Ken Skates AC – Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Yn ei Ddatganiad Llafar ddoe gwnaeth y Prif Weinidog egluro ei benderfyniad ar Brosiect yr M4, a dweud y byddwn i’n gwneud datganiad arall ar y camau nesaf. Mae’r llythyr penderfyniad llawn a chopi o adroddiad Arolygydd yr Ymchwiliad wedi cael eu cyhoeddi i bawb eu gweld.

Ond fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i awgrymu, mae dal gofyn inni weithredu'n benderfynol i ddatrys problemau tagfeydd traffig traffordd y De-ddwyrain.

O gofio cymhlethdod y pwnc, effaith y ffordd bresennol ac effeithiau atebion posibl, bydd angen imi fynd i'r afael â'r mater mewn ffordd strategol ac eang. Bydd angen lleihau'r tagfeydd a'r problemau ag ansawdd yr aer nawr, yn enwedig o ystyried goblygiadau diddymu'r tollau ar bont Hafren yn ddiweddar. Mae’n amlwg imi y bydd angen gweithio gyda'n gilydd i ystyried sut y gallwn sicrhau bod nwyddau a phobl ar draws y rhanbarth yn cael symud, hynny mewn ffordd sy'n creu Cymru decach a mwy ffyniannus, sy'n cydnabod her digynsail y newid yn yr hinsawdd ac sydd hefyd yn fforddiadwy, o gofio'r pwysau aruthrol ar ein cyllidebau ar ôl 10 mlynedd o gyni a thoriadau yn ein cyllideb gyfalaf.

Yn y tymor byr, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion, gyda'n partneriaid ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, i roi ar waith gyfres o fesurau all esgor ar fanteision bach ar unwaith.

Bydd y mesurau hyn yn cynnwys:

  • swyddogion traffig ychwanegol i leihau digwyddiadau ac osgoi cau lonydd, fel yn ystod digwyddiadau mawr,
  • cerbydau achub sydd ar alw i gefnogi swyddogion traffig trwy symud rhwystrau'n gyflym, fel ag sy'n digwydd pan y gwneir gwaith ar y ffordd
  • gwybodaeth fyw am deithiau i helpu gyrwyr i wneud dewisiadau gwell
  • ystyried gweithrediad cyffyrdd er mwyn lleihau baich twnelau Bryn-glas
  • ymgyrch i newid ymddygiad gyrwyr i'w cael i wneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar gael ar y ffyrdd

Yn ogystal â'r mesurau tymor byr hyn, mae angen inni ddatblygu ffordd tymor hir, integredig a chynaliadwy fydd yn mynd i'r afael â heriau parhaus tagfeydd, newid hinsawdd a fforddiadwyedd.

Rwyf am benodi Comisiwn ar unwaith i lywio'r gwaith o ystyried y camau nesaf ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth y De-ddwyrain. Sail gwaith y Comisiwn fydd ein huchelgais i ddatblygu system drafnidiaeth aml-foddol, integredig a charbon isel o ansawdd uchel. Yn gyntaf, bydd y Comisiwn yn ystyried yr heriau, y cyfyngiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu trafnidiaeth yn y rhanbarth a'r amcanion ar ei chyfer, hyn oll yng nghyd-destun yr heriau polisi sy'n ein hwynebu, dyfodiad y Metro, ein hymrwymiadau i deithio llesol, y dirywiad yng nghyflwr adeiladwaith yr M4 trwy Gasnewydd, y problemau ag ansawdd yr aer, yr angen i gynyddu ein sylfaen drethu ddomestig a'r nod o greu cymdeithas fwy ffyniannus a mwy cydradd. Bydd wedyn yn ystyried yr atebion posibl.

Yn dilyn y gwaith hwn, bydd gofyn inni wedyn ystyried a allwn fforddio unrhyw atebion yng ngoleuni sefyllfa gyllidebol Llywodraeth Cymru. Er y bydd wastad cystadleuaeth am yr arian sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru'n glir bod sicrhau atebion cynaliadwy i'r heriau sylweddol ar hyd y coridor trafnidiaeth hwn yn cael y flaenoriaeth uchaf ganddi.

Bydd y Comisiwn yn fach a thynn ei ffocws ond bydd yn ystyried barn yr holl randdeiliaid, megis Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, grwpiau busnes, partneriaid cymdeithasol, grwpiau amgylcheddol, grwpiau defnyddwyr cludiant, cynrychiolwyr gwleidyddol lleol a chenedlaethol ac wrth gwrs, y cyhoedd.

Ynghyd â'r Datganiad hwn, rwy'n cyhoeddi heddiw Gylch Gorchwyl drafft ar gyfer y Comisiwn ac mae'n dda gen i gyhoeddi mai'r Arglwydd Terry Burns fydd yn cadeirio'r Comisiwn. Mae ei brofiad yn sylweddol ac yn eang, ac rwy'n siŵr y gwnaiff gyfiawnder â'r dasg bwysig hon. Ei dasg fydd rhoi ffocws newydd i'r drafodaeth ac edrych o'r newydd ar atebion amgen fydd yn cynnig ateb tymor hir a chynaliadwy i bobl Casnewydd a'r De.

Yn fy marn i, mae'n angenrheidiol bod barn y bobl sy'n defnyddio'r ffordd gyfredol, sy'n dioddef oherwydd ei diffygion, sy'n poeni am effeithiau amgylcheddol unrhyw ateb ac a fydd yn gorfod gwneud i unrhyw ateb weithio i wella perfformiad cymdeithasol ac economaidd ein gwlad, yn ganolog i'r gwaith hanfodol hwn. Bydd y Comisiynydd felly yn ystyried barn holl bobl Cymru.

Bydd y Comisiynydd yn edrych ar y gwaith helaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar hyn, ar y syniadau amgen a gynigiwyd yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Brosiect yr M4 a hefyd ar ffyrdd newydd o redeg ac ariannu ateb posibl. Bydd felly gofyn am ffyrdd newydd o weithio gyda phartneriaid lleol a strategol, fel awdurdodau lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i wella'r llif ar yr M4 ond gan osgoi effeithiau ar gymunedau lleol.

Ni fydd yr £114m a wariwyd ers 2013 i ddatblygu cynigion ar gyfer Prosiect £1.32 biliwn yr M4 (yn ôl prisiau 2015, sy’n gyfwerth â £1.57 biliwn yn ôl prisiau 2019) yn wariant ofer gan y bydd y Comisiwn yn gwneud defnydd da ohono trwy wneud yn siŵr fod ganddo'r wybodaeth orau am fodelau teithio, arolygon amgylcheddol a'r holl ffactorau eraill sydd ar waith yn y rhanbarth.

Rwyf am ei gwneud yn glir, fodd bynnag, mai fy ffocws i a'r Comisiwn fydd cael gwerth ein harian a chynnal asesiad priodol ynghylch sut y gallwn ddatrys heriau'r tagfeydd a'u heffeithiau yn ardal Casnewydd. Nid yw'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r Llwybr Du yn rhoi penrhyddid i mi na neb arall gynnal prosiectau anwes na ellir mo'u fforddio yn y de-ddwyrain nac yn unrhyw le arall gan ddefnyddio rhyw bot dychmygol o arian.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun dewr ac uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yn y dyfodol. Mae yna bethau cyffrous yn digwydd ledled y wlad, gan gynnwys y cynllun £5bn rydym wedi'i ddatblygu trwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd newydd, y ddeddfwriaeth arwyddocaol fydd yn helpu i ailreoleiddio'r rhwydwaith bysiau a'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn Teithio Llesol yng Nghymru. Mae datrys y tagfeydd o gwmpas yr M4 yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo i'w wneud fel rhan bwysig o'r cynlluniau hynny, ond nid oes atebion rhwydd.

Rydym wedi ymrwymo i fynd ati mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol i ddyfeisio atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy mewn cyn lleied o amser â phosibl ac rydyn ni'n disgwyl ymlaen at weithio gydag aelodau o bob rhan o'r siambr i wireddu'r uchelgais hwnnw.

Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Cylch Gorchwyl

Bydd y Comisiwn yn ystyried y problemau, y cyfleoedd, yr heriau a'r amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thagfeydd traffig ar yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru, ac yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfres o atebion posibl eraill, yng ngoleuni'r datganiad gan Brif Weinidog Cymru ar 4 Mehefin 2019 na ddylid bwrw ymlaen â'r 'Llwybr Du'

Bydd y Comisiwn yn ystyried barn yr holl randdeiliaid, gan gynnwys Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, grwpiau busnes, partneriaid cymdeithasol, grwpiau amgylcheddol, grwpiau defnyddwyr trafnidiaeth, cynrychiolwyr gwleidyddol lleol a chenedlaethol ac, wrth gwrs, y cyhoedd. 

Bydd y Comisiwn yn ystyried anghenion y genhedlaeth hon ac anghenion cenedlaethau'r dyfodol, gan ystyried y problemau presennol a thueddiadau yn y dyfodol, megis effeithiau mathau amgen o danwydd a cherbydau awtonomaidd.

Bydd y Comisiwn yn ystyried adroddiad y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd a materion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, gan gynnwys ansawdd aer.

Bydd y Comisiwn yn ystyried yr ymddygiad sydd wrth wraidd y twf parhaus mewn trafnidiaeth ar y ffyrdd, a sut y gallai'r atebion ymateb i'r ffactorau hynny.

Bydd y Comisiwn yn cynghori ar ymyriadau arloesol ac ar atebion cyllido. Caiff ystyried unrhyw faterion, gan gynnwys llywodraethu, costau, ariannu, sut i fynd ati i gynllunio, a rheoli rhaglenni/prosiectau, a chaiff hefyd argymell gwelliannau i brosesau statudol.

Bydd Model Cynllunio Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, a'r llyfrgell gyfan o wybodaeth a oedd ar gael i'r Ymchwiliad Cyhoeddus i Brosiect yr M4, ar gael i'r Comisiwn hefyd.

Bydd y Comisiwn yn gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei gefnogi gan Ysgrifenyddiaeth a fydd yn cynnwys, yn ôl y gofyn, rai o swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion ar secondiad.   

Bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad am ei ganfyddiadau interim, ynghyd ag argymhellion ar gyfer ymyriadau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith, ymhen chwe mis iddo gael ei ffurfio.