Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn fy natganiad ar 3 Mai, dywedais wrth Aelodau'r Cynulliad yng ngoleuni'r materion sy'n effeithio ar y rhaglen sgrinio'r fron yn Lloegr, ac o gofio bod y rhaglen yng Nghymru ar yr un platfform TG â Lloegr, y byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu rhaglen sgrinio Bron Brawf Cymru fel cam diogelwch. Mae'r adolygiad o'r materion a ddisgrifiwyd gan Loegr bellach wedi dod i ben ac rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod i'r casgliad nad yw'r materion yn ymwneud â'r system yn Lloegr wedi effeithio ar Gymru. Er ein bod yn defnyddio yr un platfform TG â Lloegr, caiff ei weinyddu mewn ffordd wahanol a chan ddefnyddio ffiniau oedran gwahanol.
Dywedais hefyd fod grwpiau o fenywod sy’n preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd ond y gallai’r materion yn ymwneud â'r rhaglen yn Lloegr effeithio arnynt, yn bennaf oherwydd eu bod wedi cael eu gwasanaethu gan raglen Lloegr yn y gorffennol. Mae Public Health England ac NHS Digital yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn canfod y menywod yn y cohort hwn. Dylai'r rhaglen sgrinio yn Lloegr gysylltu â'r menywod hynny yr effeithir arnynt cyn diwedd mis Mai. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Public Health England i sicrhau y bydd unrhyw brofion sgrinio dilynol angenrheidiol yn cael eu cynnig yn lleol gan Bron Brawf Cymru. Gall menywod yng Nghymru sy'n poeni eu bod wedi methu apwyntiad oherwydd eu bod wedi byw yn Lloegr yn y gorffennol ffonio'r llinell gymorth bwrpasol drwy 0800 169 2692.
Er ein bod wedi cadarnhau nad yw'r materion yn Lloegr wedi effeithio ar ein rhaglen ni, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad pellach o'i systemau a'i weithdrefnau er mwyn sicrhau bod y camau diogelu priodol ar waith fel bod yr holl fenywod cymwys yng Nghymru yn cael eu galw i gael eu prawf sgrinio arferol olaf.
Mae'r profion sgrinio'r fron yn lleihau'r risg o farw o ganser y fron. Yn 2016-17, cafodd 1,185 o achosion o ganser eu canfod yn y 123,000 o fenywod a gafodd eu sgrinio. Caiff menywod yng Nghymru rhwng 50 a 70 oed eu gwahodd i gael prawf sgrinio bob tair blynedd, ac fe'u hanogir i beidio ag anwybyddu'r gwahoddiad i gael y prawf. Caiff menywod dros 70 oed gyfeirio eu hunain i gael prawf sgrinio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal saith o raglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael prawf drwy'r rhaglenni hyn i achub ar y cyfle. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.