Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae mynd i’r afael â chapasiti a chydnerthedd traffordd yr M4 o amgylch Casnewydd yn her enfawr ym maes trafnidiaeth. Eto i gyd, mae’n hollbwysig wynebu’r her hon er mwyn sicrhau bod gan Gymru seilwaith economaidd effeithiol sy’n gwella ein gallu i gystadlu a hefyd sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl fanteisio ar swyddi a gwasanaethau.
Yn dilyn trafodaethau’r Cabinet yn gynharach yr wythnos hon mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r camau nesaf ynghylch corridor yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae’r mater hwn wedi bod yn destun trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU ac o’r herwydd mae’r asesiad o fforddiadwyedd gwaith gwella ar raddfa fawr i’r M4 wedi newid yn sylweddol.
Gan adeiladu ar y gwaith datblygu a’r gwaith ymgynghori helaeth a fu ynghlwm wrth Fesurau Gwella Coridor yr M4, byddwn yn ymgynghori’n ffurfiol dros yr haf â Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gallu ymgynghori â’r cyhoedd ym Medi ynghylch Cynllun drafft terfynol. Os caiff y cynllun drafft hwn ei weithredu bydd traffordd yn cael ei hadeiladu i’r de o Gasnewydd, a bydd Adroddiad Asesiad Amgylcheddol Strategol ar y Cynllun.
Dolen I adroddiadu perthnasol:
- Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru - Mesurau Gwella Coridor yr M4 – Adroddiad Arfarnu Cam 1 (Lefel Strategaeth)
- Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru - Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd – Adroddiad Arfarnu Cam 1 (Lefel Strategaeth)