Jane Davidson , y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cyflwynaf yma ddatganiad ysgrifenedig sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am waith parhaus Llywodraeth y Cynulliad i atal a lleihau llygredd a achosir gan ddiwydiant a thraffig yng Nghymru.
Effeithiau llygredd o ddiwydiant a thraffig ar iechyd
Ceir amrywiaeth o lygryddion aer a allyrrir o ddiwydiant a thraffig y mae'n hysbys neu yr amheuir eu bod yn effeithio'n niweidiol ar iechyd pobl a'r amgylchedd. Gall lefelau uwch o lygredd aer a/neu amlygiad hirdymor iddo arwain at symptomau a chyflyrau sy'n effeithio ar y system anadlol a'r system lidiol, a chyflyrau mwy difrifol megis clefyd y galon a chanser hefyd.
Y ddau brif lygrydd aer sy'n peri'r pryder mwyaf yw nitrogen deuocsid a gronynnau. Allyrrir y ddau wrth i ddiwydiant a cherbydau ymlosgi tanwydd, a daw gronynnau o lwch y ffordd a thraul breciau a theiars hefyd. Prif ffynonellau’r llygryddion hyn mewn ardaloedd trefol yw dulliau trafnidiaeth. Mae'r sector trafnidiaeth eisoes wedi gwneud cynnydd i leihau allyriadau ac mae'n parhau i wneud hynny, yn bennaf drwy reoliadau Ewropeaidd ynghylch allyriadau cerbydau. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn nodi bod rheolaethau ar allyriadau ar gyfer cerbydau diesel wedi methu â chyrraedd y lleihad disgwyliedig.
Y llynedd, cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer (COMEAP) sy'n amcangyfrif bod llygredd aer o ronynnau yn y DU o ganlyniad i weithgareddau dynol yn cael effaith ar iechyd sydd gyfwerth â gostyngiad o tua chwe mis mewn disgwyliad oes o enedigaeth. Mae llygredd aer o ronynnau mân yn gysylltiedig â mwy na 455,000 o farwolaethau cynamserol yn 27 aelod-wladwriaeth yr UE bob blwyddyn, yn ôl astudiaeth ddiweddar gan y Ganolfan Pwnc Ewropeaidd ar gyfer Aer a Newid yn yr Hinsawdd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd. Yn fwy diweddar, daeth prosiect 'Aphekom', a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, i'r canlyniad y gallai mynd ati, mewn 25 o ddinasoedd mawr Ewrop, i gydymffurfio â chanllaw ansawdd aer blynyddol Sefydliad Iechyd y Byd ar ronynnau mân ychwanegu hyd at 22 mis at ddisgwyliad oes pobl sy'n 30 oed a hŷn, ac arwain at 31.5 biliwn Ewro o fanteision ariannol ym maes iechyd bob blwyddyn, gan gynnwys arbedion o ran gwariant ar iechyd, absenoldeb a chostau anniriaethol megis lles, disgwyliad oes ac ansawdd bywyd.
Gall nitrogen deuocsid lidio'r ysgyfaint a lleihau ymwrthedd i heintiau anadlol megis y ffliw.
Mae sŵn o ffyrdd, rheilffyrdd a ffynonellau diwydiannol hefyd yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Ar lefelau isel gellir ei anwybyddu'n hawdd, yn arbennig mewn trefi a dinasoedd lle rydym yn gyfarwydd â rhywfaint o sŵn cefndirol. Ond wrth i sŵn fynd yn uwch, gall boeni pobl neu dynnu eu sylw, amharu ar sgyrsiau a gwaith arall neu weithgareddau hamdden a tharfu ar gwsg. Mae amlygiad hirdymor i lefelau uchel o sŵn traffig ffordd wedi'i gysylltu â risg uwch o effeithiau mwy difrifol ar iechyd pobl, er nad yw'n glir ar hyn o bryd faint o hyn a achosir gan y llygryddion aer sydd hefyd yn bresennol os ydych yn byw yn agos at ffyrdd prysur. Yng Nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar Sŵn yn y Nos ar gyfer Ewrop, nodir bod plant, yr henoed, merched beichiog, pobl sâl a gweithwyr sifft yn grwpiau mewn perygl.
Yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae cerbydau unigol a phrosesau diwydiannol wedi dod yn lanach ac yn dawelach (yn achos diwydiant, mae hyn yn cyfeirio at allyriadau i ddŵr a thir hefyd). Fodd bynnag, mae'r nifer gynyddol o gerbydau ar ein ffyrdd a'r galw cynyddol am gynhyrchion diwydiannol wedi cael effaith groes i'r uchod gan wrthweithio'r duedd a oedd yn gwella fel arall.
Er mwyn gwneud cynnydd pellach, sydd ei angen i leihau effeithiau andwyol llygredd ar iechyd pobl, hyd yn oed ar y lefelau llygredd isel presennol, bydd angen datblygu a defnyddio technolegau newydd ac, yn aml, gwneud newidiadau o bosibl i'n ffordd o fyw a'r dirwedd drefol.
Cynnydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn
Bu lleihau lefelau llygredd yn brif flaenoriaeth yn ystod fy nghyfnod fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Mae Cymru'n manteisio ar ei maint bach, gan weithio mewn partneriaeth agos gyda'n rheoleiddwyr a'n busnesau i ddiogelu a gwella ein hiechyd a'r amgylchedd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflawni llawer hyd yma â'r pwerau sydd gennym. Drwy gydweithio â gweinyddiaethau eraill yn y DU, cyflwynwyd offerynnau deddfwriaethol effeithiol ac effeithlon sy'n diwallu anghenion Cymru ac yn bodloni ein rhwymedigaethau Ewropeaidd yn y ffordd orau.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig y Strategaeth Ansawdd Aer ddiweddaraf ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2007. Mae'r strategaeth yn nodi ffordd ymlaen ar gyfer gwaith a phrosesau cynllunio o ran materion ansawdd aer. Mae'n nodi'r safonau a'r amcanion ansawdd aer i'w cyflawni ac yn cyflwyno fframwaith polisi newydd i fynd i'r afael â gronynnau mân. Mae system Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol ar waith yng Nghymru â'r nod cyffredinol o sicrhau bod pob ardal yn cyflawni'r amcanion ansawdd aer cenedlaethol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adolygu eu hansawdd aer cyfredol ac asesu a oes unrhyw leoliadau lle mae'r ffigurau'n debygol o fod yn fwy na'r amcanion cenedlaethol. Os nodir ardaloedd o ormodiant, yna bydd angen diffinio un ardal rheoli ansawdd aer neu fwy a llunio cynlluniau gweithredu cysylltiedig. Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i rannu arfer gorau ac maent yn cyfrannu'n helaeth i'r adolygiad parhaus o'r system Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol. Y llynedd, mewn cydweithrediad â Defra a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, gwnaethom gyhoeddi'r ddogfen Air Pollution: Action in a Changing Climate, sy'n nodi'r manteision iechyd ychwanegol y gellir eu cyflawni drwy integreiddio polisïau ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd yn agosach yn y dyfodol. Mae llygredd aer yn deillio o'r un gweithgareddau sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd yn aml (trafnidiaeth a chynhyrchu trydan yn arbennig) felly mae'n gwneud synnwyr i ystyried sut y gellir rheoli'r cysylltiadau rhwng meysydd polisi ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd er mwyn sicrhau'r effaith orau.
Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) yn trosi'r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni baratoi mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer ein hardaloedd trefol mwyaf a'n ffyrdd a'n rheilffyrdd prysuraf a'u hadolygu a'u diweddaru fel y bo angen bob pum mlynedd.
Un o'r offerynnau pwysicaf sydd gennym yw'r gyfundrefn Caniatáu Amgylcheddol sy'n ymdrîn â phob math o lygredd o ffynonellau diwydiannol. Mae'r gyfundrefn Caniatáu Amgylcheddol yn cwmpasu tua 1,650 o fusnesau yng Nghymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i weithgareddau diwydiannol a all achosi llygredd wneud cais i Asiantaeth yr Amgylchedd neu awdurdodau lleol am ganiatâd cyn y gallant ddechrau gweithredu. Mae'r caniatadau hyn yn gosod amodau ar weithrediad y gweithgareddau hyn a chyfyngiadau ar eu hallyriadau. Maent yn cynnwys allyriadau i'r aer (gan gynnwys, er enghraifft, sŵn, llwch ac arogleuon), y dŵr a'r tir. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddiwydiant sicrhau bod eu hallyriadau o lygredd yn is na'r lefelau sy'n dderbyniol ar gyfer ein hiechyd a'r amgylchedd ac i ddefnyddio'r technegau gorau sydd ar gael i leihau eu hallyriadau yn barhaus. Mae hwn yn offeryn hanfodol a phwerus i ddiogelu ein hamgylchedd. Mae'n sicrhau y caiff dinasyddion sy'n agored i niwed a rhai mewn ardaloedd difreintiedig yr un lefel o ddiogelwch rhag llygredd â phawb arall yng Nghymru.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac awdurdodau lleol sy'n rheoleiddio'r gyfundrefn Caniatáu Amgylcheddol. Drwy ddefnyddio'r gyfundrefn hon dros y pedair blynedd diwethaf, rhoddwyd cyfle i ddiwydiant ac Asiantaeth yr Amgylchedd (sy'n rheoleiddio'r rhan fwyaf o'r safleoedd hyn yn Ne Cymru) gyflawni'r lleihad canlynol ar y safleoedd a reoleiddir ganddynt yn Ne Cymru:
- Lleihad o 60 y cant mewn ocsidau sylffwr (SOx) a lleihad o 24 y cant mewn ocsidau nitrogen (NOx) - mae'r ddau yn cyfrannu at ansawdd yr aer yn lleol yn ogystal â glaw asid mewn lleoedd eraill.
- Lleihad o 27 y cant mewn gronynnau (PM10), sef y prif lygrydd arall sy'n peri pryder yng Nghymru ynghyd â NOx.
- Lleihad o 37 y cant mewn carbon monocsid o ddiwydiant wedi'i reoleiddio, sef prif ffynhonnell carbon monocsid yng Nghymru.
- Lleihad o 26 y cant mewn allyriadau plwm, y gall lefelau uchel ohono fod yn wenwynig i blanhigion, anifeiliaid a phobl.
- Llai o achosion o lygredd difrifol (a elwir yn gategori 1 a 2), sef dim ond 7 yn 2010 o gymharu â 24 y flwyddyn yn 2007.
Yn y Cynulliad hwn, lluniwyd ein dull o weithredu rhwymedigaethau Ewropeaidd o ran llygredd diwydiannol a thraffig yn unol â'n gweledigaeth o Gymru gynaliadwy. Mae'r enghreifftiau o ba mor agos y mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, cwmnïau a chynrychiolwyr o'r gymuned ehangach i gyflawni ein nodau amgylcheddol cyffredin yn cynnwys y canlynol:
- Datblygwyd ein cynllun gweithredu ar sŵn, sydd bellach yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn, gyda mewnbwn gan awdurdodau lleol, darparwyr trafnidiaeth a sefydliadau eraill â diddordeb. Mae'r ddogfen ymgynghori yn egluro'n fanwl ein gweithdrefn arfaethedig i ddynodi ardaloedd tawel (un o ofynion y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol) drwy wahodd awdurdodau lleol i enwebu mannau agored cyhoeddus tawel y gwyddys eu bod yn cyfrannu at les cymunedau lleol. Ar ôl nodi'r cyfryw ardaloedd, fe'u diogelir rhag datblygiadau sy'n creu sŵn o dan ddarpariaethau a gyflwynwyd yn argraffiad 2010 o Bolisi Cynllunio Cymru.
- Ym Mhort Talbot rydym wedi dod â diwydiant, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, trigolion a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghyd, yn aml mewn fforymau agored, i fynd i'r afael â'r heriau a grëir oherwydd llygredd aer o ronynnau. O ganlyniad i sesiwn dystiolaeth agored ddiweddar cyflwynwyd nodyn cyngor allweddol (ar yr ymchwiliad i ronynnau yn ardal Port Talbot) gan Grŵp Arbenigol Ansawdd Aer y DU. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd nifer fach o achosion o ormodiant o ronynnau (PM10) yn ardal Port Talbot. Yng Nghwm Tawe i'r gogledd o Abertawe, rydym wedi datblygu dull partneriaeth tebyg gyda diwydiant a rheoleiddwyr i fynd i'r afael a'r lefelau o nicel yn yr aer.
- Mae ein hawdurdodau lleol wedi gweithio'n agos gyda'i gilydd a chyda swyddogion Llywodraeth y Cynulliad ac o ganlyniad i'r dull cydgysylltiedig hwn, gwnaethant gyflawni eu cwota llawn o arolygiadau o ddiwydiant rheoledig y llynedd gan ragori ar eu cymheiriaid yn Lloegr. Rydym wedi cyflawni gwaith o safon uchel gyson i reoli llygredd diwydiannol ledled Cymru, rhywbeth sy'n hanfodol i ddiogelu ein hamgylchedd ac iechyd y cyhoedd, yn arbennig dinasyddion sy'n agored i niwed a rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
- Mae Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 a 2010 wedi parhau i weithredu dull integredig o atal a rheoli llygredd o ddiwydiant yng Nghymru. Rydym wedi cydweithio â Defra i lunio rheoliadau cyfansawdd er mwyn gweithredu pecyn rheoleiddio cyson er lles busnesau a rheoleiddwyr, sy'n sicrhau y caiff iechyd pobl a'r amgylchedd eu diogelu'n briodol, a rhoi gwerth am arian gan ddiwallu anghenion Cymru ar yr un pryd. Drwy symleiddio rhannau gweithdrefnol y ddeddfwriaeth, mae'r modd y gweithredir y system ganiatáu a ddefnyddir gan y diwydiant a rheoleiddwyr wedi cael ei symleiddio hefyd, ond nid yw, mewn unrhyw ffordd, wedi effeithio'n andwyol ar safonau amgylcheddol na safonau iechyd pobl. Mae'r fframwaith rheoliadau hwn wedi symleiddio'r broses gymhleth yr arferai diwydiant a rheoleiddwyr ei hwynebu, lle roedd llawer o gyfundrefnau caniatáu amgylcheddol â'r un canlyniadau amgylcheddol, ac mae mawr angen hyn.
Edrych ymlaen
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol fel y nodwyd yn Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, yw cymunedau diogel, cynaliadwy sy'n lleoedd deniadol i fyw a gweithio ynddynt a lle mae'r bobl sy'n byw yno'n iach. Felly mae ein blaenoriaethau ar gyfer y Cynulliad nesaf o ran llygredd yn cynnwys y canlynol:
- Fel y nodwyd yn Cymru'n Un: Cysylltu'r Genedl - sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, dylai system drafnidiaeth gyhoeddus gyflym, dibynadwy, fforddiadwy, sydd mor bwysig i ddenu buddsoddiad busnes a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, hefyd sicrhau aer glanach a mwy o seibiant rhag sŵn mewn ardaloedd trefol, gan wella ansawdd bywyd pawb. Am resymau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth yn nhymor nesaf y Cynulliad.
- Byddwn yn diweddaru ein mapiau sŵn strategol a'n cynlluniau gweithredu yn unol â'r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol, gan ddefnyddio adnoddau ar-lein i rannu gwybodaeth ac arfer gorau â phartneriaid o blith awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth ledled Cymru. Byddwn yn teilwra ein cynlluniau gweithredu ar sŵn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y budd i gymunedau lleol. Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn manteisio ar synergeddau posibl rhwng sŵn a meysydd polisi eraill, yn enwedig seilwaith trafnidiaeth ac ansawdd aer.
- Adeiladu ar gryfderau ein dull tryloyw, integredig presennol o reoleiddio diwydiant, gan weithio mewn partneriaeth â gweinyddiaethau eraill yn y DU i sicrhau cysondeb a thegwch i fusnesau yng Nghymru ac, ar yr un pryd, ddatblygu'r adnoddau mwyaf effeithlon i leihau a, lle y bo'n bosibl, ddileu llygredd ledled Cymru.