Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llythyrau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd i’r unigolion hynny sy’n agored iawn i niwed ac a oedd yn arfer gwarchod eu hunain. Rydym wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ar draws ein cymunedau. Mae’r llythyr hwn yn cynnwys y cyngor diweddaraf i bobl am y ffordd orau i’w diogelu eu hunain. Mae copi o’r llythyr i’w gael ynghlwm er gwybodaeth ichi.