Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Efallai y bydd aelodau am wybod bod darpariaethau Deddfau Gwella'r Fenni 1854 i 1871 yn ei gwneud yn ofynnol i farchnad da byw gael ei chynnal o fewn ffiniau tref y Fenni. Nid oes unrhyw amod o ran y safle lle caiff y farchnad ei chynnal. Mae marchnad da byw sefydledig yn y dref ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid oes sôn am y farchnad bresennol na'i lleoliad yn y Deddfau a byddai'r awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r gyfraith pe bai'n cynnal marchnad da byw mewn lleoliad arall yn y dref.

Mae gennyf bŵer o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 i ddiddymu Deddfau fel y rhain pan fyddant 'wedi darfod, yn anarferedig neu'n ddianghenraid' yn fy marn i. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gofyn i mi wneud hynny; ac mae fy swyddogion wrthi'n ymgynghori â defnyddwyr y farchnad i weld a ddylwn wneud hyn.

Byddai'r mater hwn fel arfer yn un cyfrinachol a threfniadol. Fodd bynnag, mae'n fwy cymhleth o ganlyniad i fater cynllunio lleol. Mae gan Gyngor Sir Fynwy gynlluniau hirsefydlog i ailddatblygu safle'r farchnad da byw yn y Fenni, ac i ail-leoli'r farchnad yn Rhaglan. Mae'r cynigion hyn wedi achosi dadlau mawr yn y dref a'r ardal ehangach, ac mae sawl cais cynllunio wedi'i wrthod. Serch hynny, rhoddwyd caniatâd cynllunio i'r gwaith ailddatblygu gan bwyllgor cynllunio'r Cyngor ym mis Mehefin eleni, yn ddarostyngedig i rai amodau. Byddai hyn yn cynnwys adeiladu archfarchnad a llyfrgell newydd ar gyfer y dref. Ceir cynigion ar wahân i adeiladu marchnad da byw newydd ger Rhaglan. Mae'r rhain oll yn faterion ar gyfer y Cyngor Sir, nid Llywodraeth Cymru.

Mae'n hanfodol deall nad oes a wnelo'r cwestiwn a ofynnwyd i mi ddim â'r cynigion i gau'r farchnad bresennol, adeiladu marchnad newydd yn Rhaglan, na rhoi caniatâd i Morrisons agor archfarchnad ar y safle. Materion i'r Cyngor yw'r rheini; a chyfrifoldeb y Cyngor yw ystyried y penderfyniadau a wna ei bwyllgor cynllunio. Nid yw'r Deddfau'n ei gwneud yn ofynnol i'r farchnad gael ei chynnal ar y safle presennol nac yn gwahardd gwaith ailddatblygu ar y safle hwnnw. Ni fyddai diddymu'r Deddfau'n golygu y byddai'n rhaid cau'r farchnad bresennol; ac, a bod yn fanwl gywir, ni fyddai cadw'r Deddfau'n golygu y byddai'n rhaid cadw'r farchnad bresennol ar agor. Y naill ffordd neu'r llall, ni chaiff penderfyniad y Cyngor i roi caniatâd cynllunio ei newid, a chyfrifoldeb y Cyngor a'i ddatblygwyr fydd ei weithredu.

Yn hytrach, mae angen i mi ystyried a ddylai Cyngor Sir Fynwy barhau i fod yn ddarostyngedig i'r gofynion y mae'r Deddfau'n eu gorfodi yn ôl pob tebyg. Hyd y gwyddom, nid oes unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru, a thu hwnt o bosibl, yn amodol ar gyfyngiadau o'r fath. Gall yr holl awdurdodau lleol eraill weithredu marchnadoedd da byw o dan bwerau yn Neddf Bwyd 1984. Felly, rwy'n cynnal ymgynghoriad ar y posibilrwydd o ddiddymu'r deddfau.

Nid yw hyn yn golygu fy mod am i safle presennol y farchnad gau, nac fy mod yn cytuno â phenderfyniad y Cyngor. Byddai ond yn golygu y byddai Cyngor Sir Fynwy yn yr un sefyllfa ag unrhyw awdurdod lleol arall. Ailbwysleisiaf nad yw lleoliad presennol y farchnad yn berthnasol i'r penderfyniad hwn.

Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r ohebiaeth rwyf eisoes wedi'i chael fod y mater hwn yn parhau i fod yn un dadleuol iawn yn y dref a thu hwnt. Byddai'n gamgymeriad anwybyddu teimladau o'r fath. Felly, rwy'n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn, nid defnyddwyr y farchnad yn unig, i gyflwyno sylwadau ac ymatebion erbyn diwedd mis Tachwedd.   Bydd rhagor o fanylion am sut i gyfrannu ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn y cyfryngau lleol yn y dyfodol agos.

Fodd bynnag, rhaid i mi bwysleisio na allaf ystyried safbwyntiau sy'n ymwneud â'r gwaith ailddatblygu arfaethedig ar y safle presennol na'i effaith honedig ar y dref. Dylai cyflwyniadau'r ymatebwyr fod yn seiliedig ar y dadleuon o blaid neu yn erbyn cadw'r Ddeddf - nid ar leoliad na dyfodol y farchnad bresennol na datblygiad ehangach y dref.  Nid oes amheuaeth gennyf fod y safbwyntiau sy'n ymwneud ag ailddatblygu'r safle yn rhaid diffuant a chadarn. Ond materion cynllunio ar gyfer y Cyngor yw'r rhain.

Byddaf yn gwneud datganiad pellach i'r Cynulliad maes o law.