Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llythyrau oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru at bobl sy’n gwarchod eu hunain ar fin cael eu hanfon. Mae’r llythyr hwn yn cadarnhau’r cyhoeddiad gan y Prif Swyddog Meddygol ar 15 Gorffennaf, nad oes angen i unigolion sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain barhau i wneud hynny o 16 Awst ymlaen. Mae’r llythyr hefyd yn rhoi manylion am y cymorth sydd ar gael o hyd i’r grŵp hwn. Mae copi o’r llythyr wedi’i atodi er gwybodaeth ichi.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.