Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 13 Tachwedd, cyhoeddodd melin bapur UPM Shotton y bydd yn cau un o’i beiriannau cynhyrchu papur yn y safle yn Sir y Fflint gan beryglu 130 o swyddi.  Y lleiaf o’r ddwy linell cynhyrchu papur sydd ar fin cau.  Bydd gweithrediadau eraill yn parhau ar y safle.

Mae’r penderfyniad wedi’i wneud oherwydd sefyllfa anodd y farchnad.  Mae cylchrediad papurau newydd yn dirywio yn sgil y cynnydd yn y cyfryngau digidol.  Bydd y cwmni’n cau gweithrediadau ar safleoedd cynhyrchu eraill yn Ewrop hefyd.

Yn amlwg, mae hwn yn newyddion siomedig iawn a bydd yn gyfnod anodd i’r rheini yr effeithir arnyn nhw.  Nawr, bydd cyfnod ymgynghori’n dilyn ac unwaith y daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben, bydd yr effaith ar y staff yn cael ei chadarnhau.

Bore heddiw, fe ymwelais â’r felin bapur yn Shotton i drafod gyda’r rheolwyr a chynrychiolwyr Undeb Unite.  Byddwn yn cefnogi’r staff fydd y bydd cau’r peiriant yn effeithio arnyn nhw.  Mae cyrff fel Canolfan Byd Gwaith, cyrff Gyrfaoedd, cyrff hyfforddi ac asiantaethau eraill wedi cynnig rhoi help a chymorth ar y safle i’r staff yr effeithir arnyn nhw.

Rwyf wedi cynnig sefydlu grŵp i gwrdd ag UPM ac i drafod sut gall Llywodraeth Cymru ei helpu.  Rwyf wedi gofyn i David Jones, cadeirydd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy i arwain y grŵp hwn a bydd yn mynd ati i gysylltu â’r cwmni.

Fe gysylltaf â chi eto pan fydd gennyf ragor o fanylion.