Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi Cabinet newydd Llywodraeth Cymru.

Mae’r newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cynnig sefydlogrwydd, yn manteisio ar brofiad, ac yn dod â’n holl dalentau ynghyd. Mae’r portffolios newydd yn adlewyrchu’r Gymru fodern ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r prif heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu. 

Rwyf wedi treulio’r haf yn gwrando ar bobl Cymru, a bydd fy mhenodiadau i’r Cabinet newydd nawr yn canolbwyntio o ddifrif ar y blaenoriaethau a glywais ganddyn nhw.   

Dyma dîm a fydd yn cynrychioli pob rhan o Gymru gan weithio ar ran y genedl gyfan. Mae fy nhîm a minnau wedi ymrwymo i gyflawni newid cadarnhaol i bobl Cymru ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.  

Dyma’r tîm Gweinidogol llawn:  

  • Huw Irranca-Davies AS - Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jeremy Miles AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mark Drakeford AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
  • Rebecca Evans AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
  • Jayne Bryant AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
  • Lynne Neagle AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Ken Skates AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
  • Jane Hutt AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
  • Jack Sargeant AS - Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
  • Vikki Howells AS - Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
  • Sarah Murphy AS - Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Dawn Bowden AS - Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
  • Julie James AS - Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni