Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Y Gweinidog Diwylliant Twristiaeth a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nid yw wedi mor bwysig erioed inni godi pontydd diwylliannol, digidol a ffisegol rhwng Cymru a gweddill y byd. Cryfder ein perthynas a gweledydd tramor, a gwell cysylltiadau trafnidiaeth, fydd yn ein galluogi i greu marchnadoedd newydd ac i gynnal ac ychwanegu at yr enw sydd gennym am fod yn lle deniadol a chystadleuol i ymweld ag ef ac i astudio, buddsoddi a chynnal busnes ynddo, yn enwedig wrth inni ymadael â'r UE.

Yn aml, mae'r gwaith marchnata a wneir ym maes twristiaeth yn denu cryn sylw i Gymru − ac mae'r buddsoddiad yng ngwaith marchnata rhyngwladol Croeso Cymru yn talu ar ei ganfed.

Mae rhyw 90% o'r bobl sy'n ymweld â Chymru yn dod o'r tu mewn i'r DU; ac mae'r rhan fwyaf o adnoddau hyrwyddo Croeso Cymru yn hoelio sylw ar y farchnad honno. Ond mae twristiaeth ryngwladol yn hollbwysig o safbwynt codi proffil cyffredinol Cymru a chreu economi ymwelwyr gynaliadwy.

Erbyn hyn, mae Cymru yn denu rhyw filiwn o ymwelwyr rhyngwladol y flwyddyn. Dyma’r niferoedd uchaf ar record, ac yn ôl arolwg diweddaraf Baromedr y Diwydiant Twristiaeth, mae 84% o fusnesau'n dweud bod eu perfformiad yn ystod yr haf naill ai’n well na'r llynedd neu'r un peth.

Wrth i dwristiaeth ryngwladol dyfu'n gyffredinol yn y DU, yr her a fydd yn ein hwynebu fydd ennill cyfran fwy o'r farchnad honno, a denu ymwelwyr i wario mwy ac i aros yn hirach yng Nghymru – a hynny mewn marchnad sy'n un hynod gystadleuol. Ar hyn o bryd, mae strategaeth farchnata ryngwladol Croeso Cymru yn hoelio sylw ac ymdrechion ar nifer dethol o farchnadoedd targed sydd â'r potensial mwyaf i dyfu.

Gweriniaeth Iwerddon yw prif farchnad Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel Stena Line ar ymgyrchoedd marchnata aml-gyfrwng, gan gynnwys hysbysebu ar y teledu, er mwyn targedu'r gynulleidfa honno'n uniongyrchol. Yn yr Almaen, mae rhaglen Croeso Cymru yn cynnwys hysbysebu, digwyddiadau, cysylltiadau â'r cyfryngau, a gweithgarwch wedi'i dargedu at gwmnïau sy'n trefnu teithiau, gan weithio gyda brandiau fel DERTOUR, TUI a Globetrotter. Mae gan Croeso Cymru dîm bach yn Efrog Newydd hefyd, sy’n canolbwyntio ar feithrin diddordeb yng Nghymru ymhlith busnesau sy'n rhan o'r diwydiant teithio. Roedd yn galonogol gweld bod twf sylweddol o 24% yn 2017 yn y busnes a gafwyd yma yng Nghymru oddi wrth y 100 prif weithredwr rhyngwladol.

Mae gwaith i groesawu newyddiadurwyr yn arwain at sylw amlwg mewn cyhoeddiadau sy'n amrywio o National Geographic yn yr Almaen i Topphälsa yn Sweden i Condé Nast yn Sbaen; ac mae nifer y dilynwyr ym mhedwar ban byd sy'n edrych ar y cynnwys a rennir gan Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dyblu yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan gyrraedd 1.45m.

Wrth i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru agor, Croeso Cymru sy'n arwain y gwaith o hyrwyddo Cymru yn gyffredinol yn y farchnad digwyddiadau busnes hefyd. Mae’r farchnad honno’n un hynod broffidiol a rhagwelir y bydd yn werth o leiaf £24m yn ychwanegol i'r economi bob blwyddyn.  

Mae treftadaeth Cymru yn rhan bwysig o'i hapêl, ac mae Croeso Cymru yn cydweithio â Cadw ac Amgueddfa Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn dod i ffeiriau twristiaeth rhyngwladol, a bod eu hymgyrchoedd marchnata, sydd wedi ennill gwobrau, yn cyd-fynd â rhaglen farchnata ryngwladol Croeso Cymru. Mae partneriaid fel Twristiaeth Gogledd Cymru yn cael eu cyllido hefyd i wneud gwaith marchnata rhyngwladol sy'n cael ei dargedu'n benodol iawn. Mae hynny wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr o Japan sy'n dod i ardal Conwy, er enghraifft.  

Y tu allan i faes twristiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn weithgar mewn amrywiaeth eang o wledydd a rhanbarthau:

Mae gan Gymru 20 o swyddfeydd ledled y byd mewn lleoliadau allweddol fel Dulyn, Dubai, Efrog Newydd, Shanghai a Brwsel. Mae'r rhwydwaith hwn yn ehangu'n gyflym; agorodd swyddfeydd newydd eleni yn Montréal, Doha, Berlin and Paris, a disgwylir hefyd i'r swyddfa yn Düsseldorf agor cyn diwedd y flwyddyn.

Rydym yn meithrin cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd allweddol: teithiwyd i Iwerddon yn gynharach yn y flwyddyn a chroesawodd Llywodraeth Cymru ddirprwyaeth o Wlad y Basg i Gymru yn ddiweddar. Cymru oedd y genedl a gafodd y prif sylw yng Ngŵyl Ryng-geltaidd Lorient eleni.

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru o ddigwyddiadau allforio dramor yn cynnwys rhyw 30 o ymweliadau â marchnadoedd allforio a ffeiriau masnach bob blwyddyn, fel MRO Ewrop yn Amsterdam, Arab Health yn Dubai a'r Gynhadledd Datblygu Gemau yn San Fransisco. Yn ystod Ymweliad Datblygu Masnach a gynhaliwyd yn ddiweddar, ymwelodd deg busnes bwyd a diod â Doha, gan fanteisio ar hediadau uniongyrchol newydd Qatar Airways o Faes Awyr Caerdydd. Mae'r sector Bwyd a Diod yng Nghymru yn gwneud yn dda ac mae ar y blaen o safbwynt y darged o sicrhau twf o 30% yn nhrosiant y sector erbyn 2020, gan gyrraedd cyfanswm o £7bn erbyn hynny. Bydd rhagor o fuddsoddi dros y ddwy flynedd i hyrwyddo allforio ar draws pob sector.

Mae'n amlwg bod cadw a denu mwy o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru yn hollbwysig, a llwyddodd rhaglen farchnata Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sicrhau twf o 60% yn nifer yr ymwelwyr â tradeandinvest.wales y llynedd. Er mai canolbwyntio ar farchnad Llundain y mae'r rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn, bwriedir i'r cynnwys digidol a ddarperir gennym apelio at gynulleidfaoedd ehangach.

Dros y deunaw mis nesaf, bydd £3m yn cael eu buddsoddi mewn marchnadoedd newydd er mwyn mynd i hyrwyddo Cymru fel lle i astudio ynddo; ac mae'n hymgyrchoedd recriwtio ym maes iechyd i ddenu gweithwyr iechyd proffesiynol i hyfforddi, gweithio a byw yma yn parhau ar sawl llwyfan rhyngwladol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud mwy i hyrwyddo Gwyddoniaeth ac Arloesedd, ac mae rhan o’r ymdrech eto’n cynnwys datblygu ein proffil a’n dylanwad yn Llundain.

Mae'r diwydiannau creadigol, yn ogystal â diwylliant a chwaraeon yn hanfodol er mwyn ehangu apêl Cymru: aeth Croeso Cymru ati am y tro cyntaf erioed yn ystod yr Ewros i hysbysebu ar y teledu yn yr Almaen, ac lansiodd ymgyrch feicio yn mewn ymateb i lwyddiant Geraint Thomas yn y Tour de France. Mae timau wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau ar draws sawl sector mewn cysylltiad â Chwpan Rygbi'r Byd yn Japan. Drwy waith a wnaed gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ddiweddar i gefnogi taith fasnach o Gymru i Tsieina, llwyddwyd i greu darlun cynhwysfawr o Gymru yn ein rhanbarthau targed yno, ac mae cyfle gwirioneddol inni fod yn fwy strategol ac uchelgeisiol gyda'r agwedd hon – gan roi rhan ganolog i ddiwylliant mewn gwaith hyrwyddo o’r fath yn y dyfodol.

Mae hyn oll bellach yn rhan o un brand cydlynol ar gyfer Cymru. Enillodd y brand hwnnw'r wobr Gorau yn y Sioe a'r wobr Aur yng Ngwobrau Dylunio Ewrop yn Porto yn 2017, ac fe'i dewiswyd gan gymheiriaid i fod yn rhan o Ddyluniadau'r Flwyddyn Beazley yn yr Amgueddfa Ddylunio yn Llundain. Ond yn anad dim arall, mae’r brand yn dwyn ffrwyth: mae effaith economaidd gwaith marchnata Croeso Cymru wedi dyblu ers 2013 ac ar ôl  defnyddio'r brand am y tro cyntaf mewn ymgyrch i recriwtio meddygon teulu, gwelwyd cynnydd o 16% yn y rheini a ddewisodd hyfforddi yng Nghymru. Bydd gwefannau digidol rhyngwladol newydd i Gymru, a fydd ar gael mewn sawl iaith, yn cael eu lansio'r flwyddyn nesaf.

Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i’r Byd hefyd yn cynnwys argymhellion eraill i Lywodraeth Cymru ar rai o’r pynciau hyn. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o ymateb i’r rhain yng nghyd-destun ein cynlluniau uchelgeisiol presennol ein hunain, fel a amlinellir yn Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Fodd bynnag, wrth ein traed y mae dechrau arni – wrth i Ffyniant i Bawb ymrwymo hefyd i greu cenedl sy'n ymfalchïo yn ei hunaniaeth. Mae buddsoddi mewn lleoedd, digwyddiadau a busnesau sy'n hyderus ac sy’n troi eu golygon tuag allan yn rhan allweddol o weithredu ar lefel ryngwladol:

Mae'r gwahaniaeth y mae digwyddiadau mawr fel Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a Ras Cefnfor Volvo yn ei wneud i ddelwedd ryngwladol Cymru yn amlwg; ac nid  cyd-ddigwyddiad oedd penderfyniad Lonely Planet i roi'r Gogledd ar y rhestr fer o ranbarthau gorau'r byd i ymweld â nhw yn 2017. Mae'n siŵr bod cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a’r ffaith bod atyniadau o safon ryngwladol, a gafodd gymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru, wedi agor. Mae Llywodraeth Cymru – drwy ei Chynllun Gweithredu ar yr Economi – yn parhau i fuddsoddi mewn digwyddiadau mawr; mae'n gweithio i sicrhau bod busnesau Cymru yn barod i allforio; mae'n cydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau buddsoddiad sylweddol o ryw £100m yn y sector twristiaeth; ac mae hefyd yn gwella seilwaith trafnidiaeth cyffredinol Cymru ar gyfer y dyfodol.  

O safbwynt cysylltiadau, mae nifer o fentrau pwysig wrthi'n cael eu datblygu. Lansiwyd Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar a bwriedir parhau i fuddsoddi yn ffyrdd, porthladdoedd a meysydd awyr Cymru. Bydd dileu'r tollau ar Bont Hafren o fudd yn ogystal.

Mae datblygu Maes Awyr Caerdydd yn un o gonglfeini'n polisi. Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd yn 2013 ac mae perfformiad y Maes Awyr wedi'i drawsnewid yn ystod y cyfnod hwnnw. Gwelwyd cynnydd o 9% yn niferoedd y teithwyr yn ystod y flwyddyn tan fis Mawrth 2018 – ac roedd cyfanswm o 1.488m o deithwyr erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2017/18.  Mae hynny'n dwf o bron 50% yn nifer y teithwyr ers i Faes Awyr Caerdydd fod mewn perchenogaeth gyhoeddus. Ac er bod trawsnewid cynaliadwyedd ariannol y Maes Awyr yn flaenoriaeth hirdymor, roedd yn galonogol gweld bod EBITA (enillion cyn treth, dibrisiant ac amorteiddiad) y Maes Awyr yn bositif y llynedd.  

Llwyddwyd i gynyddu nifer y defnyddwyr drwy drefnu teithiau newydd neu ychwanegol allan i gyrchfannau poblogaidd, a hefyd drwy gryfhau cysylltiadau strategol y Maes Awyr â marchnadoedd sy'n allweddol i Gymru o safbwynt ymwelwyr, masnach ac allforio. Mae cysylltiadau awyr newydd, megis y daith pellter hir i Doha a lansiwyd yn gynharach eleni yn dod â chyfleoedd pwysig i economi Cymru. Yn ogystal â llwybr Qatar, mae'r maes awyr wedi gweld twf sylweddol hefyd o ganlyniad i gwmnïau hedfan eraill sy'n bartneriaid, fel Flybe, KLM, Ryanair a TUI.  Mae datblygu llwybrau hedfan eraill ar gyfer Cymru yn flaenoriaeth a bu Llywodraeth Cymru, ynghyd â Maes Awyr Caerdydd, yn fforwm World Routes yn Tsieina yn ddiweddar. Mae Croeso Cymru yn cydweithio â nifer o'r cwmnïau hedfan hyn, fel Qatar Airways a KLM, hefyd er mwyn hyrwyddo Cymru mewn nifer o farchnadoedd.

Rhan o'r strategaeth hirdymor yw bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ac adrannau cyfatebol yn Llywodraeth y DU i bennu nifer o lwybrau hedfan newydd ar gyfer Cymru, gan gynnwys llwybrau hedfan i fannau eraill yn y DU, o dan y Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus. Os eir ar drywydd y mater hwn, bydd y llwybrau newydd yn cael eu caffael drwy dendr cyhoeddus. Trafnidiaeth Cymru fydd yn arwain y broses gaffael a’r gobaith yw y bydd gwasanaethau'n dechrau yng ngwanwyn 2019. Mae llwybrau sy'n dod o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael eu hesemptio rhag talu'r Doll Teithwyr Awyr, sy'n golygu y bydd teithiau yn ôl ar lwybrau domestig newydd o'r fath yn elwa ar beidio â gorfod talu treth o £26 a osodir gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn dreth y cydnabu Comisiwn Silk y dylai gael ei datganoli i Gymru, ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwneud hynny dro ar ôl tro.

Yn wir, mae datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn fater y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd. Mae angen i ddefnyddwyr a busnesau allu dewis sut y maent yn gallu cysylltu â gweddill y DU, Ewrop a'r byd. I bob pwrpas, mae'r Doll Teithwyr Awyr yn cyfyngu ar y dewis hwnnw. Bydd datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn golygu y bydd modd cyflwyno rhagor o lwybrau newydd, gan gynnwys rhagor o gyrchfannau pellter hir. Rydym yn parhau i godi'r mater gyda Llywodraeth y DU, a ddiwedd y llynedd, gwnaethom gyhoeddi tystiolaeth gref o blaid datganoli'r dreth hon. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi dechrau ymchwiliad ar fater datganoli TTA ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth fanwl ar y mater i’r pwyllgor.

Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU hefyd, a gyda phartneriaid fel VisitBritain, y British Council a'r Adran Masnach Ryngwladol, i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd. Mae gan ein holl sectorau diwydiannol allweddol − yn ogystal â'n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog − gymaint i’w gyfrannu at wella'n neges ar y llwyfan rhyngwladol.

Wrth wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ganddi hi hefyd ran allweddol i'w chwarae drwy ddod â busnesau, sefydliadau a phartneriaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i warchod ac i hyrwyddo enw da a delwedd Cymru ac i greu pontydd rhwng ein cymunedau â'i gilydd a gyda'r byd.