Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers misoedd lawer bellach rwyf wedi pwysleisio pa mor bwysig i Gymru yw cael maes awyr yng Nghaerdydd sy’n borth rhyngwladol deinamig. Mae’r gymuned fusnes hefyd wedi manteisio ar bob cyfle i gyfleu’r un neges imi. Mae’n hanfodol i’n datblygiad economaidd fod gennym gysylltiadau rhyngwladol cryf i mewn i Gymru ac allan ohoni, yn ogystal â drws agored i groesawu twristiaeth.

Yn ystod y flwyddyn hon mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu perthynas adeiladol a chadarnhaol iawn â TBI, perchnogion y maes awyr. Gyda’n gilydd, rydym wedi bod yn trafod sut i ddatblygu’r maes awyr yn y modd gorau a’i baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod. Yn ystod y trafodaethau hynny daeth i’r amlwg fod gwerthu’r maes awyr yn un opsiwn posib.


Gallaf heddiw hysbysu Aelodau’r Cynulliad fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno â TBI i symud ymlaen i brynu Maes Awyr Caerdydd. Mae’r cytundeb hwn yn golygu bod y gwaith diwydrwydd dyladwy ariannol a chyfreithiol cynhwysfawr sy’n mynd rhagddo yn gyfyngedig i Lywodraeth Cymru a TBI.  Ar ôl cwblhau’r gwaith diwydrwydd dyladwy hwn, ac os yw Llywodraeth Cymru yn hapus ei fod yn fuddsoddiad cadarn, yna gallwn fwrw ymlaen gyda’r prynu.


Mae sawl enghraifft ar draws y Deyrnas Unedig o feysydd awyr llwyddiannus sy’n eiddo cyhoeddus. Yn wir, tan ddechrau’r 1990au ‘roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd. Rwyf o’r farn mai nawr yw’r amser i’r maes awyr ddod yn eiddo cyhoeddus unwaith eto. Byddai’r trefniant hwn yn ein galluogi ni i ddatblygu dull mwy cydlynol o gynllunio ein seilwaith cenedlaethol, ac yn sicrhau bod y maes awyr yn rhan o’n strategaeth ehangach o ddatblygu economaidd.


Ar hyn o bryd, nid wyf yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru weithredu’r maes awyr yn uniongyrchol. Fy mwriad yw cael gweithredwr arbenigol addas a chymwys i’w weithredu ar ein rhan. Yn amlwg byddai gan Lywodraeth Cymru fuddiant strategol cryf, ond byddai’r maes awyr yn gweithredu ar sail fasnachol.


Yn amodol ar ddadansoddiad boddhaol o ran diwydrwydd dyladwy a gwerth am arian, rwyf o’r farn bod buddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd yn cynnig nifer o bosibiliadau cyffrous. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am gynnydd y gwaith hwn.