Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflog ac amodau athrawon o ddiwedd mis Medi yma, cyn i Weinidogion Cymru benderfynu cyflog ac amodau athrawon am y tro cyntaf i Gymru ym mis Medi 2019.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig o 9fed Mawrth 2018, hysbysais aelodau am ymgynghoriad cyhoeddus i helpu datblygiad system briodol i benderfynu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru.  Roedd yr ymgynghoriad  ar y mecanwaith arfaethedig i benderfynu cyflog athrawon ar agor rhwng 9 Mawrth a 4 Mai 2018.

Roedd y ‘Model Ymgysylltu ag Athrawon’ arfaethedig yn yr ymgynghoriad diweddar wedi’i gynllunio yn dilyn trafodaethau helaeth â’r holl randdeiliaid allweddol ac yn ateb nifer o’r materion a godwyd gan undebau addysgu.  Roedd y mecanwaith arfaethedig yn symud ymlaen ar ein hymrwymiadau i bartneriaethau, cydweithio a datblygu polisi ar sail tystiolaeth.

Mae’r model yn cadw rhai elfennau penodol o’r system gyfredol am benderfynu cyflog ac amodau athrawon, megis cadw ei natur  statudol.  Yn ychwanegol, mae’r mecanwaith arfaethedig yn cynnwys fforwm partneriaeth cymdeithasol cyfundrefn deiran, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, undebau athrawon a chyflogwyr, i ystyried yr holl faterion cyn ymofyn cyngor corff arbenigol annibynol.

Galwais am gyfarfod o bob undeb athrawon a phenaethiaid ym mis Chwefror i amlinellu’r dull yma a gwrandawais ar eu barn am y ‘Model Ymgysylltu ag Athrawon’ arfaethedig cyn lansio’r ymarfer ymgynghoriad ffurfiol.  Roedd yn glir nad oedd yna ddull unigol dewisol ar draws yr undebau.

Ar y cyfan roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi gweithredu’r ‘Model Ymgysylltu ag Athrawon’ fel y model penderfyniad i Gymru.

Rwy’n sicr bod y model yma, fel un bartneriaeth gymdeithasol, yn darparu ar gyfer cynyddu a gwella ymgysylltiad ar draws cyflogwyr ac undebau.

O’r ymatebion a dderbyniwyd, roedd yna gonsensws cryf yn erbyn yr angen am gyfnod o ymgynghori cyhoeddus fel rhan o’r broses penderfynu flynyddol. Ar ôl ystyried, rwy’n derbyn y pwyntiau sydd wedi’u codi a byddaf yn addasu’r elfen ymgynghori o’r broses penderfynu arfaethedig i fod yn ymgynghoriad ysgrifenedig â randdeiliaid allweddol yn unig.

Felly, rwy’n bwriadu derbyn y mecanwaith, yn amodol ar y newid amlinellwyd uchod.  Nawr, byddwn yn gweithio, ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, i symud ymlaen â’r gwaith cyn ei weithredu blwyddyn nesaf.

Rwy’n bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad erbyn 27 Gorffennaf 2018.