Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Cyhoeddwyd ar 27 Hydref fod Mainport Engineering Ltd (MPE), busnes yn Noc Penfro sy’n cynhyrchu durwaith strwythurol o ansawdd uchel, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwr ar ôl i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyflwyno gorchymyn dirwyn i ben.
Roedd MPE yn gweithredu ledled y wlad ac roedd yn gyflogwr pwysig iawn yng Ngorllewin Cymru, gan gynnig swyddi sgiliau uchel a oedd yn talu’n dda. Mae’n newyddion siomedig iawn i’r rhanbarth, ar ôl i Burfa Olew Murco, a oedd yn un o brif gwsmeriaid MPE, gau yn 2014.
Roedd MPE yn cyflogi 157 o bobl ac yn anffodus, mae 69 ohonynt wedi’u diswyddo eisoes. Er hynny, sefydlwyd trefniant interim, sydd i’w groesawu, rhwng y gweinyddwr, Price Waterhouse Coopers, a Valero sy’n caniatáu i 84 o bersonél MPE, gan gynnwys prentisiaid, aros ym mhurfa Valero er mwyn parhau i gynnig gwasanaeth i fusnes a oedd yn un o brif gwsmeriaid MPE. Bydd pedwar aelod arall o staff yn cael eu cadw ym mhrif swyddfeydd MPE.
Penodwyd Price Waterhouse Coopers i geisio dod o hyd i brynwyr ar gyfer asedau’r safle a’r adeiladau ac yn benodol, i ddod o hyd i gyfleoedd cysylltiedig ar gyfer y gweithlu medrus.
Dyfarnwyd £650,000 i MPE o Gronfa Twf Economaidd Cymru ym mis Mawrth 2015. Rhoddwyd y cyllid hwnnw i helpu gyda buddsoddiad cyfalaf o £1,627,000 er mwyn adeiladu canolfan bwrpasol yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Cafodd y telerau a’r amodau a oedd yn gysylltiedig â’r cymorth hwnnw eu bodloni’n llawn gan y cwmni ar y pryd.
Fel Llywodraeth, rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r gweithlu a’u teuluoedd yn ystod yr adeg hynod anodd ac ansicr hon. Byddwn yn cydweithio’n agos â Chyngor Sir Penfro a’r gweinyddwr i geisio dod o hyd i brynwr arall ar gyfer y busnes.
Mae sesiwn galw heibio wedi’i threfnu eisoes ar gyfer dydd Gwener, 4 Tachwedd yng Nghanolfan Arloesi’r Bont yn Noc Penfro ar gyfer unrhyw weithwyr yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad hwn. Bydd cynrychiolwyr y Ganolfan Byd Gwaith, y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd, Busnes Cymru a sefydliadau lleol eraill sy’n darparu cymorth yn bresennol yn y sesiwn honno.