Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Heddiw cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei thystiolaeth i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ynghylch Rhan II ei gylch gorchwyl syn ymdrin â phwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae tystiolaeth y Llywodraeth yn gwneud y pwyntiau cyffredinol canlynol:
- disgwylir y bydd adroddiad y Comisiwn yn cyfrannu at y drafodaeth gyfansoddiadol fydd yn datblygu yn y DU, a dylai sefydlu gweledigaeth hirdymor ar gyfer llywodraethu Cymru o fewn y DU sy'n newid;
- dylai'r Comisiwn ystyried y twf yn y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ers 1999, a dymuniad pobl Cymru i weld y sefydliadau datganoledig yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o lywodraethu Cymru.
Mae'r dystiolaeth yn cynnwys pedair ystyriaeth:
- ymrwymiad i ddyfodol datganoledig i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig;
- y dylai'r sefydliadau datganoledig feddu ar y pwerau sy'n fwyaf tebygol o'u galluogi nhw i wella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru;
- pwysigrwydd cael setliad symlach a chliriach, sy'n golygu y gellir gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru, a hynny gydag atebolrwydd cliriach;
- yr angen am ddoethineb a gofal ym materion ariannol Llywodraeth Cymru.
Mae tystiolaeth y Llywodraeth yn cyflwyno cynigion ar gymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol sydd wedi'u crynhoi isod.
Dylai fod Deddf Llywodraeth Cymru newydd, sy'n creu setliad datganoli i Gymru yn seiliedig ar fodel 'Pwerau a Gedwir' o gymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad.
Dylid gallu addasu'r rhestr o faterion a gedwir yn San Steffan o bryd i'w gilydd heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol.
Dylai'r rhestr o faterion i'w cadw yn San Steffan gynnwys materion cyfansoddiadol hanfodol y DU: Materion Tramor ac Amddiffyn; Materion Cartref fel Diogelwch Gwladol, Mewnfudo a Phwerau Argyfwng, a Nawdd Cymdeithasol, Ynni, hawliau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Elusennau a Chyfraith Elusennau, Cofrestru Tir a Darlledu.
Ni ddylid lleihau pwerau deddfwriaethol presennol y Cynulliad mewn unrhyw faes.
Dylid ymestyn pwerau deddfwriaethol presennol y Cynulliad yn y meysydd canlynol:
- Dŵr – dylid dileu'r cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol a'i ymestyn i'r ffin ddaearyddol;
- Trethu – dylid ymestyn cymhwysedd yn unol â'r argymhellion yn adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012;
- Dylid datganoli plismona, atal troseddu a diogelwch cymunedol, gyda chyfiawnder troseddol i ddilyn dros gyfnod hwy, heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd;
- Trafnidiaeth – dylid rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad mewn perthynas â chyfyngiadau cyflymder, rheoleiddio bysiau, rheoleiddio tacsis a phorthladdoedd. Mae cyfrifoldebau newydd mewn perthynas â rheilffyrdd yn cael eu trafod ar wahân gyda Llywodraeth y DU.
- Hefyd dylai fod cymhwysedd deddfwriaethol cryfach mewn perthynas â Lles Cymdeithasol a Theuluoedd, a Chydraddoldeb.
Dylid cadw pwerau gweithredol presennol Gweinidogion Cymru, a'u hymestyn i'r meysydd canlynol, i gael effaith ar adegau y cytunir arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU:
- dylid trosglwyddo pwerau mewn perthynas â chaniatáu cynhyrchu ynni ar raddfa eang (ac eithrio ynni niwclear) ac argyfyngau sifil posibl i Weinidogion Cymru;
- dylai pwerau Gweinidog y Goron mewn meysydd cymhwysedd datganoledig gael eu harfer gan Weinidogion Cymru;
- dylid rhoi pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid.
Dylid cymryd camau i sicrhau trosglwyddiad hawdd i awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru maes o law, gan gynnwys hunaniaeth fwy eglur i Gymru yn uchel lysoedd Cymru a Lloegr, a derbyn yr egwyddor y dylid ymdrin â busnes cyfreithiol pobl Cymru yng Nghymru lle bo hynny'n bosibl.
Dylai'r gwaith o drosglwyddo'r holl gyfrifoldebau o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ddigwydd law yn llaw â throsglwyddiadau cyllidebol llawn, yn destun craffu annibynnol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi mai Llywodraeth a Senedd y DU a etholir yn 2015 fydd yn gwneud penderfyniadau ar argymhellion y Comisiwn, gyda newidiadau yn debygol o gael eu rhoi ar waith adeg ethol Cynulliad newydd yn 2020 neu 2021. Gallai newidiadau i gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru ddigwydd cyn hynny, drwy gytundeb.
Ym marn Llywodraeth Cymru, nid yw'r cynigion a nodir yn y dystiolaeth hon yn codi unrhyw faterion newydd o egwyddor gyfansoddiadol a fyddai'n gofyn am refferendwm arall cyn iddynt allu cael eu gweithredu.
Byddaf yn trefnu i gopïau o'r dystiolaeth gael eu rhoi yn Llyfrgell y Cynulliad.