Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae Maes Awyr Cymru Caerdydd (y Maes Awyr) yn elfen hollbwysig o seilwaith economaidd Cymru. Amcangyfrifwyd ei fod yn cynhyrchu mwy na £200m mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) bob blwyddyn ac yn cefnogi miloedd o swyddi yn rhanbarth De Cymru. Mae'r Maes Awyr, ynghyd â pharc busnes Bro Tathan gerllaw, yn ganolbwynt i glwstwr o fusnesau hedfan ac awyrofod llwyddiannus yn y rhanbarth. Mae'n borth i Gymru i dwristiaid, buddsoddwyr a'r miloedd lawer o ymwelwyr a ddaw bob blwyddyn i fwynhau'r nifer mawr o ddigwyddiadau chwaraeon, busnes a masnach a digwyddiadau diwylliannol a gynhelir yn y brifddinas a'r cyffiniau. Mae'n cynnig cysylltedd gwerthfawr i fusnesau yng Nghymru a theithwyr hamdden.
Yn debyg i feysydd awyr eraill ledled y DU, daeth pandemig COVID-19 â heriau sylweddol ac mae ei effeithiau yn dal i gael eu teimlo heddiw yn y Maes Awyr. Cymerodd Llywodraeth Cymru gamau pendant i ddiogelu'r Maes Awyr yn ystod y pandemig, gan ddarparu cymorth ariannol hanfodol drwy becyn achub ac ailstrwythuro tair blynedd. Wrth i'r pecyn hwn dynnu at ei derfyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda thîm arwain y Maes Awyr i ddatblygu strategaeth tymor hwy ar gyfer y busnes, sy'n canolbwyntio ar sut y gall y Maes Awyr gyfrannu at dwf economaidd a helpu i leihau anghydraddoldeb economaidd yn Ne Cymru.
Nod y strategaeth yw adeiladu ar gryfderau unigryw y Maes Awyr gyda dau brif amcan, sef:
- Denu a thyfu busnesau hedfan ac awyrofod sy'n gysylltiedig â'r Maes Awyr
- Rhaglen wedi'i thargedu i ddatblygu gwasanaethau awyr, a fydd yn canolbwyntio ar gysylltedd teithwyr â nifer bach o ganolfannau awyr rhyngwladol a chanolfannau economaidd sydd o bwys i Gymru.
Mae'r strategaeth yn cydnabod bod anghenion teithwyr awyr yng Nghymru yn cael eu diwallu gan nifer o feysydd awyr ac y bydd y sefyllfa hon yn parhau yn y dyfodol.
Er mwyn creu swyddi newydd, bydd y Maes Awyr yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Archwilio Awyrennau – helpu busnesau presennol yn y Maes Awyr i dyfu a denu busnesau newydd i'r Maes Awyr a pharc busnes Bro Tathan, gan adeiladu ar y cannoedd o swyddi sydd eisoes yn bodoli yn y sector hwn.
- Hedfan Cyffredinol – datblygu cyfleusterau er mwyn annog perchnogion awyrennau preifat a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â hedfan cyffredinol i ddefnyddio'r Maes Awyr, gan fanteisio i'r eithaf ar ei agosrwydd, wrth ymweld â De Cymru. Byddai hyn yn ychwanegu at yr hyn y mae'r Maes Awyr yn ei gynnig i drefnwyr digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol mawr yn y rhanbarth, yn ogystal â'i wneud yn fwy deniadol i deithwyr busnes pwysig a buddsoddwyr tramor.
- Cludo llwythi – denu mwy o weithrediadau logisteg er mwyn gwella'r opsiynau o ran cadwyni cyflenwi ac allforio ar gyfer y rhanbarth a gwneud y defnydd mwyaf posibl o'r gallu cynyddol i gludo llwythi yn unol â'r broses o ddatblygu llwybrau.
- Technolegau hedfan cynaliadwy – yn y tymor canolig i'r tymor hwy, manteisio i'r eithaf ar y clwstwr awyrofod a mentrau ynni gwyrdd yn y rhanbarth drwy ddarparu'r seilwaith a'r gwasanaethau sydd eu hangen i ddechrau a meithrin busnesau sy'n datblygu technolegau hedfan gwyrddach y genhedlaeth nesaf, megis cadwyni cyflenwi Tanwydd Hedfan Cynaliadwy, awyrennau trydan a systemau gyrru hydrogen.
Byddai'r swyddi ychwanegol a ragwelir, ynghyd â'r amrywiaeth o gyrsiau hedfan ac awyrofod a fyddai'n cael eu darparu gan ein sefydliadau addysg bellach ac uwch, yn cynnig mwy fyth o gyfleoedd gyrfa yn y sector i bobl ledled y rhanbarth. Nod y strategaeth yw creu amrywiaeth o swyddi newydd, o rolau peirianyddol arbenigol medrus iawn i swyddi â gofynion mynediad is, a fyddai'n cynnig llwybrau i'r sector i garfan eang o geiswyr swyddi.
Er mwyn gwella cysylltedd, bydd y Maes Awyr yn ceisio datblygu llwybrau i'r rhannau hynny o'r byd y nodwyd yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru eu bod yn bwysig i sicrhau twf economaidd, megis:
- Y Dwyrain Canol a De Asia
- Yr Undeb Ewropeaidd – canolfannau economaidd ac ariannol pwysig a meysydd awyr hyb
- Gogledd America
Bydd y Maes Awyr bob amser yn annog ei gwmnïau hedfan partner presennol i gynyddu eu gweithgarwch a chreu mwy o swyddi lleol. Bydd y cysylltedd gwell hwn yn cynnig cyfle gwych i gynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymru ac yn ei gwneud yn llawer haws i ddarpar fuddsoddwyr deithio i Gymru ac oddi yma.
Rhagwelir y gallai'r llwybrau newydd hyn a ddatblygir, gyda'i gilydd, gynyddu nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r Maes Awyr bob blwyddyn i ychydig dros 2 filiwn yn ystod y degawd nesaf. Er mwyn ategu'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau awyr, bwriedir buddsoddi yn adeilad terfynfa bresennol y Maes Awyr a seilwaith arall er mwyn sicrhau y gall ddarparu'n fwy cyfforddus ar gyfer y nifer uwch o deithwyr ac, ar yr un pryd, leihau ôl troed carbon ei weithrediadau ar y ddaear. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer gwella cysylltedd bysiau rhwng y Maes Awyr a chanol Caerdydd, fel modd i gysylltu pobl yn well â'r swyddi newydd yn y Maes Awyr a gwella profiad y porth i Gymru, er mwyn sicrhau bod mwy o ymwelwyr am y tro cyntaf yn dod yn ymwelwyr dychwel.
Mae'r mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn ystod ac ar ôl y pandemig er mwyn diogelu'r Maes Awyr wedi bod yn llwyddiannus ond maent wedi gadael y Maes Awyr mewn sefyllfa lle nad oes ganddo'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i sbarduno'r datblygiadau economaidd hyn. Er mwyn sicrhau y gall rhanbarth De Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi cyllid buddsoddi ychwanegol hirdymor i’r maes awyr ac yn ceisio cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer pecyn o hyd at £206m dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Mae gwaith dadansoddi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos, erbyn 2034, y gallai'r cyllid hwn alluogi'r Maes Awyr i gefnogi nifer sylweddol uwch o swyddi ledled y rhanbarth yn y dyfodol a chynyddu'r cyfraniad at GYG blynyddol yn sylweddol. Gan y byddai'r manteision economaidd yn ymestyn y tu hwnt i'r 10 mlynedd, dylai'r buddsoddi hwn fod o fudd i weithwyr heddiw a gweithwyr y genhedlaeth nesaf.
Er mwyn cyflawni'r amcanion economaidd a amlinellir yn y datganiad hwn, mae'n bwysig y gall arweinwyr y Maes Awyr weithredu gyda'r rhyddid ac ystwythder masnachol sydd eu hangen er mwyn sicrhau'r cytundebau gorau posibl â chwmnïau hedfan a busnesau eraill. Felly, er bod gan Lywodraeth Cymru a'r Maes Awyr gynllun ar gyfer y ffordd y byddai'r arian buddsoddi newydd yn cael ei dargedu, ni fyddwn yn cyhoeddi dadansoddiad o'r ffigurau. Yn amodol ar yr ystyriaethau masnachol hyn, er tryloywder, byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar y llif o gyllid i'r Maes Awyr ac yn sicrhau y caiff canlyniadau economaidd buddsoddiad eu monitro'n ofalus.
Gan y byddai'r buddsoddiad yn y Maes Awyr yn cael ei ystyried yn gymhorthdal o ddiddordeb penodol o dan gyfundrefn gymorthdaliadau'r DU, rhaid i'n pecyn buddsoddi arfaethedig gael ei atgyfeirio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) er mwyn iddo ei ystyried yn y lle cyntaf. Bydd y broses atgyfeirio hon yn digwydd yn ystod toriad yr haf a bydd yn cymryd rhwng 3-4 mis i'w chwblhau. Unwaith y bydd Ysgrifenyddion y Cabinet wedi cael cyfle i ystyried adroddiad y CMA ac, yna, wedi gwneud penderfyniad terfynol ynghylch pa fath o becyn buddsoddi y dylid ei gynnig, byddant yn adrodd yn ôl i'r Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y tensiynau rhwng bod yn berchen ar faes awyr a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rydym hefyd yn cydnabod yr her barhaus hon. Fodd bynnag, wedi pwyso a mesur, credwn y byddai sicrhau bod y Maes Awyr yn dychwelyd i'r lefelau o weithgarwch a welwyd cyn y pandemig y dod â manteision economaidd sylweddol i'r rhanbarth. Bydd pobl a busnesau yng Nghymru am hedfan o hyd ac, os na allant hedfan o Gaerdydd, byddant yn mynd i rywle arall, a allai gynhyrchu allyriadau carbon ychwanegol. Mae'n well ystyried strategaethau ar gyfer lleihau ein hallyriadau o deithiau hedfan rhyngwladol ar lefel y DU a'u rhoi ar waith drwy sefydliadau rhyngwladol. Wedi dweud hynny, mae'r ffaith ei bod yn berchen ar y Maes Awyr yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am rai o allyriadau Cymru o deithiau hedfan. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwnnw a dyna pam mae ein strategaeth ar gyfer y Maes Awyr yn ceisio annog datblygu technolegau gyrru awyrennau mwy cynaliadwy a'u mabwysiadu'n lleol a lleihau allyriadau carbon o seilwaith y Maes Awyr.
Gan edrych i'r tymor hwy, mae Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried modelau perchenogaeth gwahanol ar gyfer y Maes Awyr, a allai gynnwys trefniadau â'r sector preifat neu bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Rydym yn cadw meddwl agored ynghylch sut y bydd y Maes Awyr yn cael ei berchenogi yn y dyfodol, ar yr amod y gallwn fod yn hyderus ei fod yn manteisio i'r eithaf ar ei botensial fel modd i sicrhau twf economaidd cynaliadwy a lleihau anghydraddoldeb yn rhanbarth De Cymru.
Yn y tymor canolig, fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd buddsoddiad sylweddol hwn yn sicrhau y bydd Maes Awyr Caerdydd yn manteisio ar y cyfleoedd hynny y gall y maes awyr a neb arall fanteisio arnynt, i'n pobl a'n heconomi.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd mi fuaswn i’n barod i wneud hynny.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.