Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Fis Hydref diwethaf, lluniais ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad a nododd gynlluniau Cyngor Sir Fynwy i ailddatblygu safle'r farchnad da byw yn y Fenni ac adeiladu archfarchnad Morrisons ar y safle yn ogystal â llyfrgell newydd i'r dref. Rhoddodd pwyllgor cynllunio'r Cyngor ganiatâd i ailddatblygu'r farchnad fis Mehefin diwethaf; ceir cynigion ar wahân i adeiladu marchnad newydd ger Rhaglan.
Disgrifiodd fy natganiad hefyd fy rôl, sy'n ymwneud â darpariaethau Deddfau Gwella'r Fenni 1854 i 1871. Mae'r Cyngor o'r farn bod Deddf 1854 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnal marchnad da byw yn y dref ar ddyddiau penodedig, er nad yw'n hawdd dehongli cyfraith 150 mlwydd oed.
Mae gennyf bŵer o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 i ddiddymu Deddfau fel y rhain pan fyddant 'wedi darfod, yn anarferedig neu'n ddianghenraid' yn fy marn i. Gofynnodd Cyngor Sir Fynwy i mi wneud hynny. Fel y dywedais ym mis Hydref, roeddwn am glywed barn yr holl bartïon â diddordeb, yn ogystal â defnyddwyr y farchnad, ar b'un a ddylwn i wneud hynny.
Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ddiwedd mis Tachwedd, a chawsom nifer fawr iawn o ymatebion. Roedd llawer o'r rhain yn gwrthwynebu diddymu'r Deddfau am nad oeddent yn credu y dylai'r farchnad bresennol gau, neu am nad oeddent am weld y gwaith arfaethedig i ddatblygu'r safle yn mynd rhagddo. Roeddent yn ystyried bod cadw'r Deddfau yn ffordd o atal y pethau hynny rhag digwydd.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth nad yw'r safbwyntiau hyn yn rhai cadarn a diffuant. Hoffwn ddiolch i'r nifer fawr o bobl a ymatebodd am roi o'u hamser i gysylltu â mi a'm swyddogion. Ond fel y dywedais ym mis Hydref, rhoddir y fath ffydd yn y Deddfau ar gam. Nid yw'r Deddfau'n ei gwneud yn ofynnol i'r farchnad gael ei chynnal ar y safle presennol nac yn gwahardd gwaith ailddatblygu ar y safle hwnnw. Yn yr un modd, pe bawn yn diddymu'r Deddfau ni fyddai'n rhaid i'r farchnad gau. At hynny, ac fel y dywedais hefyd ym mis Hydref, ni allaf ymddangos fel pe bawn yn cadarnhau neu'n gwrthdroi penderfyniad a wnaed yn briodol gan bwyllgor cynllunio'r Cyngor - waeth pa mor gryf y mae eraill yn ei gefnogi neu'n ei wrthwynebu.
Ni allaf lunio barn ar y mater hwn nac ar faterion datblygu ehangach yn y dref. Mae p'un a ddylai'r farchnad gau; p'un a ddylid adeiladu Morrisons a llyfrgell newydd; a ph'un a ddylai fod marchnad newydd ger Rhaglan oll yn faterion lleol. Maent yn bendant yn bwysig ac yn gymhleth, ond y Cyngor ddylai benderfynu arnynt fel rhan o'i fusnes arferol, fel sy'n digwydd ym mhobman arall yng Nghymru a thu hwnt. Dylai'r rheini sy'n gwrthwynebu cynlluniau o'r fath yn yr un modd geisio dylanwadu ar y Cyngor. Cyfrifioldeb y Cyngor yw cyfiawnhau'r penderfyniadau a wneir ganddo, ar y mater hwn neu unrhyw fater arall. Ni ddylai fod yn gallu cuddio y tu ôl i statud sy'n dyddio o ganol oes Fictoria na'm rôl i o ran ei ddiddymu, o bosibl, ac er clod iddo, nid yw wedi ceisio gwneud hynny.
Dyna pam y dylid diddymu darpariaethau perthnasol Deddfau Gwella'r Fenni ac y dylai Cyngor Sir Fynwy fod yn gwbl ac yn briodol atebol am faterion datblygu lleoli, yn fy marn i. Nodaf unwaith eto nad yw hyn yn ymwneud â beth sy'n digwydd i'r farchnad. Mae a wnelo â sut y gwneir penderfyniadau ynghylch y farchnad a'r dref. Ni allaf weld unrhyw reswm da dros drin Cyngor Sir Fynwy yn wahanol i awdurdodau lleol eraill yn hyn o beth. Dylai fod yn gallu gwneud penderfyniadau lleol ynghylch marchnadoedd da byw neu unrhyw beth arall, a dylai fod yn atebol amdanynt. Mae'r Deddfau'n atal hyn. Maent yn gyfyngiad anghyfiawn ar ddemocratiaeth leol.
Yn arbennig, credaf fod y darpariaethau sy'n delio â marchnadoedd da byw yn ddiangen, gan fod pwerau mwy modern eraill ar gael i bob awdurdod lleol sy'n rheoli marchnadoedd da byw. Maent yn anarferedig hefyd, gan eu bod yn amharu ar atebolrwydd y Cyngor ac ar ei allu i wneud penderfyniadau. Ni chlywais unrhyw beth o'n hymgynghoriad a fyddai'n peri i mi farnu'n wahanol.
Fodd bynnag, cefais lawer o gynrychioliadau gan ffermwyr ledled de-ddwyrain Cymru ac yn wir ar y gororau yn Lloegr. Mynegodd llawer ohonynt bryder y gallai cyfleuster lleol ar gyfer prynu a gwerthu da byw gael ei golli, ac felly hefyd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru a chwmni lleol o arwerthwyr da byw. Ar yr un pryd, roedd llawer o'r ymatebwyr hyn, yn cynnwys yr undebau a'r arwerthwyr, yn fodlon cefnogi diddymu'r Deddfau pe na bai bwlch rhwng y farchnad yn cau yn y Fenni a'r farchnad newydd yn agor; a byddai rhai ohonynt yn croesawu cyfleuster mwy modern a hygyrch yn lle marchnad y Fenni.
Unwaith eto, materion i'r Cyngor yw'r rhain, ac mae'r Arweinydd eisoes wedi rhoi ymrwymiad cyhoeddus cadarn i ffermwyr na fydd y farchnad yn y Fenni yn cau hyd nes bydd y farchnad newydd ger Rhaglan yn agor. Deallaf fod y Cyngor yn gobeithio cwblhau memorandwm cyd-ddealltwriaeth clir gyda'r undebau ffermio a fydd yn ategu'r ymrwymiad hwn ymhellach. Hyderaf y bydd y Cyngor yn cyflawni'r ymrwymiadau clir iawn hyn a wnaeth i ffermwyr, ac y byddant yn ddigonol i dawelu meddwl ffermwyr.
Felly byddaf yn gwneud gorchymyn yn diddymu'r Deddfau maes o law; a bydd y gorchymyn hwnnw yn dod i rym fis ar ôl ei lunio. Mae'r pwerau galluogi yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn darparu y bydd y gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol yn y Cynulliad.