Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Mae’r Economi Sylfaenol (FE) yng Nghymru yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau bob dydd hynny yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt i sicrhau ein hiechyd a’n llesiant. Mae gwasanaethau iechyd a gofal, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o’r Economi Sylfaenol. Mae’r diwydiannau a’r cwmnïau yn bodoli yno oherwydd bod pobl yno, gydag amcangyfrifon yn awgrymu bod yr Economi Sylfaenol yn cyfrif am bedair o bob deg swydd a £1 ym mhob tair punt yr ydym yn eu gwario. Mae’r Economi Sylfaenol yn llinyn annatod drwy ein Rhaglen Lywodraethu a’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi.
Mae meithrin y gallu a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgorffori amcanion yr Economi Sylfaenol ar draws sector cyhoeddus Cymru yn hollbwysig. Drwy wneud hynny gallwn wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i’n cyflenwyr cynhenid ac adeiladu cadwyni cyflenwi cadarn, medrus iawn. Mae hynny’n galluogi ein busnesau i dyfu, i ddenu a chadw talent newydd ac ailgylchu’r bunt Gymreig yn ein cymunedau. Bydd pwysigrwydd tâl teg ac amodau gwaith teg i staff sy’n ymgymryd â rolau amhrisiadwy yn sectorau’r Economi Sylfaenol yn cael eu cydnabod a’u hyrwyddo. Bydd yn helpu i ysgogi newid mewn meddylfryd a diwylliannau er mwyn canolbwyntio ar greu gwerth drwy gaffael a symud y tu hwnt i arbedion costau tymor byr, sy’n cynyddu pwysau ariannol yn y tymor hwy ac yn tanseilio llesiant. Er ein bod yn wynebu ansicrwydd economaidd aruthrol ac effeithiau niweidiol y dirwasgiad, mae’n briodol ein bod yn cefnogi camau arloesol sy’n atal caledi ac yn gostwng y pwysau tymor hir ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
Er mwyn gwneud hynny, rydym yn cydnabod bod angen darparu’r pecynnau cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar ein partneriaid a’n hymarferwyr yn y sector cyhoeddus. Rwy’n falch o gyhoeddi lansiad yr adroddiad ‘A Scoping and Feasibility Study for a new Foundational Economy Academy in Wales’ gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd / Prifysgol Abertawe. Mae’r ymchwil a’r ddeialog hon gyda’n rhanddeiliaid wedi ein galluogi i ddechrau archwilio’r math o gefnogaeth ac ymyriadau y maent eisiau eu gweld ac a fydd yn ychwanegu gwerth. Mae hefyd wedi rhoi gwell dealltwriaeth inni o allu cyfredol yr Economi Sylfaenol ar draws y sector cyhoeddus ac o agweddau at ei mabwysiadu. Mae hyn yn helpu i lywio ein rhaglen meithrin gallu ar gyfer yr Economi Sylfaenol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r offer a’r gefnogaeth gywir i ymarferwyr fel y gellir meithrin a chael mynediad at sectorau cryf a bywiog yr Economi Sylfaenol, gan wella llesiant dinasyddion Cymru.