Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer meini prawf cymhwysedd diwygiedig ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n ymgynghori ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno Credyd Cynhwysol fel rhan o’u newidiadau i’r budd-daliadau lles. Rydym yn dal i bryderu’n fawr am wendidau sylfaenol Credyd Cynhwysol ac yn hynod siomedig bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o’i gyflwyno’n raddol, er gwaethaf ein galwadau taer ninnau ac eraill i atal y broses a mynd i’r afael â’r problemau hyn.

Ar hyn o bryd, mae bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn un o’r llu o fudd-daliadau lles, sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol wrthi’n cael ei gyflwyno’n raddol ledled Cymru nawr. Mae amserlen gyhoeddedig ddiweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno’n raddol i ganolfannau gwaith ledled Cymru, a disgwylir y bydd wedi gorffen cael ei gyflwyno i hawlwyr newydd yma yng Nghymru erbyn mis Rhagfyr 2018. Mae rhai teuluoedd sydd eisoes yn derbyn y budd-daliadau lles a ddisodlir gan y drefn newydd, ac y mae eu hamgylchiadau wedi newid, eisoes yn cael eu trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol. Disgwylir i’r holl hawlwyr eraill symud i’r drefn newydd rhwng 2019 a 2022 er ei bod yn bosibl y bydd amserlen yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid.

Fel mesur dros dro, daeth Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 i rym ar 6 Medi 2013. Roedd yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd am giniawau ysgol a llaeth am ddim i gynnwys pob teulu sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, er mwyn sicrhau nad oedd teuluoedd a allai fod wedi hawlio prydau ysgol am ddim o’r blaen, ar eu colled.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle nifer o fudd-daliadau “mewn gwaith” fel y Credyd Treth Gwaith – nid yw’r rhai sy’n eu derbyn yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. Erbyn i Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno’n llawn, rydym yn amcangyfrif y byddai’r llwyth achosion prydau ysgol am ddim yng Nghymru yn treblu dan y meini prawf cymhwysedd estynedig hyn. Felly, byddai hynny’n golygu bod tua hanner yr holl ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim o gymharu ag 16 y cant ym mis Ionawr 2017.
Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi’i darparu i Lywodraeth Cymru reoli effaith newidiadau budd-daliadau lles Llywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno trothwy incwm blynyddol net a enillir o £7,400 ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol ym mis Ionawr 2019 Trothwy incwm a enillir yw’r dull sy’n cael ei ddefnyddio yng ngwledydd eraill y DU. Gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol, byddai gan deulu arferol sy’n ennill tua £7,400 y flwyddyn gyfanswm incwm aelwyd o rhwng £18,000 a £24,000 y flwyddyn ar ôl cynnwys eu budd-daliadau.

Amcangyfrifwn y byddai’r trothwy hwn yn golygu bod tua 3,000 yn fwy o blant yn elwa ar brydau ysgol am ddim yng Nghymru erbyn y disgwylir ar hyn o bryd y bydd Credyd Cynhwysol ar waith yn llawn yn 2022. Mae cryn ansicrwydd ynghylch ein hamcangyfrifon oherwydd ffactorau fel newid ymddygiadol. Hefyd, gall ein hamcangyfrifon newid wrth i gynlluniau cyflwyno Credyd Cynhwysol, rhagolygon economaidd, a’r data sylfaenol a ddefnyddir yn ein dadansoddiadau, barhau i gael eu diweddaru.

Er bod y cynigion wedi’u cynllunio’n ofalus i sicrhau y bydd y mwyafrif helaeth o blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd yn parhau i’w derbyn, fe fydd rhai yn colli’r hawliad. Mae hyn yn annerbyniol, felly mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno mesurau amddiffyniad pontio a fydd yn diogelu teuluoedd rhag colli’r hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim am amser cyfyngedig, a’u helpu i osgoi caledi trwy roi rhagor o amser iddyn nhw addasu.

Byddai’r cynigion trothwy incwm a enillir a’r amddiffyniad pontio yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario tua £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn rhwng 2019-20 a 2022-23 er mwyn darparu prydau ysgol am ddim, yn ôl ein hamcangyfrifon diweddaraf – hyn er gwaetha’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw gyllid ychwanegol.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yn https:https://beta.llyw.cymru/meini-prawf-cymhwystra-ar-gyfer-prydau-ysgol-am-ddim a bydd yn gorffen ar 14 Medi 2018.

Wrth fwrw ymlaen â’r gwaith, hoffwn ymgysylltu’n agored a chynhwysfawr, ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich sylwadau.