Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Mae Deddf Llywodraeth Leol Democratiaeth (Cymru) 2013 (“Y Ddeddf Democratiaeth”) yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â thâl uwch swyddogion mewn Llywodraeth Leol. Yn ystod ei hynt drwy’r Cynulliad, Rwyf wedi ymrwymo i weithredu’r rhain ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 a diweddaru’r aelodau ar rhain a set gysylltiedig o fesurau. Mae’r pecyn hwn yn cynrychioli camau cryf a phendant i wella fod yn agored a tryloywder ar y mater hwn.
Mae Llywodraethu a chraffu ar dâl uwch swyddogion yn ganolog i warantu cyflenwad effeithiol ein gwasanaethau cyhoeddus yn Nghymru ac i’r cyhoedd cael ymddiriedaeth yn eu gweision cyhoeddus yn gweithredu er lles gorau eu cymunedau.
Mae’n hollbwysig bod aelodau etholedig yn cymryd cyfrifoldeb a pherchenogaeth gadarn dros benderfyniadau yn ymwneud â thal eu huwch swyddogion. Nhw sy’n gyfrifol am sicrhau dulliau llywodraethu priodol a’r defnydd gorau o arian cyhoeddus. Yn y cyswllt hwn, byddaf yn bwrw ymlaen â thair menter i helpu i ddatblygu tryloywder ac atebolrwydd yn y maes hwn.
Datganiadau ar bolisïau cyflogau
Er fy mod yn credu’n gryf mai Awdurdodau Lleol unigol a ddylai fod yn gyfrifol o hyd am gyflogau uwch swyddogion, ac mai Cynghorwyr Lleol a ddylai graffu ar benderfyniadau yn y maes hwn, mae hefyd yn hollbwysig bod Awdurdodau Lleol sy’n gwneud y penderfyniadau hyn yn cydnabod bod yn rhaid i’r penderfyniadau hyn fod yn dryloyw ac yn agored i graffu cyhoeddus. Yn sgil darpariaethau’r Ddeddf Lleoliaeth a gyflwynwyd yng Nghymru, bu’n rhaid i Awdurdodau lunio datganiadau ar eu trefniadau ar gyfer pennu cyflogau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy’n credu bod hwn yn amser priodol i adolygu sut mae’r trefniadau hyn yn gweithio.
Er bod yr adolygiad yn dangos yn glir bod pob Awdurdod wedi bod yn bodloni’r gofyniad i baratoi a chyhoeddi’r datganiadau hyn, roedd fformat, cynnwys a chyflwyniad y datganiadau yn amrywio’n sylweddol. O ganlyniad, rwyf wedi ymgynghori ar newidiadau i’r Canllawiau statudol, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi Canllawiau wedi’u diweddaru y bydd rhaid i Awdurdodau eu hystyried wrth baratoi eu datganiadau ar gyfer 2014-15. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau’n gwella cysondeb yr adroddiadau, a’i gwneud yn haws i ddod o hyd i ddatganiadau a’u darllen. Rhaid i Bwyllgorau Craffu a archwilwyr adolygu adroddiadau hyn a sicrhau yr ysbryd, yn ogystal â llythyren y gyfraith, wedi cael ei ddilyn.
Cyfraniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol at bennu cyflogau uwch swyddogion ym maes Llywodraeth Leol
O fis Ebrill eleni ymlaen, rwy’n bwriadu cychwyn darpariaethau’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) a fydd yn galluogi Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i oruchwylio codiadau cyflog Prif Weithredwyr awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, rwy’n ymgynghori ar ganllawiau statudol i’r Panel ar y pwnc hwn.
O ganlyniad, bydd unrhyw gynlluniau gan Awdurdodau Lleol yn y dyfodol i amrywio cyflogau eu prif weithredwyr, ac eithrio pan fyddant yn adlewyrchu codiad neu ostyngiad cyflog ar gyfer swyddogion yn fwy cyffredinol, yn gorfod dod i sylw’r Panel. Bydd y Panel yn cyhoeddi ei farn ar y cynlluniau wedyn, a bydd rhaid i’r Awdurdod perthnasol ystyried y farn honno.
Rheoliadau Rheolau Sefydlog Awdurdodau Lleol
Yn olaf, cyn bo hir byddaf yn diwygio’r rheoliadau sy’n rheoli’r manylion y mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol eu cynnwys am eu staff yn eu rheolau sefydlog.Byddaf yn gwneud hyn mewn da bryd i Awdurdodau Lleol fod yn gallu newid eu rheolau sefydlog yn eu cyfarfodydd blynyddol ym mis Mai.
Bydd y diwygiadau rwyf am eu cyflwyno yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl benderfyniadau ynglŷn â chyflogau uwch swyddogion gael eu gwneud gan yr awdurdod ei hun.
Os yw’r awdurdod perthnasol yn cynnig penodi prif swyddog ac yn cynnig cyflog o £100,000 y flwyddyn neu fwy iddo, dylai’r diwygiadau hefyd ddarparu bod rhaid hysbysebu’r swydd yn allanol, ac eithrio ar gyfer penodiad dros dro.
Rwyf yn fodlon y bydd y newidiadau a amlinellir uchod ac a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn darparu trefniadau mwy cardarn mewn perthynas â materion sydd wedi’u trin yn wael mewn rhai achosion ac sydd wedi denu cyhoeddusrwydd negyddol o ganlyniad, sy’n niweidiol i Lywodraeth Leol a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn rhoi cyfle pwysig i Aelodau Etholedig Lleol a uwch swyddogion i ddangos arweinyddiaeth a gwerthoedd y mae’r cyhoedd a’u gweithluoedd eu hunain y’r hawl i’w disgwyl.