodraethol diwygiedig rhwng Llywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. 

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig, a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2001, yn ailddatgan yr egwyddorion cydweithredu sy’n sail i’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Heddiw rwyf wedi gosod testun llawn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gerbron y Cynulliad. Mae’n cael ei gyflwyno hefyd i’r tair deddfwrfa arall. 

Yn y cyfarfod, cytunwyd ar welliannau i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gan ddarparu ar gyfer ychwanegiadau i’r protocol osgoi a datrys anghydfod. Byddai’r gwelliannau yn caniatáu i’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion gomisiynu ar sail dadansoddiad annibynnol y cytunir arno gan drydydd parti o faterion sy’n ymwneud ag anghytundebau ac anghydfod heb eu datrys.