Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Awst, rhoddais wybod ichi am broblem gyflenwi ledled y DU oedd yn effeithio ar ddarpariaeth cynhyrchion sy’n cael eu defnyddio i gasglu gwaed. Mae GIG Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi arwain ein hymateb i sicrhau bod cyflenwadau ar gael i’r cleifion hynny yng Nghymru sydd â’r anghenion clinigol mwyaf.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, byrddau iechyd ledled Cymru, ac yn arbennig i’n timau patholeg. Mae eu hymroddiad parhaus wedi sicrhau bod cyflenwadau wedi bod ar gael i gynnal ein gwasanaethau hanfodol.

Mae asesiad o’r lefelau stoc ar hyn o bryd, ynghyd â hyder cynyddol yn y cyflenwadau ar gyfer y dyfodol, yn dangos ein bod nawr mewn sefyllfa i adolygu’r canllawiau clinigol. Bydd hyn yn caniatáu mwy o brofion gwaed ar gyfer ystod ehangach o gleifion a dibenion. Bydd GIG Cymru yn cyhoeddi canllawiau wedi eu diweddaru i’r perwyl hwnnw yn fuan.

Rhagwelir y bydd y canllawiau diweddaraf hynny yn cynyddu’r nifer o gleifion fydd yn gallu cael profion. Bydd clinigwyr yn cysylltu â’r cleifion hynny dros yr wythnosau nesaf i drefnu dyddiadau ar gyfer apwyntiadau. 

Nid yw’r sefyllfa wedi’i datrys yn llwyr ac rwyf i wedi gofyn bod lefelau stoc yn cael eu monitro yn ofalus. Mae’n debygol y bydd y sefyllfa’n parhau i fod angen mesurau lliniaru i’r Flwyddyn Newydd. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau bryd hynny.